- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo gwartheg, moch, defaid neu eifr mewn masnach ryng-gymunedol wneud hynny yn unol â'r Rhan hon.
2. Ar gyfer pob cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i gludo'r anifeiliaid hynny, rhaid iddo gadw cofrestr sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol, a rhaid iddo gadw'r gofrestr yn ddiogel am dair blynedd o leiaf—
(a)mannau a dyddiadau codi'r anifeiliaid, ac enw neu enw busnes a chyfeiriad y daliad neu'r ganolfan gynnull lle mae'r anifeiliaid yn cael eu codi;
(b)y mannau y danfonwyd hwy iddynt a dyddiadau eu danfon, ac enw neu enw busnes a chyfeiriad y traddodai;
(c)rhywogaeth a nifer yr anifeiliaid a gludwyd;
(ch)dyddiad a man eu diheintio; a
(d)Rhif au adnabod unigryw y tystysgrifau iechyd sy'n mynd gyda'r anifeiliaid.
3. Rhaid iddo sicrhau bod y cyfrwng cludo wedi'i adeiladu yn y fath fodd ag i sicrhau na fydd ysgarthion, sarn na bwyd anifeiliaid yn gallu gollwng na chwympo allan o'r cerbyd.
4. Rhaid iddo roi ymrwymiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol yn dweud —
(a)bod pob mesur wedi'i gymryd i sicrhau cydymffurfedd â'r canlynol —
(i)yn achos gwartheg neu foch, Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC(1), ac yn benodol y darpariaethau sydd wedi'u gosod yn Erthygl 12 o'r Gyfarwyddeb honno sy'n ymwneud â'r dogfennau priodol y mae'n rhaid iddynt fynd gyda'r anifeiliaid; a
(ii)yn achos defaid neu eifr, Cyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC(2), ac yn benodol y darpariaethau sydd wedi'u gosod yn Erthygl 8c o'r Gyfarwyddeb honno a darpariaethau'r Gyfarwyddeb honno sy'n ymwneud â'r dogfennau priodol y mae'n rhaid iddynt fynd gyda'r anifeiliaid; a
(b)y bydd gwaith cludo'r anifeiliaid yn cael ei roi yng ngofal staff sy'n meddu ar y gallu, y cymhwysedd proffesiynol a'r wybodaeth angenrheidiol.
OJ Rhif L109, 25.4.97, t. 1, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 1 o Ran I o Atodlen 3 ac fel y'i darllenir gyda hwy.
OJ Rhif L46, 19.2.91, t. 19, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 9 o Ran I o Atodlen 3 ac fel y'i darllenir gyda hwy.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: