- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
2.—(1) Yn unol â pharagraff (2) caiff y Cynulliad ofyn i unrhyw berson a ragnodir ym mharagraff (3) i roi iddo, neu i berson a awdurdodir ganddo, esboniad ar unrhyw un o'r canlynol—
(a)unrhyw ddogfennau, cofnodion neu eitemau a arolygwyd, a gopïwyd neu a gynhyrchwyd o dan adrannau 98 i 100 o'r Ddeddf;
(b)unrhyw wybodaeth a ddarparwyd o dan yr adrannau hynny;
(c)unrhyw faterion y mae unrhyw rai o swyddogaethau'r Cynulliad o dan Bennod 6 o Ran 2 o'r Ddeddf yn cael eu harfer mewn cysylltiad â hwy,
mewn achosion lle mae'r Cynulliad yn credu y byddai esboniad yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion y Bennod honno.
(2) Rhaid i ofyniad o dan baragraff (1) gael ei roi ar ffurf hysbysiad ysgrifenedig y mae'n rhaid iddo hefyd—
(a)nodi'r rheswm pam y mae angen yr esboniad;
(b)pennu a yw'r esboniad i'w roi yn bersonol neu'n ysgrifenedig (ac eithrio bod rhaid gofyn i'r esboniad fod yn ysgrifenedig pan fo'r person y gofynnir iddo roi'r esboniad yn gorff o bersonau corfforaethol neu anghorfforedig); ac
(c)pan fo'r esboniad i'w roi yn bersonol, pennu'r amser ar gyfer ei roi a'r man lle mae i'w roi, a rhoi hysbysiad rhesymol o'r amser hwnnw a'r man hwnnw.
(3) Y personau a ragnodir yw—
(a)awdurdod lleol;
(b)aelod neu gyn aelod awdurdod lleol;
(c)maer etholedig neu gyn faer etholedig awdurdod lleol, o fewn yr ystyr a roddwyd iddynt yn adran 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1);
(ch)swyddog neu gyn swyddog i awdurdod lleol;
(d)darparydd gwasanaeth;
(dd)cyflogai neu gyn gyflogai darparydd gwasanaeth neu unrhyw berson arall sy'n cynorthwyo neu sydd wedi cynorthwyo'r darparydd hwnnw i ddarparu un o wasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yng Nghymru;
(e)person (nad yw'n un a restrwyd mewn unrhyw un o is-baragraffau (b) i (dd)) sy'n cynorthwyo neu sydd wedi cynorthwyo awdurdod lleol i ddarparu un o wasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yng Nghymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: