xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 912 (Cy.95) (C.40)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2004

Wedi'i wneud

24 Mawrth 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 216(3), (4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 2002(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chymhwyso

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2004.

2.  Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru yn unig (ac eithrio mewn perthynas ag adran 198).

Dehongli

3.—(1Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(2).

(2Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.

Diwrnodau penodedig

4.  31 Mawrth 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

5.  1 Awst 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Darpariaeth drosiannol — sefydlu neu newid ysgolion meithrin a gynhelir

6.  Er bod adran 154 yn dod i rym, ni fydd y paragraffau (aa) a (d) newydd yn is-adran (1) o adran 28 o Ddeddf 1998 yn gymwys lle mae awdurdod addysg lleol yng Nghymru wedi cymryd penderfyniad cyn 31 Mawrth 2004 i sefydlu ysgol feithrin newydd a gynhelir neu i wneud newid rhagnodedig i ysgol feithrin a gynhelir.

Darpariaeth drosiannol — trefniadau derbyn ar gyfer addysg feithrin

7.  Er bod paragraff 12(1), (3) i (5) o Atodlen 4 sy'n diwygio adran 98 o Ddeddf 1998 yn dod i rym, ni fydd y diwygiadau a wneir gan baragraff 12(3), (4) a (5) yn gymwys i flwyddyn ysgol sy'n gynharach na'r flwyddyn ysgol 2004 i 2005 mewn perthynas â derbyn plentyn i ysgol a gynhelir ar gyfer addysg feithrin.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Mawrth 2004

Erthyglau 4 a 5

ATODLEN

RHAN 1Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Mawrth 2004

Y ddarpariaethY pwnc
Adran 51 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 isodTrefniadau derbyn — addysg feithrin
Adran 154Sefydlu neu newid ysgolion meithrin a gynhelir
Adran 156Ystyr ysgol feithrin ac addysg gynradd
Adran 198Trosglwyddo o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isodMân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isodDiddymiadau
Atodlen 4, paragraff 12(1), (3) i (5)Trefniadau derbyn — addysg feithrin
Atodlen 21Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Paragraff 98(2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym
Paragraff 115(5) ac eithrio is-baragraff (b)
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu —Diddymiadau
Deddf Addysg 1996(4), yn adran 4(1) y geiriau “part-time education suitable to the requirements of junior pupils or”,
yn adran 5(1) y geiriau “part-time education suitable to the requirements of junior pupils or”,
yn adran 548(8), paragraff (c),
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(5), yn adran 33(1), y gair “and” ar ddiwedd paragraff (b), adran 39.

RHAN 2Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Awst 2004

Y ddarpariaethY pwnc
Adran 177Ystyr “secondary education”
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isodDiddymiadau
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu —Diddymiadau
Deddf Addysg 1996, yn adran 2(3)(a) y geiriau “(including vocational, social, physical and recreational training)”.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 31 Mawrth 2004 a 1 Awst 2004 y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn Rhannau 1 a 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.

Yn achos darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn ac sy'n diwygio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, mae'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y darpariaethau hynny i'w darllen, mewn perthynas â Chymru, fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru — gweler adran 211.

Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen —

Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen —

Mae erthygl 6 o'r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â dwyn adran 154 i rym. Ni fydd y gofynion newydd i gyhoeddi cynigion yn gymwys mewn perthynas â phenderfyniadau sydd wedi'u cymryd cyn 31 Mawrth 2004.

Mae erthygl 7 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â dwyn i rym y diwygiadau a wnaed i adran 98 o Ddeddf 1998 sy'n ymwneud â'r cyfrifoldeb dros dderbyniadau i ysgol ar gyfer addysg feithrin. Ni chaiff y diwygiadau hyn effaith tan y flwyddyn ysgol 2004-2005.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru trwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adrannau 14 i 1731 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 18(2)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 19(6) (yn rhannol)1 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adrannau 27 a 281 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 291 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 40 (yn rhannol)1 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 414 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Adran 424 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Adran 431 Tachwedd 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 461 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Adran 4919 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 51 (yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Adran 52 (yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Adrannau 54 i 5619 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 60 i 641 Awst 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 75 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 97 a 9819 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 99(1)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 100 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 101 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 10319 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 105 i 10719 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 108 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 10919 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 111 i 11819 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 1191 Hydref 20022002/2439
Adran 120(1) a (3) i (5)1 Hydref 20022002/2439
Adran 120(2)1 Awst 20032003/1667
Adran 1211 Hydref 20022002/2439
Adran 122 i 1291 Awst 20032003/1667
Adran 130 (yn rhannol)1 Hydref 20022002/2439
(yn llawn)1 Awst 20032003/1667
Adran 13119 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 132 a 13319 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 134 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 13519 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 136 i 1401 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 14119 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 142 i 14431 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 14519 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 146 (yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 148 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 14931 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 15031 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 151(2)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 152 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 157 i 1741 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Adran 178(1) a (4)1 Awst 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 179 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 18019 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 181 i 1851 Medi 20032003/1718 (Cy. 185)
Adran 188 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)1 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Adran 189 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 191 i 19419 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 195 (yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
(yn llawn)1 Medi 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 19619 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 1971 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 1991 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 20031 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 201 (yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adrannau 202 a 2031 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 2061 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 207 a 2089 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Adran 215 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)1 Awst 20032003/1718 (Cy.185) a 2003/1667
(yn rhannol)1 Medi 20032002/3185 (Cy.301) a 2003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)4 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)1 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Atodlen 1, paragraff 3 (yn rhannol)1 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Atodlen 3, paragraffau 1 i 51 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Atodlen 4, paragraffau 1 a 49 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Atodlen 519 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 10, paragraffau 1, 6, 11 a 15.19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 111 Hydref 20022002/2439
Atodlen 12, paragraffau 1, 2, 4(1) a (3), 6 a 7,19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Paragraff 12(1) a (2)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Atodlen 13, paragraffau 1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3) ac 819 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 16, paragraffau 1 i 31 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Paragraffau 4 i 919 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 17, paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 819 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 18, paragraffau 1, 4, 5 a 7,31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Paragraff 8 , (yn rhannol),31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 13 i 15,31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 2, 3, 6, 8 (yn llawn), 9 i 12 ac 16 i 181 Medi 20032002/3185 (Cy.301)
Atodlen 191 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Atodlen 201 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Atodlen 21 (yn rhannol)1 Hydref 20022002/2439
(yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)1 Awst 20032003/1667
(yn rhannol)1 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)4 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)1 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Atodlen 22 (yn rhannol)1 Hydref 20022002/2439
(yn rhannol)9 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)1 Awst 20032003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)1 Medi 20032002/3185 (Cy.301), 2003/1718 (Cy.185) ac 2003/1667
(yn rhannol)4 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)1 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2002/2002 ( fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2018), O.S. 2002/2439 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/606 (dirymwyd) a 2003/2992), O.S. 2002/2952, O.S. 2003/124, O.S. 2003/1115, O.S. 2003/1667 ac O.S. 2003/2071.