xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1510 (Cy.114)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Esboniadau ynghylch Gwasanaethau Cymdeithasol) 2005

Wedi'u gwneud

7 Mehefin 2005

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 101(1) a (2) a 195(1) a (2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Esboniadau ynghylch Gwasanaethau Cymdeithasol) 2005 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2005.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

mae “cyflogai” (“employee”), mewn cysylltiad â darparydd gwasanaeth, yn cynnwys aelod neu ymddiriedolwr;

ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “darparydd gwasanaeth” (“service provider”) yw person nad yw'n awdurdod lleol ac sy'n darparu, sydd wedi darparu neu sydd wedi cytuno i ddarparu un o wasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yng Nghymru; ac

ystyr “y Ddeddf” (“the Act” ) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.

(3Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn rheoliad 2 isod.

Pŵer i ofyn am esboniadau

2.—(1Yn unol â pharagraff (2) caiff y Cynulliad ofyn i unrhyw berson a ragnodir ym mharagraff (3) i roi iddo, neu i berson a awdurdodir ganddo, esboniad ar unrhyw un o'r canlynol—

(a)unrhyw ddogfennau, cofnodion neu eitemau a arolygwyd, a gopïwyd neu a gynhyrchwyd o dan adrannau 98 i 100 o'r Ddeddf;

(b)unrhyw wybodaeth a ddarparwyd o dan yr adrannau hynny;

(c)unrhyw faterion y mae unrhyw rai o swyddogaethau'r Cynulliad o dan Bennod 6 o Ran 2 o'r Ddeddf yn cael eu harfer mewn cysylltiad â hwy,

mewn achosion lle mae'r Cynulliad yn credu y byddai esboniad yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion y Bennod honno.

(2Rhaid i ofyniad o dan baragraff (1) gael ei roi ar ffurf hysbysiad ysgrifenedig y mae'n rhaid iddo hefyd—

(a)nodi'r rheswm pam y mae angen yr esboniad;

(b)pennu a yw'r esboniad i'w roi yn bersonol neu'n ysgrifenedig (ac eithrio bod rhaid gofyn i'r esboniad fod yn ysgrifenedig pan fo'r person y gofynnir iddo roi'r esboniad yn gorff o bersonau corfforaethol neu anghorfforedig); ac

(c)pan fo'r esboniad i'w roi yn bersonol, pennu'r amser ar gyfer ei roi a'r man lle mae i'w roi, a rhoi hysbysiad rhesymol o'r amser hwnnw a'r man hwnnw.

(3Y personau a ragnodir yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)aelod neu gyn aelod awdurdod lleol;

(c)maer etholedig neu gyn faer etholedig awdurdod lleol, o fewn yr ystyr a roddwyd iddynt yn adran 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(2);

(ch)swyddog neu gyn swyddog i awdurdod lleol;

(d)darparydd gwasanaeth;

(dd)cyflogai neu gyn gyflogai darparydd gwasanaeth neu unrhyw berson arall sy'n cynorthwyo neu sydd wedi cynorthwyo'r darparydd hwnnw i ddarparu un o wasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yng Nghymru;

(e)person (nad yw'n un a restrwyd mewn unrhyw un o is-baragraffau (b) i (dd)) sy'n cynorthwyo neu sydd wedi cynorthwyo awdurdod lleol i ddarparu un o wasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yng Nghymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Mehefin 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a restrir yn rheoliad 2(3) roi esboniad i'r Cynulliad am unrhyw beth a restrir yn rheoliad 2(1), er enghraifft dogfen a gymerwyd o fangre gan un o arolygwyr awdurdodedig y Cynulliad o dan adran 99 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (“Deddf 2003”).

Dim ond pan fo'r Cynulliad yn credu bod yr esboniad yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion Pennod 6 o Ran 2 o Ddeddf 2003 y caiff osod gofyniad i esbonio o dan y Rheoliadau hyn. O dan y Bennod honno mae gan y Cynulliad swyddogaeth o ran hyrwyddo gwelliant yn y modd y mae gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol Cymru yn cael eu darparu ac o ran ymgymryd ag adolygiadau o'r ffordd y mae awdurdodau lleol Cymru yn cyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol ac o ran cynnal ymchwiliadau i'r ffordd y maent yn gwneud hynny. Rhaid i'r Cynulliad gydymffurfio hefyd â rheoliad 2(2) pan fydd yn gosod gofyniad i esbonio.

Effaith adran 101(3) o Ddeddf 2003 yw bod person sy'n methu â chydymffurfio, a hynny heb esgus rhesymol, ag unrhyw ofyniad a osodir o dan y Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

(1)

2003 p.43. Gweler adran 148 o'r Ddeddf i gael y diffiniad o “prescribed”.