Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 16(1) o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (“y Ddeddf”) yn darparu y caiff Awdurdod Datblygu Cymru (“yr Awdurdod”) lle bo'n ymddangos iddo y dylid cymryd camau at ddibenion adfer neu wella unrhyw dir y mae adran 16(1) yn gymwys iddo, neu sy'n galluogi unrhyw dir o'r fath i gael ei ddefnyddio, arfer y pwerau a bennir yn adran 16(3) o'r Ddeddf mewn perthynas â'r tir hwnnw, gyda chaniatâd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae adran 16(2) o'r Ddeddf yn disgrifio'r tir y mae adran 16(1) yn gymwys iddo ac yn cynnwys tir sy'n ddiffaith, sydd wedi'i esgeuluso neu sydd wedi'i anharddu.

O dan adran 16(3)(a) o'r Ddeddf, mae gan yr Awdurdod bŵ er i dalu grantiau i unrhyw berson o'r cyfryw symiau ac sy'n daladwy ar y cyfryw adegau ac sy'n ddarostyngedig i'r cyfryw amodau ag y gall yr Awdurdod eu pennu o bryd i'w gilydd mewn perthynas â gwariant perthnasol a dynnir gan y person hwnnw. Diffinnir y term 'relevant expenditure' yn adran 16(4) o'r Ddeddf. Mae'n cynnwys gwariant a dynnir, gyda chymeradwyaeth yr Awdurdod, i gyflawni neu mewn cysylltiad â chyflawni gwaith ar dir diffaith at ddibenion adfer neu wella'r tir hwnnw neu ei alluogi i gael ei ddefnyddio.

Mae adran 16(6) o'r Ddeddf yn darparu bod rhaid i swm y grant y gellir ei dalu o dan adran 16(3)(a) i berson, heblaw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol y lleolir y tir y mae adran 16(1) yn gymwys iddo yn ei ardal, beidio â bod yn uwch na therfyn arbennig. Y terfyn hwnnw yw naill ai'r ganran ragnodedig o'r gwariant perthnasol (adran 16(6)(a)) neu, yn achos grant cyfnodol mewn perthynas â chostau a dynnir o bryd i'w gilydd (neu sy'n cael eu trin fel costau a dynnir mewn perthynas â benthyca arian er mwyn talu'r gwariant perthnasol), y ganran ragnodedig o'r costau a dynnir (neu sy'n cael eu trin fel petant wedi'u tynnu) (adran 16(6)(b)).

Mae adran 16(6) o'r Ddeddf yn diffinio'r term “the prescribed percentage” (sef y ganran ragnodedig) fel 80 y cant, neu'r cyfryw ganran arall a ragnodir trwy orchymyn.

Mae'r Gorchymyn hwn yn ragnodi'r ganran fel 100 y cant.