RHAN IV

Gwybodaeth sydd i'w darparu gan gyrff iechyd perthnasol19

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd yn ddyletswydd ar bob Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu Awdurdod Iechyd Strategol perthnasol i roi i Gyngor yr wybodaeth honno am gynllunio a gweithredu gwasanaethau iechyd yn ei ardal y gall y Cyngor yn rhesymol ofyn amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau.

2

Nid fydd dim ym mharagraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Awdurdod Iechyd Strategol, neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol ddarparu gwybodaeth gyfrinachol mewn cysylltiad â —

a

diagnosis neu driniaeth i unrhyw glaf; neu

b

materion personél yn effeithio ar unrhyw swyddog a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Awdurdod Iechyd Strategol, neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol; neu unrhyw wybodaeth arall y gwaherddir drwy gyfraith ei datgelu.

3

Os bydd i Fwrdd Iechyd Lleol perthnasol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu Awdurdod Iechyd Strategol wrthod datgelu i Gyngor wybodaeth nad yw paragraff (2) yn gymwys iddi, caiff y Cyngor apelio at y Cynulliad a bydd penderfyniad y Cynulliad ynghylch a yw'n rhesymol i'r Cyngor ofyn am yr wybodaeth er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau yn derfynol at ddibenion y rheoliad hwn.