xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu sefydlu o leiaf un panel, a elwir y panel mabwysiadu, yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu benodi person i gadeirio'r panel, sef person na fu'n aelod etholedig, ymddiriedolwr, cyfarwyddwr neu'n gyflogai o'r asiantaeth o fewn y 12 mis diwethaf, sydd â'r sgiliau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer cadeirio'r panel mabwysiadu.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid bod dim mwy na deg aelod i'r panel mabwysiadu, gan gynnwys y person a benodwyd o dan baragraff (2), a rhaid iddo gynnwys —
(a)dau weithiwr cymdeithasol;
(b)yn achos cymdeithas fabwysiadu gofrestredig, person sy'n gyfarwyddwr, rheolwr neu'n swyddog arall o'r asiantaeth sy'n ymwneud â rheolaeth yr asiantaeth;
(c)yn achos awdurdod lleol, un aelod etholedig o'r awdurdod;
(ch)y person a benodwyd fel cynghorydd meddygol i'r asiantaeth yn unol â rheoliad 9, (neu un ohonynt os penodwyd mwy nag un cynghorydd meddygol), tra pery'r person hwnnw'n gynghorydd meddygol;
(d)o leiaf dri pherson arall (y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn fel “personau annibynnol”) gan gynnwys lle y bo'n rhesymol ymarferol o leiaf ddau berson â phrofiad personol o fabwysiadu.
(4) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu benodi dau o aelodau'r panel mabwysiadu y bydd y naill neu'r llall yn gweithredu fel cadeirydd os yw'r person a benodwyd i gadeirio'r panel yn absennol neu os yw ei swydd yn wag (“yr is-gadeirydd”).
(5) Caniateir sefydlu'r panel mabwysiadu ar y cyd gan unrhyw ddau awdurdod lleol ond dim mwy na thri awdurdod lleol (“panel mabwysiadu ar y cyd”) ac os sefydlir panel mabwysiadu ar y cyd—
(a)mwyafswm nifer y personau y gellir eu penodi i'r panel hwnnw yw un ar ddeg;
(b)rhaid i bob awdurdod lleol benodi dau berson i'r panel, y mae'n rhaid i un ohonynt fod yn weithiwr cymdeithasol a rhaid i'r llall fod yn aelod etholedig o'r awdurdod hwnnw;
(c)drwy gytundeb rhwng yr awdurdodau lleol rhaid penodi—
(i)person i gadeirio'r panel nad yw'n aelod etholedig o unrhyw un o'r awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y panel ac y mae ganddo'r sgiliau a'r profiad sy'n angenrheidiol i gadeiro'r panel mabwysiadu;
(ii)o leiaf dri aelod annibynnol gan gynnwys lle y bo'n rhesymol ymarferol o leiaf ddau berson â phrofiad personol o fabwysiadu;
(iii)dau o aelodau'r panel y bydd y naill neu'r llall yn gweithredu fel cadeirydd os yw'r person a benodwyd i gadeirio'r panel yn absennol neu os yw ei swydd yn wag (“yr is-gadeirydd”).
(iv)cynghorydd meddygol i un o'r awdurdodau.
(6) Rhaid peidio â phenodi person yn berson annibynnol ar banel mabwysiadu os yw'r person hwnnw—
(a)yn cael ei gyflogi neu wedi cael ei gyflogi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf —
(i)yn achos cymdeithas fabwysiadu gofrestredig, gan yr asiantaeth honno; neu
(ii)yn achos awdurdod lleol, gan yr awdurdod hwnnw i gyflawni unrhyw swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod hwnnw;
(b)yn aelod etholedig neu wedi bod yn aelod etholedig o'r awdurdod hwnnw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf;
(c)yn ymddiriedolwr neu wedi bod yn ymddiriedolwr yn achos cymdeithas fabwysiadu gofrestredig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf neu os yw wedi ymwneud â rheolaeth yr asiantaeth honno;
(ch)yn rhiant mabwysiadol y mae'r asiantaeth wedi lleoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gydag ef neu berson y mae'r asiantaeth wedi ei gymeradwyo yn berson addas i fod yn rhiant mabwysiadol onid oes o leiaf ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i'r gorchymyn mabwysiadu gael ei wneud ynglyn â'r plentyn;
(d)os yw'n perthyn—
(i)yn achos cymdeithas fabwysiadu gofrestredig, i berson a gyflogir gan yr asiantaeth honno; neu
(ii)yn achos awdurdod lleol, i berson a gyflogir gan yr awdurdod hwnnw i gyflawni unrhyw un o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod hwnnw.
(7) At ddibenion paragraff (6)(d) mae person (“person A”) yn perthyn i berson arall (“person B”) os yw person A —
(a)yn aelod o aelwyd person B neu'n briod â pherson B neu'n bartner sifil i berson B;
(b)yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd i berson B; neu
(c)yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd i'r person sy'n briod â pherson B neu'n bartner sifil i berson B.
4.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau y rheoliad hwn a rheoliad 10, rhaid i aelod o'r panel mabwysiadu beidio â dal swydd am gyfnod hirach na 5 mlynedd, ac ni chaiff ddal swydd ar banel mabwysiadu yr un asiantaeth fabwysiadu am fwy na dau gyfnod yn olynol heb gael bwlch yn y cyfamser am gyfnod o dair blynedd o leiaf.
(2) Rhaid i'r aelod sy'n gynghorydd meddygol y panel mabwysiadu ddal swydd ond cyhyd â'r cyfnod y'i penodwyd o dan reoliad 9.
(3) Caiff aelod o'r panel mabwysiadu ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi mis o hysbysiad ysgrifenedig i'r asiantaeth fabwysiadu.
(4) Os yw'r asiantaeth fabwysiadu o'r farn bod unrhyw aelod o'r panel mabwysiadu yn anaddas neu'n analluog i barhau yn y swydd, gellir terfynu swydd yr aelod hwnnw ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig iddo ynghyd â rhesymau.
(5) Rhaid i derfyniad penodiad aelod o banel mabwysiadu ar y cyd o dan baragraff (4) gael cytundeb yr holl awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y panel.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chynhelir unrhyw fusnes gan y panel mabwysiadu onid yw o leiaf bump o'i aelodau, gan gynnwys y person a benodwyd i gadeirio'r panel neu un o'r is-gadeiryddion, ac o leiaf un o'r gweithwyr cymdeithasol ac o leiaf un o'r personau annibynnol, yn cyfarfod fel y panel.
(2) Yn achos panel mabwysiadu ar y cyd, ni chynhelir unrhyw fusnes ganddo onid yw o leiaf chwech o'i aelodau, gan gynnwys y person a benodwyd i gadeirio'r panel neu un o'r is-gadeiryddion, ac o leiaf un gweithiwr cymdeithasol ac o leiaf un o'r personau annibynnol, yn cyfarfod fel y panel.
(3) Rhaid i'r panel mabwysiadu wneud cofnod ysgrifenedig o'i drafodion, ei argymhellion a'r rhesymau dros ei argymhellion.
6. Caiff awdurdod lleol dalu i berson a benodwyd yn gadeirydd ei banel mabwysiadu neu ei banel mabwysiadu ar y cyd neu i unrhyw berson annibynnol ar y panel, unrhyw ffi a benderfynir gan yr awdurdod lleol hwnnw, sef ffi sydd yn swm rhesymol.
7. Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, drwy ymgynghori â'r panel mabwysiadu ac, i'r graddau a bennir yn rheoliad 9(2), â chynghorydd meddygol yr asiantaeth, baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig a chyfarwyddiadau gweithdrefnol sy'n llywodraethu sut yr arferir swyddogaethau'r asiantaeth a'r panel o ran mabwysiadu, a rhaid i'r asiantaeth adolygu'r cyfarwyddiadau hynny yn gyson a, phan fydd yn briodol, eu diwygio.
8. Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu benodi uwch aelod o staff, neu yn achos panel mabwysiadu ar y cyd rhaid i'r awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y panel drwy gytundeb benodi uwch aelod o staff o un o'r awdurdau lleol hynny, (i'w alw'n “cynghorydd yr asiantaeth”) gyda'r cymwysterau, y sgiliau a'r profiad y mae'r asiantaeth yn ystyried eu bod yn briodol —
(a)i gynorthwyo'r asiantaeth wrth benodi (gan gynnwys ailbenodi), terfynu ac adolygu penodi aelodau o'r panel mabwysiadu;
(b)i fod yn gyfrifol am gynefino a hyfforddi aelodau o'r panel mabwysiadu;
(c)i fod yn gyfrifol am weinyddu'r panel mabwysiadu, gan gynnwys cynorthwyo gyda chydlynu rhwng yr asiantaeth a'r panel mabwysiadu a monitro perfformiad aelodau o'r panel mabwysiadu; ac
(ch)i roi'r cyfryw gyngor i'r panel mabwysiadu y gall y panel ofyn amdano o ran unrhyw achos neu yn gyffredinol.
9.—(1) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu benodi o leiaf un ymarferydd meddygol cofrestredig yn gynghorydd meddygol yr asiantaeth.
(2) Rhaid ymgynghori â chynghorydd meddygol yr asiantaeth fabwysiadu o ran trefniadau ar gyfer gweld a datgelu gwybodaeth am iechyd, sydd yn ofynnol neu a ganiateir yn rhinwedd y Rheoliadau hyn.
10.—(1) Bydd holl aelodau panel mabwysiadu a sefydlwyd cyn 30 Rhagfyr 2005 (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel yr “hen banel mabwysiadu”) yn peidio â dal swydd ar y dyddiad hwnnw.
(2) Gydag effaith o 30 Rhagfyr 2005 ymlaen, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu sefydlu panel mabwysiadu newydd yn unol â rheoliadau 3 a 4.
(3) Pan fydd aelod o hen banel mabwysiadu yn peidio â dal swydd o dan baragraff (1) a ph'un a estynwyd cyfnod swydd yr aelod hwnnw gan yr asiantaeth fabwysiadu yn unol â rheoliad 5A(1A) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983(1) neu mewn unrhyw achos arall, caniateir penodi'r aelod hwnnw yn aelod o banel mabwysiadu newydd o'r un asiantaeth fabwysiadu ac eithrio na chaiff cyfnod ei swydd ar y panel mabwysiadu newydd fod yn hirach na'r hyn a ganiateir gan reoliad 4 gan gyfrif y cyfnod y mae eisoes wedi gwasanaethu fel aelod o'r hen banel mabwysiadu.
O.S.1983/1964. Mewnosodwyd rheoliad 5A(1A) gan Reoliadau Mabwysiadu (Asiantaethau) 2003 (O.S. 2003/3223).