2005 Rhif 1269 (Cy.89)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2005

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: