- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
17 Mai 2005
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (c), (e) ac (f), (17)(2), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac wedi ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. O ran y Rheoliadau hyn —
(a)eu henw yw Rheoliadau Cyflasynnau Mwg (Cymru) 2005;
(b)deuant i rym —
(i)yn achos rheoliad 3 a rheoliadau 1 a 2 i'r graddau y maent yn berthnasol i reoliad 3, ar 27 Mai 2005;
(ii)neu fel arall, ar 16 Mehefin 2005;
(c)maent yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “darpariaeth Gymunedol benodedig” (“specified Community provision”) yw un o ddarpariaethau Rheoliad 2065/2003 a bennir yng ngholofn 1 ac a ddisgrifir yng ngholofn 2 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990”;
ystyr “Rheoliad 2065/2003” (“Regulation 2065/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 2065/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyflasynnau mwg a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio mewn bwydydd neu arnynt(4).
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 2065/2003 yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn Rheoliad 2065/2003 ac yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at erthygl neu atodiad â Rhif yn gyfeiriad at yr erthygl neu'r atodiad â'r Rhif hwnnw yn Rheoliad 2065/2003.
3. Yr Asiantaeth Safonau Bwyd(5) yw'r awdurdod cenedlaethol cymwys at ddibenion Erthygl 7 o Reoliad 2065/2003 (cais am awdurdodiad).
4.—(1) Os aed yn groes i unrhyw un o Erthyglau 4.2, 5.1, 5.2, 9.4, neu 9.5 mewn perthynas ag unrhyw fwyd—
(a)rhaid trin y bwyd hwnnw at ddibenion adran 9 o'r Ddeddf fel pe bai'n methu cydymffurfio â'r gofynion diogelwch bwyd; a
(b)os rhan o swp, lot neu o lwyth o fwyd o'r un dosbarth neu ddisgrifiad yw'r bwyd hwnnw, hyd nes y profir i'r gwrthwyneb, rhaid tybio bod y cyfan o'r bwyd sydd yn y swp hwnnw, yn y lot hwnnw neu yn y llwyth hwnnw'n methu cydymffurfio â'r gofynion hynny.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn mae “bwyd” yn cynnwys unrhyw gyddwysiad sylfaenol o fwg, ffracsiwn sylfaenol o dar neu gyflasyn mwg deilliedig.
5. Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig sydd yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu sy'n methu cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
6. Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn a Rheoliad 2065/2003 fel y maent yn gymwys at ddibenion y Ddeddf —
(a)adran 3 (rhagdybiaeth y bwriedir bwyd i'w fwyta gan bobl);
(b)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(c)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 14 neu 15 o'r Ddeddf honno);
(ch)adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs busnes);
(d)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(dd)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(e)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd);
(f)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd);
(ff)adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e);
(g)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(ng)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
7. Bydd rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mai 2005
Rheoliadau 2 a 4
| Darpariaeth Rheoliad 2065/2003 | Y Pwnc |
|---|---|
| Erthygl 4.2 | Gwahardd marchnata cyflasyn mwg nad yw ar y rhestr o gyflasynnau mwg awdurdodedig, neu unrhyw fwyd y mae cyflasyn mwg o'r fath yn bresennol ynddo neu arno. Gwahardd marchnata cyflasyn mwg awdurdodedig, neu unrhyw fwyd y mae cyflasyn mwg o'r fath yn bresennol ynddo neu arno, ac eithrio yn unol ag unrhyw amodau defnyddio a osodwyd yn yr awdurdodiad. |
| Erthygl 5.1 | Gwahardd defnyddio pren wedi'i drin, oni ellir dangos drwy dystysgrif neu ddogfennaeth briodol nad yw'r sylwedd a ddefnyddir i drin y pren, wrth iddo ymlosgi, yn peri sylweddau a allai fod yn wenwynig. Gofyniad y gellir dangos drwy ddogfennaeth neu dystysgrif fod rhywun wedi cydymffurfio â'r gwaharddiad a ddisgrifir uchod. |
| Erthygl 5.2 | Gofyniad y cydymffurfir â'r amodau yn Atodiad 1 wrth gynhyrchu cynhyrchion cynradd. Gwahardd y defnydd o'r cyflwr olewaidd annhoddadwy mewn dŵ r wrth gynhyrchu cyflasynnau mwg. |
| Erthygl 9.4 | Gofyniad bod yn rhaid i ddeiliad awdurdodiad neu unrhyw weithredydd busnes bwyd arall, sy'n defnyddio cynnyrch awdurdodedig, neu gyflasyn mwg deilliedig a gynhyrchir o gynnyrch awdurdodedig, gydymffurfio ag unrhyw amodau neu gyfyngiadau sydd ynghlwm wrth yr awdurdodiad. |
| Erthygl 9.5 | Gofyniad bod deiliad awdurdodiad yn hysbysu'r Comisiwn o unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd sy'n ymwneud â chynnyrch awdurdodedig, ac a allai ddylanwadu ar werthuso diogelwch y cynnyrch awdurdodedig hwnnw. |
| Erthygl 13.1 | Gofyniad bod gweithredwyr busnesau bwyd yn sicrhau y trosglwyddir yr wybodaeth benodedig i'r gweithredydd busnes bwyd sy'n derbyn y cynnyrch pan osodir y cynnyrch ar y farchnad am y tro cyntaf. |
| Erthygl 13.2 | Gofyniad, yn sgil gosod cynnyrch ar y farchnad am y tro cyntaf, bod gweithredwyr busnesau bwyd sy'n gosod y cynhyrchion ar y farchnad yn trosglwyddo'r wybodaeth benodedig yn Erthygl 13.1 i'r gweithredwyr busnes bwyd sy'n derbyn y cynnyrch, bob tro y rhoddir y cynnyrch ar y farchnad. |
| Erthygl 13.3 | Gofyniad bod gan weithredwyr busnesau bwyd systemau a gweithdrefnau yn eu lle sy'n nodi gan bwy y maent wedi derbyn y cynnyrch ac i bwy y maent wedi ei drosglwyddo. |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu ar gyfer gorfodi a gweithredu rhai o ddarpariaethau penodol Rheoliad (EC) Rhif 2065/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar y cyflasynnau mwg a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio mewn bwydydd neu arnynt (OJ Rhif L309, 26.11.2003, t.1.).
Mae'r Rheoliadau hyn yn benodol —
(a)yn dynodi'n ffurfiol yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn awdurdod cymwys cenedlaethol i dderbyn ceisiadau ar gyfer awdurdodi cyddwysiadau sylfaenol newydd o fwg a ffracsiynau sylfaenol newydd o dar i'w defnyddio fel y cyfryw mewn bwydydd neu arnynt, neu wrth gynhyrchu cyflasynnau mwg deilliedig i'w defnyddio mewn bwydydd neu arnynt (rheoliad 3);
(b)yn cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 ynghyd â rhai addasiadau o ran eu cymhwyso at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliadau 4 a 6);
(c)yn sefydlu cosbau am fethu cydymffurfio â rhai o ddarpariaethau penodol Rheoliad (EC) Rhif 2065/2003 (rheoliad 5 a'r Atodlen);
(ch)yn darparu ar gyfer gorfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn a Rheoliad (EC) Rhif 2065/2003 (rheoliad 7) gan awdurdodau bwyd penodol.
Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
OJ Rhif L31, 1.2. 2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4). Yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Diwygio) 2004 (O.S. Rhif 2004/2990), gydag effaith o 7 Rhagfyr 2004 ymlaen datgymhwysir y gofyniad i ymgynghori a geir yn adran 48(4) o Ddeddf 1990 mewn unrhyw achos lle y mae ymgynghori yn ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002.
OJ Rhif L309, 26.11.2003, t.1.
Cyfeiriad yr Asiantaeth yng Nghymru yw Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: