- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
23 Mawrth 2004
Yn dod i rym
5 Ebrill 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 5 Ebrill 2004.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl 1988(2).
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli), ar ôl y diffiniad o “relevant income” mewnosoder y diffiniad canlynol—
“mae “ severe disability element” i'w ddehongli yn unol ag adran 11(6)(d) o Ddeddf Credydau Treth 2002(3);”.
3.—(1) Mae Rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (disgrifiad o bersonau sydd â hawl i beidio â thalu ac i gael taliadau llawn) yn cael ei ddiwygio yn unol â darpariaeth ganlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (2)(e)—
(a)Yn y geiriau cloi, yn lle “£14,200” rhodder “£14,600”;
(b)yn is-baragraff (ii), ar ôl “disability element” mewnosoder “or severe disability element”.
4.—(1) Diwygir Tabl A o Ran I o'r prif Reoliadau (addasiadau i ddarpariaethau Rheoliadau Cymhorthdal Incwm 1987(4) at ddibenion Rhan I o'r Atodlen hon) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn y cofnod sy'n ymwneud â rheoliad 53 yn lle “£12,000” rhodder £12,250” ac yn lle “£19,500” rhodder “£20,000”.
(3) Yn y cofnod sy'n ymwneud â rheoliad 45 —
(a)ym mharagraff (b), yn lle “£19,500” rhodder “£20,000”;
(b)ym mharagraff (c), yn lle “£12,000” rhodder “£12,250”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Mawrth 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988 (“y prif Reoliadau”) sy'n darparu ar gyfer peidio â chodi taliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (“GIG”) ac ar gyfer talu treuliau teithio mewn achosion penodol.
Mae gan rai personau hawl awtomatig i beidio â thalu taliadau'r GIG ac i gael taliadau am dreuliau teithio am eu bod yn cael budd-daliadau penodedig y wladwriaeth.
Mae Rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (disgrifiad o bersonau sydd â'r hawl i beidio â thalu ac i gael taliadau llawn) i fewnosod ffigur uwch ar gyfer y terfyn incwm perthnasol a ddefnyddir i gyfrifo'r hawl i gael credyd treth gwaith a chredyd treth plant.
Nid oes gan lawer o bersonau hawl awtomatig i beidio â thalu taliadau'r GIG ac i gael taliadau am dreuliau teithio. Mae'r prif Reoliadau'n cynnwys darpariaeth ar gyfer cyfrifo incwm, cyfalaf a gofynion hawlydd (a rhai ei deulu, lle y bônt yn berthnasol). Gwneir y cyfrifiad hwn trwy gymhwyso darpariaethau wedi'u haddasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 a nodir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau.
Mae Rheoliad 4 yn diwygio Tabl A o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau er mwyn uwchraddio'r terfynau cyfalaf sy'n cael eu defnyddio mewn cyfrifiadau ynghylch peidio â chodi tâl ac ad-daliadau sy'n ymwneud â phersonau sy'n byw yn barhaol mewn gofal preswyl neu mewn cartrefi nyrsio.
1977 p.49 (“Deddf 1997”); mewnosodwyd adran 83A gan adran 14(1) o Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), gan baragraff 18(5) o Atodlen 9 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p.19) (“Deddf 1990”) a chan baragraff 40 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17).
Diwygiwyd Adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf 1990 a chan Atodlen 4, paragraff 37(6) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8).
Adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan adran 26(2)(g) ac (i) o Ddeddf 1990 am y diffiniad o “prescribed a “regulations”.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(5).
O.S.1988/551 fel y'i diwygiwyd gan O.S.1989/394, 517 a 614, 1990/548, 918 a 661, 1991/557, 1992/1104, 1993/608, 1995/642 a 2352, 1996/410, 1346 a 2362, 1997/748 a 2393, 1998/417, 1999/767 a 2840 (Cy.20), 2001/1397 (Cy.92) a 3322 (Cy.W275), 2003/975 (Cy.134) a 2003/2561 (Cy.250).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: