- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
8.—(1) Yn amodol ar baragraff (2), a rheoliadau 9, 10, 11, 12, a 15 bydd y darpariaethau a nodir yng ngholofn (1) o Dablau 1 hyd 4 yn Atodlen 3 yn effeithiol parthed y refferendwm gyda'r newidiadau a ddangosir yng ngholofn (2) o'r Tablau hynny ac unrhyw newidiadau eraill angenrheidiol; ac yn arbennig felly, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —
(a)ystyrir bod unrhyw gyfeiriad at etholiad yn gyfeiriad at y refferendwm;
(b)ystyrir bod unrhyw gyfeiriad at swyddog canlyniadau'n gyfeiriad at y swyddog cyfrif;
(c)ystyrir bod unrhyw gyfeiriad at etholaeth neu ranbarth etholiadol yn gyfeiriad at ardal bleidleisio;
(d)ystyrir bod unrhyw gyfeiriad at bleidleisio dros ymgeisydd, neu bleidlais dros ymgeisydd, yn gyfeiriad at bleidleisio dros atebiad, neu bleidlais dros atebiad;
(e)ystyrir bod unrhyw gyfeiriad at hyrwyddo neu sicrhau ethol ymgeisydd, neu hybu ymgeisyddiaeth rhywun, yn gyfeiriad at hyrwyddo neu sicrhau canlyniad neilltuol yn y refferendwm;
(f)caiff cyfeiriadau at bapurau enwebu, ac eithrio'r hyn a nodir yn is-baragraffau (d) ac (e), a chyfeiriadau at ymgeiswyr eu hanwybyddu;
(g)ystyrir bod unrhyw gyfeiriad at ethol rhywun yn gyfeiriad at ganlyniad neilltuol yn y refferendwm;
(h)ystyrir bod unrhyw gyfeiriad at rywun yn pleidleisio fel etholwr yn gyfeiriad at rywun yn pleidleisio ar ei ran ei hunan;
(i)ystyrir bod unrhyw gyfeiriad at hawl rhywun fel etholwr i bleidlais absennol yn gyfeiriad at hawl rhywun i bleidleisio drwy'r post ar ei ran ei hunan neu i bleidleisio drwy ddirprwy;
(j)lle mae gofyn i bopeth gael ei wneud yng ngŵydd asiantiaid etholiadol, asiantiaid pleidleisio, asiantiaid cyfrif neu asiantiaid eraill, anwybyddir y cyfeiriad at bresenoldeb asiantiaid;
(k)ystyrir bod unrhyw gyfeiriad at bennu rhywbeth yn gyfeiriad at y ffaith y darperir ar ei gyfer gan un o ddarpariaethau'r is-ddeddfau a gymhwysir gan y Rheoliadau hyn;
(l)bydd modd defnyddio ffurflen y mae gofyn iddi gael ei defnyddio ar ba bynnag amrywiadau ag a fo'n ofynnol dan yr amgylchiadau;
(m)bydd unrhyw gyfeiriad at y swyddog cofrestru, o ran yr awdurdod lleol, yn gyfeiriad at y swyddog cofrestru perthnasol a benodir dan adran 8 o Ddeddf 1983; ac at y diben o arfer swyddogaethau swyddog cofrestru o ran y refferendwm, bydd adrannau 52(1) hyd (4) (cyflawni dyletswyddau cofrestru) a 54(1), (3) a (4) (talu treuliau cofrestru) o'r Ddeddf honno'n effeithiol;
(n)ystyrir bod unrhyw gyfeiriad at ddeiseb etholiad yn gyfeiriad at ddeiseb refferendwm;
(o)ystyrir bod unrhyw gyfeiriad at ddeddfiad neu offeryn a wneir dan ddeddfiad yn gyfeiriad at y deddfiad neu'r offeryn hwnnw fel y'u cymhwysir gan y Rheoliadau hyn; a
(p)caiff unrhyw ddarpariaethau sy'n gymwys i Loegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn unig, eu hanwybyddu.
(2) Ni fydd darpariaeth a nodir yng ngholofn (1) o Dabl 4 yn Atodlen 3 ac a fynegir fel na fydd yn gymwys ond dan yr amgylchiadau a grybwyllir yno, ac unrhyw newidiad a ddangosir yng ngholofn (2) fel y bo'n gymwys i unrhyw ddarpariaeth o'r fath, ond yn effeithiol dan yr amgylchiadau hynny.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: