- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2005; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 30 Ebrill 2005.
(2) Yn y Rheoliadau hyn —
mae i unrhyw ymadroddion a ddefnyddir yr ystyr sydd iddynt yn y Cyfarwyddebau canlynol—
Cyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC (ynghylch gwiriadau milfeddygol a sootechnegol sy'n gymwys i fasnach ryng-Gymunedol mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion penodol gyda golwg ar gwblhau'r farchnad sengl)(1); a
Cyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC (sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu'r dull o drefnu gwiriadau milfeddygol ar anifeiliaid sy'n dod i mewn i'r Gymuned o drydydd gwledydd)(2),
y mae'r ddwy ohonynt wedi'u diwygio gan y ddeddfwriaeth a restrir yn Atodlen 1;
ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd i fod yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu awdurdod lleol, a phan fo'n cael ei ddefnyddio mewn perthynas â pherson sydd wedi'i benodi felly gan y Cynulliad Cenedlaethol, mae'n cynnwys arolygydd milfeddygol;
ystyr “arolygydd milfeddygol” (“veterinary inspector”) yw person a benodwyd yn arolygydd milfeddygol gan y Cynulliad Cenedlaethol;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas â sir neu fwrdeistref sirol yw cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol honno;
ystyr “buches”, “cenfaint”, “geifre” a “gre” (“herd”) neu “diadell” neu “haid” (“flock”) yw grŵp o anifeiliaid sy'n cael eu cadw fel uned epidemiolegol;
ystyr “canolfan gynnull” (“assembly centre”) yw daliadau, canolfannau casglu a marchnadoedd lle mae gwartheg, moch, defaid neu eifr sy'n tarddu o wahanol ddaliadau yn cael eu grwpio gyda'i gilydd i ffurfio llwythi anifeiliaid sydd wedi'u bwriadu ar gyfer masnach ryng-Gymunedol neu sy'n cael eu defnyddio wrth gynnal masnach ryng-Gymunedol, ac sydd wedi'u cymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 12;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “cyrchfan” (“place of destination”) yw'r cyfeiriad neu'r cyfeiriadau y mae'r llwyth yn cael ei draddodi iddo neu iddynt gan y traddodwr;
ystyr “dogfennau traddodi gofynnol” (“required consignment documentation”) yw unrhyw dystysgrifau neu ddogfennau eraill y mae'n ofynnol iddynt fynd gyda'r llwyth o dan y Rheoliadau hyn;
ystyr “masnachwr” (“dealer”)—
yn achos gwartheg neu foch, yw unrhyw berson sy'n prynu a gwerthu anifeiliaid yn fasnachol naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, y mae ganddo drosiant rheolaidd o'r anifeiliaid hynny ac sydd o fewn 30 niwrnod i brynu anifeiliaid yn eu hailwerthu neu'n eu symud i fangre arall nad yw'n berchennog arni; a
yn achos defaid neu eifr, yw unrhyw berson sy'n prynu a gwerthu anifeiliaid yn fasnachol naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, y mae ganddo drosiant o'r anifeiliaid hynny ac sydd o fewn 29 diwrnod i brynu anifeiliaid yn eu hailwerthu neu'n eu symud i fangre arall nad yw'n berchennog arni neu'n uniongyrchol i ladd-dy nad yw'n berchennog arno;
ystyr “offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd” (“European international instruments”) yw —
Act Ymaelodi â'r Cymunedau Ewropeaidd gan Deyrnas Denmarc, Iwerddon, Teyrnas Norwy a Theyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon(3);
y Penderfyniad ar gwblhau'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a wnaed rhwng y Cymunedau Ewropeaidd, eu Haelod-wladwriaethau a Gweriniaeth Awstria, Gweriniaeth y Ffindir, Gweriniaeth Gwlad yr Iâ, Tywysogaeth Liechtenstein, Teyrnas Norwy, Teyrnas Sweden, a Chydffederasiwn y Swistir(4);
yr Act ynghylch amodau ymaelodi Teyrnas Norwy, Gweriniaeth Awstria, Gweriniaeth y Ffindir a Theyrnas Sweden a'r addasiadau i'r Cytuniadau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'i seilio arnynt(5);
yr Act ynghylch amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a'r Weriniaeth Slofac, a'r addasiadau i'r Cytuniadau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'i seilio arnynt(6); ac
ystyr “safle arolygu ar y ffin” (“border inspection post”), mewn perthynas â rhywogaeth anifail, yw man a bennir mewn perthynas â'r rhywogaeth honno yn Atodlen 2.
(3) Rhaid i hysbysiadau, cymeradwyaethau neu ddatganiadau o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig. Caniateir eu gwneud yn ddarostyngedig i amodau a'u diwygio, eu hatal neu eu dirymu yn ysgrifenedig ar unrhyw bryd.
OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 29, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir yn Atodlen 1 ac fel y'i darllenir gyda hwy.
OJ Rhif L268, 24.9.91, t. 56, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir yn Atodlen 1 ac fel y'i darllenir gyda hwy.
OJ Rhif L73, Argraffiad Arbennig, 27.3.72.
OJ Rhif L1, 3.1.94, t. 1.
OJ Rhif C241, 29.8.94, t. 21, fel y'i diwygiwyd gan OJ Rhif L12, 1.1.95, t. 1.
OJ Rhif L236, 23.9.03, t. 33.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: