Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchu Colagen Buchol y Bwriedir i Bobl ei Fwyta yn y Deyrnas Unedig (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1Darpariaethau cyffredinol

Deunyddiau crai a sefydliadau sy'n cyflenwi deunyddiau crai

1.—(1Dim ond crwyn anifeiliaid buchol, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), a ganiateir eu defnyddio fel deunyddiau crai ar gyfer cynhyrchu colagen y bwriedir i bobl ei fwyta yn y Deyrnas Unedig.

(2Gwaherddir defnyddio crwyn a gyflwynwyd i brosesau barcio.

(3Rhaid i'r deunyddiau crai ddod o anifeiliaid buchol a gigyddwyd mewn lladd-dy y gwelwyd bod eu carcasau yn ffit i'w bwyta gan bobl yn dilyn archwiliad ante mortem a post mortem.

(4Rhaid i'r deunyddiau crai ddod o ladd-dai, canolfannau casglu neu danerdai.

(5Awdurdodir canolfannau casglu a thanerdai sy'n cyflenwi deunyddiau crai o dan reoliad 6 o Reoliadau Colagen a Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) (Cymru) 2003(1).

Cludo a storio deunyddiau crai

2.—(1Rhaid cludo deunyddiau crai a arfaethir ar gyfer cynhyrchu colagen o dan amodau glendid gan ddefnyddio dull priodol o gludo.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3) rhaid cludo a storio deunyddiau crai yn oer neu wedi eu rhewi, oni phrosesir hwy o fewn 24 awr ar ôl eu hanfon.

(3Caniateir cludo a storio crwyn a halltwyd, eu sychu a'u calchu a chrwyn a gafodd eu trin ag alcali neu asid ar dymheredd amgylchynol.

(4Rhaid cadw'r ystafelloedd storio mewn cyflwr da a glân, fel na fyddant yn ffynhonnell halogi'r deunyddiau crai.

(5Yn ystod y cludo ac ar adeg y traddodi i'r canolfannau casglu a'r sefydliadau sy'n cynhyrchu colagen, rhaid bod dogfen fasnachol gyda'r deunyddiau crai yn unol â'r model a nodir yn Rhan 2 o'r Atodlen hon.

Sefydliadau sy'n cynhyrchu colagen

3.—(1Rhaid i'r cynhyrchu ar colagen y bwriedir i bobl ei fwyta ddigwydd mewn sefydliad a awdurdodwyd o dan reoliad 5 o Reoliadau Colagen a Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) (Cymru) 2003.

(2Rhaid rhoi ar waith yn y sefydliad system sy'n ei gwneud yn bosibl cysylltu pob swp cynhyrchu a anfonir gyda'r llwythi â'r deunyddiau crai cysylltiedig sy'n dod i mewn, yr amodau cynhyrchu ac amser y cynhyrchu.

Gweithgynhyrchu colagen

4.—(1Rhaid cynhyrchu colagen drwy broses a fydd yn sicrhau bod y deunydd crai yn mynd drwy driniaeth sy'n ymwneud â golchi, addasu pH gan ddefnyddio asid neu alcali a ddilynir gan rinsio unwaith neu fwy, hidlo ac allwthio.

(2Ni fydd colagen a gynhyrchir yn unol ag is-baragraff (1) yn mynd drwy brosesau pellach heblaw proses sychu.

(3Ni fydd colagen nas bwriadir i bobl ei fwyta yn cael ei gynhyrchu a'i storio yn yr un sefydliad â cholagen y bwriedir i bobl ei fwyta onid yw'r colagen nas bwriadir i bobl ei fwyta wedi cael ei gynhyrchu a'i storio o dan yr un amodau ag a nodir yn yr Atodlen hon.

(4Gwaherddir defnyddio cyffeithyddion heblaw'r rhai a ganiateir o dan Gyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 95/2/EC ar ychwanegion bwyd heblaw lliwiau a melysyddion(2) (fel y diwygir y Gyfarwyddeb honno ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn).

Cynhyrchion gorffenedig

5.—(1Cymerir mesurau priodol, gan gynnwys profion, i sicrhau bod pob swp cynhyrchu colagen, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yn bodloni'r meini prawf microbiolegol a gweddilliol a nodir yn y Tabl yn Rhan 3 o'r Atodlen hon.

(2Os yw natur cynnyrch gorffenedig o'r math fel ei fod yn golygu na fyddai'n briodol ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â'r terfynau lleithder a lludw a bennir yn Rhan 3 o'r Atodlen hon, ni fydd y terfynau hynny yn gymwys i'r cynnyrch hwnnw.

Lapio, pacio, storio a chludo

6.—(1Rhaid lapio, pacio, storio a chludo colagen y bwriedir i bobl ei fwyta o dan amodau hylendid boddhaol, ac yn benodol —

(a)rhaid darparu ystafell ar gyfer storio deunydd, lapio a phacio;

(b)rhaid i'r lapio a'r pacio ddigwydd mewn ystafell neu mewn lle a fwriadwyd i'r diben hwnnw yn unig.

(2Rhaid i ddeunyddiau lapio a phacio sy'n cynnwys colagen —

(a)dwyn marc adnabod sy'n rhoi'r manylion canlynol —

(i)yr enw “United Kingdom” neu'r llythrennau blaen “UK”,

(ii)a ddilynir gan rif cofrestru'r sefydliad a'r llythrennau blaen “EC”; a

(b)dwyn y geiriau “Collagen fit for human consumption in the United Kingdom”; a

(c)dwyn y dyddiad paratoi a rhif y swp.

(3Rhaid bod dogfen fasnachol gyda'r colagen yn ystod y cyfnod y cludir ef a rhaid iddi ddwyn —

(a)y geiriau “Collagen fit for human consumption in the United Kingdom”; a

(b)y dyddiad paratoi a rhif y swp.

(2)

OJ Rhif L61, 18.3.95, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2003/114/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L24, 29.1.2004, t.58).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources