xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Wedi'u gwneud
17 Mai 2005
Yn dod i rym
31 Mai 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 167(1) a 167(5) a 179(1) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hawliau Ailfynediad a Fforffediad (Swm a Chyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mai 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i anheddau yng Nghymru a feddiennir o dan les hir(2).
2.—(1) £350 yw'r swm rhagnodedig at ddibenion is-adran 1(a) o adran 167 (methu â thalu swm bychan am gyfnod byr) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.
(2) Tair blynedd yw'r cyfnod rhagnodedig at ddibenion is-adran (1)(b) o'r adran honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mai 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adran 167(1) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 yn atal landlord sydd o dan les hir ar annedd rhag arfer hawl ailfynediad neu fforffediad os bydd tenant yn methu â thalu swm wedi'i wneud o rent, taliadau gwasanaeth neu daliadau gweinyddu (neu gyfuniad ohonynt) oni bai bod y swm sydd heb ei dalu yn fwy na'r swm rhagnodedig neu'n swm sydd wedi'i wneud o swm a fu'n daladwy am fwy na chyfnod rhagnodedig neu'n swm sy'n cynnwys swm o'r fath.
Mae Rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran anheddau yng Nghymru yn unig, yn rhagnodi'r swm o £350 a chyfnod o dair blynedd.