- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Bydd y rheoliad hwn yn gymwys lle —
(a)darperir yr eiddo, y gwasanaethau neu'r cyfleusterau at ddefnydd neu er budd unrhyw un naill ai —
(i)yn ddi-dâl; neu
(ii)ar ostyngiad o fwy na 10 y cant o'r gyfradd fasnachol am ddefnyddio'r eiddo neu am ddarparu'r gwasanaethau neu'r cyfleusterau; a
(b)gwneir defnydd ar yr eiddo, y gwasanaethau neu'r cyfleusterau gan yr unigolyn hwnnw neu ar ei ran dan y fath amgylchiadau megis pe câi treuliau eu hachosi (neu os cânt eu hachosi) mewn gwirionedd gan yr unigolyn hwnnw neu ar ei ran parthed y defnydd hwnnw, byddent (neu maent) yn dreuliau ar gyfer y refferendwm a achoswyd gan yr unigolyn hwnnw neu'n rhai a achoswyd ar ei ran.
(2) Yn amodol ar baragraff (5), lle bo'r rheoliad hwn yn gymwys ymdrinnir â swm o dreuliau refferendwm a bennir yn unol â pharagraff (3), onid yw'n ddim mwy na £200, at ddibenion rheoliad 6 megis pe achoswyd ef gan yr unigolyn hwnnw yn ystod y cyfnod y gwneir defnydd ar yr eiddo, y gwasanaethau neu'r cyfleusterau fel y nodir ym mharagraff (1)(b).
(3) Mae'r swm a grybwyllir ym mharagraff (2) yn gyfran naill ai o —
(a)y gyfradd fasnachol am ddefnyddio'r eiddo neu am ddarparu'r gwasanaethau neu'r cyfleusterau (lle darperir yr eiddo, y gwasanaethau neu'r cyfleusterau'n ddi-dâl), neu
(b)y gwahaniaeth rhwng y gyfradd fasnachol a swm y treuliau gwirioneddol a achoswyd gan yr unigolyn hwnnw neu ar ei ran parthed y defnydd ar yr eiddo neu'r gwasanaethau neu'r cyfleusterau a ddarparwyd (lle darperir yr eiddo, y gwasanaethau neu'r eiddo ar ostyngiad),
fel bo'n rhesymol ei chodi o ran y defnydd ar yr eiddo, y gwasanaethau neu'r cyfleusterau fel y nodir ym mharagraff (1)(b).
(4) Os bydd cyflogwr gweithiwr yn cynnig gwasanaethau'r gweithiwr hwnnw at ddefnydd neu er budd rhywun, bydd y swm a ystyrir yn gyfradd fasnachol am ddarparu'r gwasanaeth hwnnw'n gyfwerth â swm y taliad neu'r lwfansau a fyddai'n daladwy i'r gweithiwr gan y cyflogwr am y cyfnod y darperir gwasanaethau'r gweithiwr (ond ni fydd yn cynnwys unrhyw swm o ran cyfraniadau na thaliadau eraill y mae'r cyflogwr yn atebol amdanynt parthed y gweithiwr).
(5) Ni ystyrir bod unrhyw dreuliau refferendwm wedi eu hachosi yn rhinwedd paragraff (1) parthed unrhyw wasanaethau a ddarperir gan unigolion yn wirfoddol yn eu hamser eu hunain yn ddi-dâl.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: