- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
27.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn dod i wybod neu pan fo ganddo le rhesymol i gredu, naill ai o dan y gweithdrefnau a nodir yn Erthygl 10 o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC( ) neu Erthygl 18 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC, neu drwy unrhyw ddull arall, fod clefyd y cyfeirir ato yn Atodlen 6, milhaint, neu unrhyw glefyd neu ffenomen arall sy'n debyg o fod yn fygythiad difrifol i iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid, yn bresennol mewn unrhyw wladwriaeth arall.
(2) O dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol, er mwyn atal clefyd rhag cael ei gyflwyno neu ei ledaenu, atal drwy ddatganiad unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid rhag dod i mewn i Gymru, neu osod amodau ynglyn â dod â'r anifail neu'r cynnyrch anifeiliaid hwnnw i mewn i Gymru, o'r cyfan neu o unrhyw ran o'r wladwriaeth honno.
(3) Mae'r datganiad hwnnw i'w gyhoeddi yn y modd y gwêl y Cynulliad Cenedlaethol yn dda.
(4) Pan fo datganiad mewn grym sy'n atal unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid rhag dod i mewn, rhaid i berson beidio â dod â'r anifail neu'r cynnyrch anifeiliaid hwnnw i mewn i Gymru os yw wedi'i anfon, neu'n tarddu, o'r wladwriaeth neu o'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad.
(5) Pan fo datganiad mewn grym sy'n gosod amodau ar ddod ag unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid i mewn i Gymru, rhaid i berson beidio â dod â'r anifail neu'r cynnyrch anifeiliaid hwnnw i mewn i Gymru os yw'n tarddu o'r wladwriaeth neu o'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad, oni bai bod yr anifail neu'r cynnyrch anifeiliaid yn cydymffurfio â'r amodau a bennir yn y datganiad.
28. Os bydd y traddodwr neu ei gynrychiolydd, neu'r mewnforiwr neu ei gynrychiolydd, yn gofyn am hynny, rhaid i unrhyw benderfyniad a wneir i wrthod mynediad neu i newid yr amodau ar gyfer mynediad gael ei anfon ymlaen ato mewn ysgrifen gan y person sy'n gwneud y penderfyniad, gan roi'r rhesymau dros y penderfyniad a manylion ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad, gan gynnwys y terfynau amser perthnasol.
29.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 10, os gofynnir iddo wneud hynny, mae gan arolygydd, ar ôl iddo ddangos rhyw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl i fynd ar unrhyw dir neu i mewn i unrhyw fangre ar bob adeg resymol i ganfod a yw'r Rheoliadau hyn yn cael eu torri neu wedi'u torri mewn unrhyw ffordd; ac yn y rheoliad hwn mae “mangre” yn cynnwys unrhyw le, gosodiad, cerbyd ffordd neu gerbyd rheilffordd, llong, llestr, cwch, bad, hofranlong neu awyren.
(2) Mae gan arolygydd bwerau i wneud yr holl wiriadau ac arolygiadau sy'n angenrheidiol ar gyfer gorfodi Cyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC a Chyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC, ac yn benodol caiff—
(a)cyflawni arolygiadau o unrhyw brosesau sy'n cael eu defnyddio i farcio a dynodi anifeiliaid, unrhyw fangre ac unrhyw osodiad;
(b)gwirio a yw'r staff yn cydymffurfio â gofynion yr offerynnau yn Rhan I o Atodlen 3 sy'n ymwneud â chynhyrchion anifeiliaid;
(c)cymryd samplau (ac, os yw'n angenrheidiol, anfon samplau i'w profi mewn labordy) o'r canlynol —
(i)anifeiliaid sy'n cael eu cadw gyda golwg ar eu gwerthu, eu rhoi ar y farchnad neu eu cludo;
(ii)cynhyrchion sy'n cael eu cadw gyda golwg ar eu gwerthu, eu rhoi ar y farchnad neu eu cludo;
(iii)anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid sy'n cael eu cludo yng nghwrs masnachu ryng-Gymunedol;
(iv)anifeiliaid mewn safle arolygu ar y ffin yn achos mewnforion trydydd gwledydd; neu
(v)anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid yn y gyrchfan yn achos mewnforyn o Aelod-wladwriaeth arall;
(ch)archwilio deunydd dogfennol neu ddeunydd prosesu data sy'n berthnasol i'r gwiriadau a wneir o dan y Rheoliadau hyn; a
(d)mynd â chynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu at ddibenion Cyfarwyddebau'r Cyngor 90/425/EEC neu 91/496/EEC gydag ef.
30. Mae'r traddodwr, ei gynrychiolydd a'r person sydd â gofal dros unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid yn atebol yn unigol ac ar y cyd am unrhyw dreuliau rhesymol sy'n codi o arfer unrhyw bŵer a roddwyd i arolygydd gan y Rheoliadau hyn ac sy'n ymwneud â'r anifeiliaid neu'r cynhyrchion anifeiliaid hynny neu sy'n codi mewn cysylltiad ag arfer unrhyw bwer o'r fath.
31. Rhaid i berson beidio —
(a)rhwystro'n fwriadol unrhyw berson sydd, wrth ei waith, yn gweithredu'r Rheoliadau hyn,
(b)heb achos rhesymol, â methu rhoi i unrhyw berson sy'n cymryd camau i weithredu'r Rheoliadau hyn, unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae ar y person hwnnw angen rhesymol ei gael neu ei chael oddi wrtho er mwyn i'r person hwnnw gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn; nac
(c)rhoi i unrhyw berson sy'n cymryd camau i weithredu'r Rheoliadau hyn, unrhyw wybodaeth y mae'r person hwnnw sy'n rhoi'r wybodaeth yn gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol.
32.—(1) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran —
(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol, neu
(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,
mae'r person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1), ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
33.—(1) Mae person sy'n torri unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio'r darpariaethau a gynhwysir ym mharagraff 6 o Ran I o Atodlen 4 a pharagraff 2 o Ran I o Atodlen 5, neu unrhyw hysbysiad a gyflwynir oddi tanynt yn euog o dramgwydd.
(2) Mae person yn euog o dramgwydd o dan reoliad 31(a) neu (b) yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddiryw nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis neu i'r ddau.
(3) Bydd person sy'n euog o unrhyw dramgwydd arall o dan y Rheoliadau hyn yn agored —
(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau;
(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd neu i'r ddau.
34. Nid yw darpariaethau'r ddeddfwriaeth a restrir yn Atodlen 8 yn gymwys i fewnforion o Aelod-wladwriaeth arall o anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid y mae offeryn yn Rhan I o Atodlen 3 yn gymwys iddynt, nac i fewnforion o anifail y mae offeryn yn Atodlen 7 yn gymwys iddynt o'r wlad sy'n ddarostyngedig i'r offeryn hwnnw, i'r graddau a bennir yng ngholofn 3 o'r tabl a roddir yn Atodlen 8.
35. Mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru—
(a)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) 2000(1);
(b)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2000(2);
(c)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 1) 2000(3);
(ch)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2000(4);
(d)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 3) 2000(5);
(dd)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2002(6); ac
(e)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2002(7).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: