- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003 (Rheoliadau 2003).
Mae rheoliadau 3 a 4 yn diweddaru'r diffiniadau yn rheoliad 2 o Reoliadau 2003 ac yn diwygio rheoliad 6 o Reoliadau 2003 er mwyn cyfeirio at ddarpariaethau perthnasol Deddf Addysg 2002 (Deddf 2002).
Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 2003 er mwyn darparu y gall cyfnodau o gyflogaeth sy'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu gynnwys dau hanner tymor sy'n dilyn ei gilydd yn ogystal â thymhorau llawn. Mae hefyd yn galluogi penaethiaid, naill ai cyn i'r cyfnod gychwyn neu o fewn pythefnos ar ôl iddo gychwyn, i gytuno y caiff cyfnodau o gyflogaeth fel athrawon cyflenwi gyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu.
Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 9 o Reoliadau 2003 er mwyn galluogi personau sy'n absennol o achos absenoldeb mabwysiadu cyffredin, absenoldeb rhieiniol neu absenoldeb tadolaeth (yn ogystal ag absenoldeb mamolaeth) i ddewis estyn cyfnod ymsefydlu.
Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 18 o Reoliadau 2003 er mwyn darparu bod y corff priodol yn gallu awdurdodi personau sydd eisoes wedi gweithio yn ystod cyfnod o flwyddyn a thymor fel athrawon cyflenwi i gael eu cyflogi felly am ddeuddeg mis arall. Anwybyddir absenoldebau o achos absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu cyffredin, absenoldeb rhieiniol neu absenoldeb tadolaeth wrth gyfrifo'r deuddeg mis hynny.
Mae rheoliad 8 yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau 2003 er mwyn —
darparu bod y cyfnod o un flwyddyn ac un tymor, pan ellir cyflogi personau fel athrawon cyflenwi heb iddi fod yn ofynnol iddynt wasanaethu cyfnod ymsefydlu, yn cychwyn o'r adeg pan gyflogir y personau hynny gyntaf fel athrawon cyflenwi mewn ysgol berthnasol ac y caiff unrhyw absenoldeb am resymau absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu cyffredin, absenoldeb rhieiniol neu absenoldeb tadolaeth ei anwybyddu wrth gyfrifo'r cyfnod hwnnw;
galluogi personau a awdurdodir o dan reoliad 18(2) newydd o Reoliadau 2003 i gael eu cyflogi heb iddi fod yn ofynnol iddynt wasanaethu cyfnod ymsefydlu;
galluogi personau sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu, a hwythau'n athrawon rhan-amser, i wneud gwaith cyflenwi hefyd er eu bod eisoes wedi gweithio fel athrawon cyflenwi am un flwyddyn ac un tymor;
yn lle'r cyfeiriad at athrawon anghymwysedig rhoi cyfeiriad at athrawon ysgol o fewn yr ystyr sydd i hynny yn adran 122(5) o Ddeddf 2002;
ychwanegu cyfeiriad at y Cytundeb gyda'r Swistir sy'n galluogi athrawon sydd wedi ymgymhwyso yn y Swistir i gael eu heithrio o'r gofyniad i wasanaethu cyfnod ymsefydlu, fel yn achos dinasyddion yr AEE;
ychwanegu, fel categori newydd o bersonau a eithrir o'r gofyniad i wasanaethu cyfnod ymsefydlu, athrawon sydd wedi ymgymhwyso dramor, y mae ganddynt ddwy flynedd o brofiad dysgu, sy'n athrawon cymwysedig yng Nghymru o dan y rhaglen athrawon graddedig, ac y cafwyd yn sgil eu hasesu eu bod yn bodloni'r safonau ymsefydlu.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: