Dehongli3

1

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “a bennir” (“specified”) yw pennu mewn perthynas â'r trydydd cyfnod allweddol gan orchymyn adran 108(3)(a) a (b);

  • ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw'r awdurdod o'r enw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru5;

  • mae i “blwyddyn ysgol” yr ystyr a roddir i “school year” yn adran 97 o'r Ddeddf;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg 2002;

  • ystyr “y dogfennau cysylltiedig” (“the associated documents”) yw'r dogfennau a gyhoeddir gan yr Awdurod ac sy'n gosod unrhyw lefelau cyrhaeddiad, targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau craidd a'r pynciau sylfaen eraill, ac sy'n effeithiol yn rhinwedd y gorchymynion adran 108(3)(a) a (b) ar gyfer y pynciau hynny ac sydd mewn grym am y tro6;

  • ystyr “gorchmynion adran 108(3)(a) a (b)” (“section 108(a) and (b) orders”) yw gorchmynion a wneir, neu sydd â'r un effaith â phetaent wedi'u gwneud, o dan adran 108(3)(a) a (b) o'r Ddeddf ac sy'n pennu targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio;

  • ystyr “y pynciau craidd” (“the core subjects”) yw mathemateg, Saesneg, gwyddoniaeth, ac mewn perthynas ag ysgolion cyfrwng Cymraeg, Cymraeg;

  • ystyr “y pynciau sylfaen eraill” (“the other foundation subjects”) yw technoleg, addysg gorfforol, hanes, daearyddiaeth, celfyddyd, cerddoriaeth, Cymraeg os nad yw'r ysgol yn ysgol gyfrwng Gymraeg, ac iaith dramor fodern a bennir mewn gorchymyn a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu ag effaith fel pe bai wedi'i wneud, o dan adran 105(4) o'r Ddeddf7;

  • ystyr “TC” (“AT”) yw targed cyrhaeddiad;

  • ystyr “tymor yr haf” (“summer term”) yw'r tymor terfynol mewn blwyddyn ysgol;

  • mae i “ysgol a gynhelir” yr ysytyr a roddir i “maintained school” yn adran 97 o'r Ddeddf.

2

Mae cyfeiriadau at—

a

y trydydd cyfnod allweddol i'w dehongli yn unol ag adran 103 o'r Ddeddf; a

b

lefelau cyrhaeddiad, targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio yn gyfeiriadau at y lefelau, y targedau a'r rhaglenni a osodir yn y dogfennau cysylltiedig.

3

Os nad yw unrhyw rif cyfartalog y mae'n ofynnol ei benderfynu drwy'r Gorchymyn hwn yn rhif cyfan, rhaid ei dalgrynnu i'r rhif cyfan agosaf, gan dalgrynnu'r ffracsiwn un hanner i fyny i'r rhif cyfan nesaf.

4

Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl yn y Gorchymyn hwn sy'n dwyn y rhif hwnnw ac mae unrhyw gyfeiriad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn yr erthygl y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddi.