xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
19.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd yn ddyletswydd ar bob Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu Awdurdod Iechyd Strategol perthnasol i roi i Gyngor yr wybodaeth honno am gynllunio a gweithredu gwasanaethau iechyd yn ei ardal y gall y Cyngor yn rhesymol ofyn amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau.
(2) Nid fydd dim ym mharagraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Awdurdod Iechyd Strategol, neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol ddarparu gwybodaeth gyfrinachol mewn cysylltiad â —
(a)diagnosis neu driniaeth i unrhyw glaf; neu
(b)materion personél yn effeithio ar unrhyw swyddog a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Awdurdod Iechyd Strategol, neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol; neu unrhyw wybodaeth arall y gwaherddir drwy gyfraith ei datgelu.
(3) Os bydd i Fwrdd Iechyd Lleol perthnasol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu Awdurdod Iechyd Strategol wrthod datgelu i Gyngor wybodaeth nad yw paragraff (2) yn gymwys iddi, caiff y Cyngor apelio at y Cynulliad a bydd penderfyniad y Cynulliad ynghylch a yw'n rhesymol i'r Cyngor ofyn am yr wybodaeth er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau yn derfynol at ddibenion y rheoliad hwn.