- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004(1) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) —
(a)hepgorer y diffiniadau o “asiantaeth farcio allanol” a “profion Cwricwlwm Cenedlaethol” a “thasgau Cwricwlwm Cenedlaethol”; a
(b)yn y diffiniad o “pynciau perthnasol” hepgorer paragraffau (b) ac (c).
(3) Yn rheoliad 7 hepgorer paragraffau (10)(b), (11), (12) a (13).
(4) Yn Atodlen 2 —
(a)yn lle paragraff 1(1) rhodder y canlynol —
“(1) Canlyniadau asesiad athrawon o lefel cyrhaeddiad disgybl mewn pwnc ym mhob un o'r pynciau perthnasol, a chanlyniadau asesiad athrawon o lefel cyrhaeddiad y disgybl ym mhob targed cyrhaeddiad mewn Saesneg neu, pan fydd y disgybl yn dilyn y rhaglen astudio a elwir “Cymraeg”, ym mhob targed cyrhaeddiad mewn Cymraeg.”;
(b)yn lle paragraff 2(1) rhodder y canlynol —
“(1) Canlyniadau asesiad athrawon o lefel cyrhaeddiad disgybl mewn pwnc ym mhob un o'r pynciau perthnasol, a chanlyniadau asesiad athrawon o lefel cyrhaeddiad y disgybl ym mhob targed cyrhaeddiad mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth, a pan fydd disgybl yn dilyn y rhaglen astudio a elwir “Cymraeg”, mewn pob targed cyrhaeddiad mewn Cymraeg.”; ac
(c)yn lle paragraff 3(1) rhodder y canlynol —
“(1) Canlyniadau asesiad athrawon o lefel cyrhaeddiad disgybl mewn pwnc ym mhob un o'r pynciau perthnasol.”.
(5) Yn Atodlen 3—
(a)ym mharagraff 1(2) mewnosoder ar ôl y geiriau “mathemateg a gwyddoniaeth,” y geiriau “ac a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad ym mhob targed cyrhaeddiad mewn Saesneg neu, pan fydd disgybl yn dilyn y rhaglen astudio a elwir “Cymraeg”, mewn pob targed cyrhaeddiad mewn Cymraeg,”;
(b)ym mharagraff 2(2) mewnosoder ar ôl y geiriau “pynciau perthnasol” y geiriau “, ac a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad ym mhob targed cyrhaeddiad mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth, a phan fydd disgybl yn dilyn y rhaglen astudio a elwir “Cymraeg”, mewn pob targed cyrhaeddiad mewn Cymraeg,”; ac
(c)ym mharagraff 3 —
(i)yn is-baragraff (2) hepgorer y geiriau “a (lle bo'n gymwys) gan brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol a thasgau'r Cwricwlwm Cenedlaethol”; ac
(ii)hepgorer is-baragraffau (5) a (6).
(6) Yn Atodlen 4—
(a)ym mharagraff 1(2) mewnosoder ar ôl y geiriau “Mathemateg a Gwyddoniaeth,” y geiriau “ac a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad ym mhob targed cyrhaeddiad mewn Saesneg neu, pan fydd disgybl yn dilyn y rhaglen astudio a elwir “Cymraeg”, mewn pob targed cyrhaeddiad mewn Cymraeg,”;
(b)yn lle paragraff 2(2) rhodder y canlynol —
“(2) Canrannau'r disgyblion hynny a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad yn y pynciau Cymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth ac o ran yr ail gyfnod allweddol yn unig, canrannau'r disgyblion hynny a gyflawnodd bob un o'r lefelau cyrhaeddiad ym mhob targed cyrhaeddiad mewn, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth a phan fydd y disgybl yn dilyn y rhaglen astudio a elwir “Cymraeg”, mewn pob targed cyrhaeddiad mewn Cymraeg, a ddangoswyd yn ôl penderfyniad asesiad athrawon.”; ac
(c)hepgorer paragraff 2 (5) a (6).
O.S. 2004/1026 (Cy.123), fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2004/2914 (Cy. 253).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: