- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
1. O ran y Rheoliadau hyn —
(a)eu henw yw Rheoliadau Cyflasynnau Mwg (Cymru) 2005;
(b)deuant i rym —
(i)yn achos rheoliad 3 a rheoliadau 1 a 2 i'r graddau y maent yn berthnasol i reoliad 3, ar 27 Mai 2005;
(ii)neu fel arall, ar 16 Mehefin 2005;
(c)maent yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “darpariaeth Gymunedol benodedig” (“specified Community provision”) yw un o ddarpariaethau Rheoliad 2065/2003 a bennir yng ngholofn 1 ac a ddisgrifir yng ngholofn 2 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990”;
ystyr “Rheoliad 2065/2003” (“Regulation 2065/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 2065/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyflasynnau mwg a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio mewn bwydydd neu arnynt(1).
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 2065/2003 yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn Rheoliad 2065/2003 ac yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at erthygl neu atodiad â Rhif yn gyfeiriad at yr erthygl neu'r atodiad â'r Rhif hwnnw yn Rheoliad 2065/2003.
3. Yr Asiantaeth Safonau Bwyd(2) yw'r awdurdod cenedlaethol cymwys at ddibenion Erthygl 7 o Reoliad 2065/2003 (cais am awdurdodiad).
4.—(1) Os aed yn groes i unrhyw un o Erthyglau 4.2, 5.1, 5.2, 9.4, neu 9.5 mewn perthynas ag unrhyw fwyd—
(a)rhaid trin y bwyd hwnnw at ddibenion adran 9 o'r Ddeddf fel pe bai'n methu cydymffurfio â'r gofynion diogelwch bwyd; a
(b)os rhan o swp, lot neu o lwyth o fwyd o'r un dosbarth neu ddisgrifiad yw'r bwyd hwnnw, hyd nes y profir i'r gwrthwyneb, rhaid tybio bod y cyfan o'r bwyd sydd yn y swp hwnnw, yn y lot hwnnw neu yn y llwyth hwnnw'n methu cydymffurfio â'r gofynion hynny.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn mae “bwyd” yn cynnwys unrhyw gyddwysiad sylfaenol o fwg, ffracsiwn sylfaenol o dar neu gyflasyn mwg deilliedig.
5. Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig sydd yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu sy'n methu cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
6. Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn a Rheoliad 2065/2003 fel y maent yn gymwys at ddibenion y Ddeddf —
(a)adran 3 (rhagdybiaeth y bwriedir bwyd i'w fwyta gan bobl);
(b)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(c)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 14 neu 15 o'r Ddeddf honno);
(ch)adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs busnes);
(d)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(dd)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(e)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd);
(f)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd);
(ff)adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e);
(g)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(ng)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
7. Bydd rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mai 2005
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: