- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
13.—(1) Bydd y swyddog cyfrif yn —
(a)penodi ac yn talu pa bynnag unigolion ag a fo'n angenrheidiol at y diben o gyfrif y pleidleisiau; a
(b)bydd yn penodi unigolion i arsylwi cyfrif y pleidleisiau a dilysu cyfrif y papurau pleidleisio (“arsylwr y cyfrif”).
(2) At y diben o gynorthwyo'r swyddog cyfrif i gyflawni swyddogaethau'r unigolyn hwnnw dan baragraff (1)(b), caiff trefnydd deiseb, a hynny nid llai na'r pumed diwrnod cyn dyddiad y pôl, a thrwy roi rhybudd ysgrifenedig i'r swyddog cyfrif, enwebu pobl sydd, ym marn trefnydd y ddeiseb, yn addas i'w penodi fel arsylwyr cyfrif, a bydd y rhybudd hefyd yn cynnwys cyfeiriad pob enwebai.
(3) Yn amodol ar baragraff (4) o reoliad 24 o Reolau Refferendwm LGA, ni fydd y swyddog cyfrif, heb achos digonol, yn peidio â phenodi rhywun a enwebir gan drefnydd deiseb.
(4) Bydd y swyddog cyfrif, a hynny cyn gynted ag y bo modd ar ôl cau'r bleidlais, yn gwneud trefniadau ar gyfer cyfrif y pleidleisiau yng ngŵydd arsylwyr y cyfrif, a bydd yn rhoi rhybudd ysgrifenedig i'r arsylwyr hynny o'r amser a'r lle y bydd y cyfrif ar y pleidleisiau'n dechrau.
(5) Ni chaiff neb fod yn bresennol yng nghyfrif y pleidleisiau ar gyfer unrhyw ardal bleidleisio ac eithrio —
(a)y swyddog cyfrif ar gyfer yr ardal honno;
(b)rhywun a benodwyd gan y swyddog cyfrif dan baragraff (1);
(c)y maer etholedig, os oes un i'w gael, ar yr awdurdod lleol y cynhelir y refferendwm ar ei gyfer;
(d)trefnydd deiseb; neu
(e)mae swyddog cyfrif yr ardal yn caniatáu iddo fod yn bresennol yn y cyfrif.
(6) Bydd y swyddog cyfrif yn rhoi i'r arsylwyr cyfrif gyfleusterau rhesymol ar gyfer arsywli'r trafodion a ddigwydd o ran cyfrif y pleidleisiau, a phob gwybodaeth resymol sy'n berthnasol iddynt, ag y gellir eu rhoi iddynt yn unol â chynnal y trafodion yn drefnus a chyflawni dyletswyddau'r swyddog cyfrif mewn perthynas â hwy.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: