xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1310 (Cy.92)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

10 Mai 2005

Yn dod i rym

20 Mai 2005

Ac yntau wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â mesurau'n ymwneud â bwyd, gan gynnwys cynhyrchu cynradd o ran bwyd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2005, deuant i rym ar 20 Mai 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995

2.—(1I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995(4) yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Yn lle is-baragraff (2)(b) o reoliad 14 (amodau cyffredinol) rhodder yr is-baragraff a ganlyn —

(b)poultry meat which —

(i)has not been eviscerated or has been obtained from the body of any bird which has not been eviscerated,

(ii)has been treated with an agent used to promote water retention, or has been obtained in technologically similar conditions and is likely as a result to present the same risk; or.

(3Yn lle paragraff (9) o reoliad 14 rhodder y paragraff a ganlyn —

(9) Paragraph 2(b)(i) shall not apply to partially eviscerated poultry (“effilé”)..

Diwygiad canlyniadol

3.  I'r graddau y mae Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996(5) yn gymwys o ran Cymru, diwygir paragraff 7 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny (rheoliadau sy'n berthnasol i fasnach o fewn y Gymuned) drwy roi'r cyfeiriadau a ganlyn yn lle'r ymadrodd “The Meat (Hazard Analysis and Critical Control Point) (Wales) Regulations 2002”(6)

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Mai 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn sy'n gymwys o ran Cymru'n diwygio ymhellach Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995 (O.S. 1995/540, fel y'i diwygiwyd eisoes, ac sy'n rhychwantu Prydain Fawr i gyd) ac yn rhoi ar waith y rhan honno o Erthygl 5(1)(b) o Gyfarwyddeb y Cyngor 71/118/EEC sy'n ymwneud â phroblemau iechyd sy'n effeithio ar gynhyrchu cig dofednod ffres a'i roi ar y farchnad (atodwyd testun y Gyfarwyddeb uchod, ar ôl ei gyfuno, i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/116/EEC (OJ Rhif L62, 15.3.93, t.1).) ac sy'n gwahardd rhoi cig dofednod ar y farchnad i'w fwyta gan bobl os cafodd ei drin â chyfryngau dal dŵr neu os y'i cafwyd o dan amodau technolegol debyg a'i fod, o ganlyniad, yn debygol o fod yn achos yr un risg.

2.  Rhoddir y gwaharddiad uchod ar waith drwy ddiwygio'n briodol reoliad 14(2) o O.S. 1995/540 (rheoliad 2(2)).

3.  Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud newidiadau canlyniadol i reoliad 14(9) o O.S. 1995/540 (rheoliad 2(3)) ac i Atodlen 2 i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 (O.S. 1996/3124, fel y'i diwygiwyd eisoes) (rheoliad 3).

4.  Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y trosir yn y Rheoliadau hyn, y gwaharddiad y cyfeirir ato ym mharagraff 1. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.