- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
17.—(1) Os bydd llys etholiad yn cadarnhau, fel ei benderfyniad ynglyn â deiseb refferendwm, naill ai fod canlyniad y refferendwm a gyhoeddwyd dan reoliad 14 yn unol â'r pleidleisiau a gafodd eu bwrw, neu, yn ôl y digwydd, nad ydyw felly, yna deellir unrhyw gyfeiriad (ym mha dermau bynnag) yn yr amserlen —
(a)sydd wedi ei chynnwys yn eu cynigion dan reoliad 17(3)(a) neu 19(1)(c) o Reoliadau'r Deisebau a Chyfarwyddiadau(1);
(b)rheoliad 17(7)(a)(ii), neu 20(3)(a)(iii) o'r Rheoliadau hynny; neu
(c)a luniwyd yn unol ag unrhyw reoliadau eraill neu orchymyn a wnaed dan unrhyw un o ddarpariaethau o Ran II (trefniadau o ran gweithrediaethau etc.) o Ddeddf 2000,
at ddyddiad canlyniad y refferendwm fel cyfeiriad at y dyddiad y bu i'r llys etholiad ardystio ei benderfyniad.
(2) Os bydd llys etholiad yn cadarnhau, fel ei benderfyniad ynglŷn â deiseb refferendwm gan fanylu ynglŷn ag unrhyw un o'r seiliau a grybwyllir yn rheoliad 15(1)(b) hyd (d), fod y refferendwm yn ddi-rym, yna bydd yr awdurdod lleol dan sylw, a hynny nid cynt na dau fis, ac nid hwyrach na thri mis, wedi i'r llys etholiad gadarnhau ei benderfyniad ynglŷn â mater deiseb y refferendwm, yn cynnal refferendwm arall.
(3) O gynnal gwrandawiad sylweddol ar gyfer deiseb refferendwm y rhoddwyd caniatâd iddi a lle mae'r amgylchiadau fel y rhai a grybwyllir yn rheoliad 16(4)(a) a (b), bydd y llys etholiad naill ai'n—
(a)gwrthod y ddeiseb; neu
(b)yn caniatáu'r ddeiseb,
ac, os bydd y llys yn caniatáu'r ddeiseb, bydd yn cyhoeddi bod y refferendwm yn llygredig, a bydd yn gorchymyn cynnal refferendwm pellach.
(4) Os bydd llys etholiad yn gwneud gorchymyn fel yr un a grybwyllir ym mharagraff (3), bydd yr awdurdod lleol yn cynnal y refferendwm pellach cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl darfod y cyfnod o bum mlynedd a ddechreuodd ar y dyddiad y cynhaliwyd y refferendwm llygredig.
(5) Os bydd mwyafrif y pleidleisiau a gaiff eu bwrw mewn refferendwm pellach yn bleidleisiau “o blaid”, lle bo'r awdurdod lleol yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth, byddant yn parhau i weithredu'r trefniadau hynny oni chânt neu hyd oni chânt eu hawdurdodi neu oni fydd gofyn iddynt weithredu trefniadau gweithrediaeth gwahanol neu'u hawdurdodi i weithredu trefniadau amgen yn lle eu trefniadau gweithrediaeth presennol.
(6) Yn amodol i baragraffau (7), (8) a (9), os bydd mwyafrif y pleidleisiau a gaiff eu bwrw yn y refferendwm pellach yn bleidleisiau “yn erbyn”, bydd yr awdurdod lleol yn gweithredu'r cynigion hynny a oedd yn gynigion amlinellol wrth gefn iddynt ar adeg y refferendwm llygredig.
(7) Os mai cynigion amlinellol wrth gefn yr awdurdod lleol yw'r trefniadau gweithrediaeth neu amgen yr oeddynt yn eu gweithredu ar ddyddiad y refferendwm llygredig, bydd isadran (13) o adran 27 yn gymwys ar gyfer cynigion amlinellol wrth gefn fel pe bai'r geiriau “cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol” wedi eu rhoi yn lle “yn unol â'r amserlen a grybwyllir yn isadran (4)”.
(8) Os yw cynigion amlinellol wrth gefn yr awdurdod lleol yn drefniadau gweithredaeth sy'n cynnwys rhyw fath o weithrediaeth nad oes angen refferendwm ar ei chyfer(2) —
(a)bydd isadran (1) o adran 29 (gweithredu trefniadau gweithredaeth a chyhoeddusrwydd ar eu cyfer) yn gymwys at y diben o alluogi'r awdurdod lleol i weithredu'r trefniadau gweithrediaeth a nodir yn fanwl yn eu cynigion amlinellol wrth gefn fel y mae'n gymwys at y diben o alluogi awdurdod lleol i weithredu trefniadau gweithrediaeth dan amgylchiadau eraill; a
(b)bydd isadran (2) o'r adran honno'n gymwys megis pe gosodid, ym mharagraff (b), yn lle is-baragraff (i), “(i) states that, in consequence of the rejection in a further referendum of the local authority’s existing executive arrangements, the local authority have resolved to operate the different executive arrangements that were described in their outline fall-back proposals at the time of the referendum,”.
(9) Os yw cynigion amlinellol wrth gefn yr awdurdod lleol yn drefniadau amgen—
(a)bydd isadran (2) o adran 33 (gweithredu trefniadau amgen) yn gymwys at y diben o alluogi'r awdurdod lleol i weithredu trefniadau amgen a nodir yn ei gynigion wrth gefn manwl fel y mae'n gymwys at y diben o alluogi awdurdod lleol i weithredu trefniadau amgen mewn amgylchiadau eraill; a
(b)bydd isadran (2) o adran 29(3) yn gymwys fel pe rhoddid, ym mharagraff (b), yn lle is-baragraff (i) “(i) states that, in consequence of the rejection in a further referendum of the local authority’s existing executive arrangements the local authority have resolved to operate the alternative arrangements that were described in their outline fall-back proposals at the time of the referendum.”.
(10) Bydd y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, yn gymwys (i'r graddau y maent yn berthnasol), o ran cynnal y refferendwm pellach fel y maent yn gymwys o ran cynnal unrhyw refferendwm arall, yn amodol ar y canlynol —
(a)yn rheoliad 4 —
(i)ym mharagraff (1), hepgor is-baragraff (a);
(ii)yn is-baragraff (b) o'r paragraff hwnnw, gosod “trefniadau gweithrediaeth presennol yr awdurdod lleol” yn lle “y cynigion”;
(iii)ym mharagraff (vii) o is-baragraff (c) gosod “dogfen lle nodir prif briodweddau trefniadau gweithrediaeth presennol yr awdurdod lleol” yn lle “copi o'r cynigion”;
(iv)ym mharagraff (viii) o'r is-baragraff hwnnw, rhowch “ddogfen honno” yn lle “cynigion”;
(v)ar ôl paragraff (viii) o'r is-baragraff hwnnw, gosod y paragraff canlynol —
“(ix)bod y refferendwm yn cael ei gynnal o ganlyniad i benderfyniad o eiddo'r llys etholiad bod y refferendwm diwethaf a gynhaliwyd yn ardal yr awdurdod lleol yn llygredig oherwydd rhyw daliad ariannol neu wobr arall a wnaed neu a addawyd ers y refferendwm yn unol â rhyw arfer llwgr neu anghyfreithlon.”;
(vi)ym mharagraff (4), gosod “dogfen sy'n nodi prif briodweddau trefniadau gweithredaeth presennol yr awdurdod lleol” yn lle “copi o'u cynigion”; a
(vii)ym mharagraff (5), gosod “prif briodweddau trefniadau gweithrediaeth presennol yr awdurdod lleol” yn lle “â'r cynigion”; a
(b)drwy roi'r canlynol yn lle paragraff 1 o Ran I o Atodlen I —
(c)drwy roi'r canlynol yn lle paragraff 2 o Ran I o Atodlen I —
(11) O gynnal gwrandawiad sylweddol ar gyfer deiseb refferendwm y rhoddwyd caniatâd iddi a lle mae'r amgylchiadau fel y rhai a grybwyllir yn unrhyw baragraff o reoliad 16 ac eithrio paragraff (4), bydd y llys etholiad naill ai'n —
(a)gwrthod y ddeiseb; neu'n
(b)caniatáu'r ddeiseb,
ac, os bydd y llys yn caniatáu'r ddeiseb, bydd yn cyhoeddi bod y refferendwm yn ddi-rym.
Gweler, yn arbennig, reoliadau 17(5)(b) a 20(2)(b).
Gweler Adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Gweler adran 33(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: