- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
10 Mai 2005
Yn dod i rym
20 Mai 2005
Ac yntau wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â mesurau'n ymwneud â bwyd, gan gynnwys cynhyrchu cynradd o ran bwyd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2005, deuant i rym ar 20 Mai 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995(4) yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn lle is-baragraff (2)(b) o reoliad 14 (amodau cyffredinol) rhodder yr is-baragraff a ganlyn —
“(b)poultry meat which —
(i)has not been eviscerated or has been obtained from the body of any bird which has not been eviscerated,
(ii)has been treated with an agent used to promote water retention, or has been obtained in technologically similar conditions and is likely as a result to present the same risk; or”.
(3) Yn lle paragraff (9) o reoliad 14 rhodder y paragraff a ganlyn —
“(9) Paragraph 2(b)(i) shall not apply to partially eviscerated poultry (“effilé”).”.
3. I'r graddau y mae Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996(5) yn gymwys o ran Cymru, diwygir paragraff 7 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny (rheoliadau sy'n berthnasol i fasnach o fewn y Gymuned) drwy roi'r cyfeiriadau a ganlyn yn lle'r ymadrodd “The Meat (Hazard Analysis and Critical Control Point) (Wales) Regulations 2002”(6) —
“S.I. 2002/1476 (W.148);
The Poultry Meat, Farmed Game Bird Meat and Rabbit Meat (Hygiene and Inspection) (Amendment) (Wales) Regulations 2005;”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Mai 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn sy'n gymwys o ran Cymru'n diwygio ymhellach Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995 (O.S. 1995/540, fel y'i diwygiwyd eisoes, ac sy'n rhychwantu Prydain Fawr i gyd) ac yn rhoi ar waith y rhan honno o Erthygl 5(1)(b) o Gyfarwyddeb y Cyngor 71/118/EEC sy'n ymwneud â phroblemau iechyd sy'n effeithio ar gynhyrchu cig dofednod ffres a'i roi ar y farchnad (atodwyd testun y Gyfarwyddeb uchod, ar ôl ei gyfuno, i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/116/EEC (OJ Rhif L62, 15.3.93, t.1).) ac sy'n gwahardd rhoi cig dofednod ar y farchnad i'w fwyta gan bobl os cafodd ei drin â chyfryngau dal dŵr neu os y'i cafwyd o dan amodau technolegol debyg a'i fod, o ganlyniad, yn debygol o fod yn achos yr un risg.
2. Rhoddir y gwaharddiad uchod ar waith drwy ddiwygio'n briodol reoliad 14(2) o O.S. 1995/540 (rheoliad 2(2)).
3. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud newidiadau canlyniadol i reoliad 14(9) o O.S. 1995/540 (rheoliad 2(3)) ac i Atodlen 2 i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 (O.S. 1996/3124, fel y'i diwygiwyd eisoes) (rheoliad 3).
4. Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y trosir yn y Rheoliadau hyn, y gwaharddiad y cyfeirir ato ym mharagraff 1. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.
OJ Rhif L31, 1.2.2001, t.1.
O.S. 1995/540. Fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2148, O.S. 1995/2200, O.S. 1997/1729, O.S. 2000/656, O.S. 2000/2257 (Cy.150), O.S. 2001/2198 (Cy.158), O.S. 2002/47 (Cy.6) ac O.S. 2002/1476 (Cy.148).
O.S. 1996/3124, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/3023, O.S. 1998/994, O.S. 1999/683, O.S. 2000/656, O.S. 2000/1885 (Cy.131), O.S. 2000/2257 (Cy.150), O.S. 2001/1660 (Cy.119), O.S. 2001/2198 (Cy.158), O.S. 2001/2219 (Cy.159), O.S. 2002/47 (Cy.6), O.S. 2002/1476 (Cy.148), O.S. 2003/3229 (Cy. 309) ac O.S. 2004/1430 (Cy.144). Yn rhinwedd O.S.2004/1430 (Cy.144), mae O.S. 1996/3124 yn gymwys bellach mewn perthynas â masnach o fewn y Gymuned yn unig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: