xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1208 (Cy.80)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Ciniawau Ysgol (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2005

Wedi'i wneud

19 Ebrill 2005

Yn dod i rym

30 Ebrill 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 512(3) a 568 o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ciniawau Ysgol (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 30 Ebrill 2005.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

ystyr “addysg feithrin” (“nursery education”) yw addysg sy'n addas ar gyfer plant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol; ac

mae'r cyfeiriad at ysgol a gynhelir yn gyfeiriad at ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol o fewn ystyr adran 512(6) o Ddeddf 1996.

Gofyniad rhagnodedig ar gyfer ciniawau ysgol

3.—(1Rhagnodir y gofyniad canlynol at ddiben adran 512(3)(a) o Ddeddf 1996.

(2Rhaid i ddisgybl cofrestredig sy'n derbyn addysg feithrin fod yn bresennol am ddwy sesiwn lawn ar unrhyw ddiwrnod pan fydd yn yr ysgol i beri bod dyletswydd i ddarparu cinio ar y diwrnod hwnnw.

Darpariaeth drosiannol

4.  Bydd disgybl sy'n derbyn addysg feithrin mewn ysgol a gynhelir y mae cinio ysgol yn cael ei ddarparu iddo yn union cyn 1 Ebrill 2003 yn cael ei drin fel pe na bai unrhyw ofynion rhagnodedig yn gymwys i'r disgybl hwnnw o dan adran 512(3)(a) o Ddeddf 1996 hyd nes y bydd yn gorffen derbyn addysg feithrin.

Dirymu

5.  Mae Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol) (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2003(3) drwy hyn yn cael ei ddirymu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Ebrill 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 512(3) o Ddeddf Addysg 1996 fel y'i diwygiwyd gan adran 201 o Ddeddf Addysg 2002 yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol i ddarparu ciniawau ysgol i ddisgyblion sydd yn gymwys i giniawau ysgol yn rhad ac am ddim, ac eraill, ar yr amod bod unrhyw ofynion rhagnodedig yn cael eu bodloni. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi gofyniad o'r fath.

Mae'r gofyniad yn cael ei nodi yn erthygl 3. Mae'n gymwys yn unig i ddisgyblion cofrestredig sy'n derbyn addysg feithrin; rhaid iddynt fod yn bresennol am ddwy sesiwn lawn ar unrhyw ddiwrnod pan fyddant yn mynychu'r ysgol i beri bod dyletswydd i ddarparu cinio ar y diwrnod hwnnw.

Mae erthygl 4 yn cynnwys darpariaeth drosiannol i atal disgyblion sydd yn derbyn addysg feithrin ran-amser mewn ysgolion a gynhelir, sydd eisioes yn derbyn ciniawau ysgol yn rhad ac am ddim yn union cyn 1 Ebrill 2003, rhag colli'r hawl i giniawau o'r fath.

Mae erthygl 5 yn dirymu Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol) (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2003.

(1)

1996 p.56; amnewidir adran 512 gan adran 201 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32). I gael ystyr “prescribed” gweler adran 512(6).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211(1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002.