xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4DYLETSWYDDAU ASIANTAETH FABWYSIADU O RAN DARPAR FABWYSIADYDD

Swyddogaeth y panel mabwysiadu

27.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r panel mabwysiadu ystyried achos y darpar fabwysiadydd a gaiff ei atgyfeirio ato gan yr asiantaeth fabwysiadu a gwneud argymhelliad i'r asiantaeth honno a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn.

(2Wrth ystyried pa argymhelliad i'w wneud, o ran y panel mabwysiadu—

(a)rhaid iddo bwyso a mesur a chymryd i ystyriaeth yr holl wybodaeth a'r adroddiadau a ddaeth iddo yn unol â rheoliad 26;

(b)caiff ofyn i'r asiantaeth gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r panel yn ystyried ei bod yn angenrheidiol; ac

(c)rhaid iddo gael y cyngor cyfreithiol yr ystyria sy'n angenrheidiol o ran yr achos.

(3Pan fydd y panel mabwysiadu yn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth fabwysiadu bod y darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn, caiff ystyried ac ar yr un pryd caiff gynghori'r asiantaeth am y nifer o blant y gall y darpar fabwysiadydd fod yn addas i'w mabwysiadu, ystod eu hoedran, eu rhyw a'u nodweddion (iechyd a chymdeithasol).

(4Cyn gwneud unrhyw argymhelliad, rhaid i'r panel mabwysiadu wahodd y darpar fabwysiadwyr i ddod i gyfarfod a gynhelir gan y panel.