- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
14.—(1) Pan fydd personau yn atebol i dalu swm fel partneriaid o dan baragraff 12(2)(b) o ganlyniad i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff 12(3)(b), ceir gwneud cais am orchymyn atebolrwydd o ran y swm a'i gyflwyno iddynt yn enw eu busnes, a bydd grym gorchymyn o'r fath yr un fel pe bai gorchmynion wedi eu gwneud yn erbyn pob partner yng nghyswllt eu hatebolrwydd am y swm hwnnw.
(2) Os gwneir gorchymyn atebolrwydd yn erbyn partneriaid yn enw eu busnes o ran y swm ac ni wnaed gorchymyn blaenorol yn erbyn person arall o ran y swm, dehonglir cyfeiriadau ym mharagraff 13(12) at y person perthnasol fel cyfeiriadau at y bartneriaeth.
(3) Heb ragfarn i reoliad 13(2) o Reoliadau 1989 gellir cyflwyno gwŷs o dan gais am orchymyn atebolrwydd yn erbyn partneriaid yn enw eu busnes drwy ei adael yn, neu ei anfon yn y post at y bartneriaeth ym mhrif swyddfa'r bartneriaeth.
(4) Os gwnaed gorchymyn atebolrwydd yn erbyn partneriaid yn enw eu busnes o ran swm, nid yw paragraff 13(9)(b) yn atal atafaelu eiddo'r bartneriaeth am y swm hwnnw; ac mewn unrhyw achos cyfreithiol wedyn o dan reoliad 16 o Reoliadau 1989, rhaid ystyried y partneriaid i fod yn atebol ar y cyd ac yn unigol i dalu unrhyw gostau o dan Atodlen 3 o'r rheoliadau hynny sy'n codi o'r atafaelu.
(5) Os gwnaed gorchymyn atebolrwydd yn erbyn partneriaid yn enw eu busnes, bydd rheoliad 18(2) o Reoliadau 1989 yn cael effaith fel pe bai cyfeiriad at gwmni yn cynnwys cyfeiriad at y bartneriaeth ac fel pe bai cyfeiriad at adran 221(5)(b) o Ddeddf Ansolfedd 1986(1) —
(a)mewn achos lle'r oedd erthygl 7 o Orchymyn Partneriaethau Ansolfent 1994(2) yn gymwys, yn gyfeiriad at adran 221(5)(c) o ran yr erthygl honno; neu
(b)mewn achos lle'r oedd erthygl 8 o'r Gorchymyn hwnnw yn berthnasol, yn gyfeiriad at adran 221(5) fel a ddisodlir gan baragraff (1)(c) o'r erthygl honno.
(6) Os gwnaed gorchymyn atebolrwydd yn erbyn partneriaid yn enw eu busnes, nid yw paragraff 13(9)(a) yn atal dwyn achos ansolfedd yn erbyn y bartneriaeth yn ogystal ag yn erbyn aelodau o'r bartneriaeth, a'r achos hwnnw yn cael ei drin yn unol â Gorchymyn Partneriaethau Ansolfent 1994.
O.S. 1994/2421; gwnaed y diwygiadau perthnasol gan O.S. 2002/1308.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: