xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 26(2)
1. Enw, rhyw, dyddiad a man geni a chyfeiriad gan gynnwys ardal yr awdurdod lleol.
2. Llun a disgrifiad corfforol.
3. A yw domisil neu gartref arferol y darpar fabwysiadydd mewn rhan o Ynysoedd Prydain ac os yw cartref arferol y darpar fabwysiadydd yno, ers pa bryd.
4. Tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol.
5. Cred grefyddol, os oes un.
6. Y berthynas â'r plentyn (os oes un).
7. Asesiad o bersonoliaeth a diddordebau'r darpar fabwysiadydd.
8. Os yw'r darpar fabwysiadydd yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac os yw'n gwneud y cais ar ei ben ei hun, asesiad o addasrwydd y darpar fabwysiadydd ar gyfer mabwysiadu a'r rhesymau dros hynny.
9. Manylion o unrhyw achosion blaenorol mewn llys teulu y bu'r darpar fabwysiadydd yn cymryd rhan ynddynt.
10. Enwau a chyfeiriadau tri chanolwr a fydd yn rhoi geirda personol am y darpar fabwysiadydd, na chaiff mwy nag un ohonynt fod yn berthynas iddo.
11. Enw a chyfeiriad ymarferydd meddygol cofrestredig y darpar fabwysiadydd, os oes un.
12. O ran y darpar fabwysiadydd —
(a)os yw'n briod, dyddiad a man y briodas;
(b)os yw wedi ffurfio partneriaeth sifil, dyddiad a man cofrestru'r bartneriaeth honno; neu
(c)os oes partner gan y darpar fabwysiadydd, manylion y berthynas honno.
13. Manylion unrhyw briodas, partneriaeth sifil neu berthynas flaenorol.
14. Coeden deulu gyda manylion y darpar fabwysiadydd, ei blant ac unrhyw frodyr a chwiorydd, gyda'u hoedran (neu eu hoedran pan fuont farw).
15. Cronoleg o'r darpar fabwysiadydd ers ei eni.
16. Sylwadau darpar fabwysiadydd am ei brofiad am y rhianta a gafodd yn ei blentyndod a sut y dylanwadodd hyn arno.
17. Manylion unrhyw brofiad sydd gan y darpar fabwysiadydd o ofalu am blant (gan gynnwys fel rhiant, llys-riant, rhiant maeth, gwarchodwr plant neu ddarpar fabwysiadydd) ac asesiad o'i allu yn y cyswllt hwnnw.
18. Unrhyw wybodaeth arall sy'n dangos sut y mae'r darpar fabwysiadydd ac unrhyw un arall sy'n byw ar ei aelwyd yn debygol o ymwneud â'r plentyn a leolir ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd.
19. Disgrifiad o deulu ehangach y darpar fabwysiadydd a'i rôl a'i bwysigrwydd i'r darpar fabwysiadydd a'i rôl a'i bwysigrwydd tebygol i'r plentyn a leolir ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd.
20. Asesiad o gartref a chymdogaeth y darpar fabwysiadydd.
21. Manylion aelodau eraill o aelwyd y darpar fabwysiadydd (gan gynnwys unrhyw blant i'r darpar fabwysiadydd p'un a ydynt yn preswylio ar yr aelwyd ai peidio).
22. Cymuned leol y darpar fabwysiadydd, gan gynnwys i ba raddau yr integreiddiodd y teulu, grwpiau o gymheiriaid, cyfeillgarwch a rhwydweithiau cymdeithasol y teulu.
23. Manylion hanes addysg a chyraeddiadau'r darpar fabwysiadydd a sylwadau'r darpar fabwysiadydd ar sut y cafodd hyn ddylanwad.
24. Manylion hanes cyflogaeth y darpar fabwysiadydd a sylwadau'r darpar fabwysiadydd ar sut y cafodd hyn ddylanwad.
25. Cyflogaeth bresennol y darpar fabwysiadydd a'i farn am gyflawni cydbwysedd rhwng cyflogaeth a gofal plant.
26. Manylion incwm a gwariant y darpar fabwysiadydd.
27. Gallu'r darpar fabwysiadydd —
(a)i rannu hanes geni'r plentyn a materion emosiynol cysylltiedig;
(b)deall a chefnogi'r plentyn drwy deimladau posibl o golled a thrawma.
28. O ran y darpar fabwysiadydd —
(a)ei resymau dros ddymuno mabwysiadu plentyn;
(b)ei farn a'i deimladau am fabwysiadu a'i arwyddocâd;
(c)ei farn am ei gynneddf i rianta;
(ch)ei farn am ei gyfrifoldeb rhiant a'r hyn y mae'n ei olygu;
(d)ei farn am amgylchedd cartref addas i blentyn;
(dd)ei farn am bwysigrwydd a gwerth addysg;
(e)ei farn a'i deimladau ynghylch pwysigrwydd magwraeth grefyddol a diwylliannol plentyn;
(f)ei farn a'i deimladau am gyswllt o ran plentyn.
29. Barn aelodau eraill o aelwyd y darpar fabwysiadydd a'r teulu ehangach o ran mabwysiadu.
30. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall a allai fod o gymorth i'r panel mabwysiadu neu'r asiantaeth fabwysiadu.
Rheoliad 26(3)(a)
1. Enw, dyddiad geni, rhyw, pwysau a thaldra.
2. Hanes iechyd y teulu, sy'n ymwneud â'r rhieni, brodyr a chwiorydd (os oes rhai) a phlant (os oes rhai) y darpar fabwysiadydd, gyda manylion unrhyw salwch corfforol difrifol neu salwch meddwl difrifol a chlefyd neu anhwylder etifeddol.
3. Anffrwythlondeb neu resymau dros beidio â chael plant (os yw'n gymwys).
4. Hanes iechyd yn y gorffennol, gan gynnwys manylion unrhyw salwch corfforol difrifol neu salwch meddwl difrifol, anabledd, damwain, derbyn i ysbyty neu fynd i adran cleifion allanol, ac ym mhob achos y driniaeth a gafwyd.
5. Hanes obstetrig (os yw'n gymwys).
6. Manylion unrhyw salwch presennol, gan gynnwys y driniaeth a'r prognosis.
7. Archwiliad meddygol llawn.
8. Manylion o unrhyw yfed alcohol a all beri pryder neu a yw'r darpar fabwysiadydd yn ysmygu neu'n defnyddio cyffuriau sy'n creu caethiwed.
9. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r asiantaeth yn ystyried a all gynorthwyo'r panel.
10. Llofnod, enw, cyfeiriad, a chymwysterau'r ymarferydd meddygol cofrestredig a baratôdd yr adroddiad, dyddiad yr adroddiad a'r archwiliadau a wnaed ynghyd ag enw a chyfeiriad unrhyw feddyg arall a all roi gwybodaeth bellach am unrhyw rai o'r materion uchod.