- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
10.—(1) Yn amodol ar baragraff (2), caiff awdurdod lleol benderfynu, o ran y refferendwm y maent am ei gynnal, y caiff y pleidleisiau a gaiff eu bwrw yn y refferendwm eu bwrw drwy bleidlais bost yn unig; ac os penderfynir gwneud hynny —
(a)ni ddefnyddir gorsafoedd pleidleisio yn y refferendwm;
(b)ni fydd neb a fyddai, oni bai am y penderfyniad, yn cael pleidleisio'n bersonol, naill ai fel rhywun sydd â'r hawl i bleidleisio yn y refferendwm(1) neu fel dirprwy, ond yn cael pleidleisio drwy'r post; a
(c)bydd unrhyw gyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn(2) ac unrhyw gyfeiriadau at y Ddeddf Etholiadau, Deddf CB 2000, Deddf 1983, rheolau dan adran 36 o Ddeddf 1983, Rheoliadau Etholiadau, neu unrhyw ddeddfiad sy'n ymwneud â chymhwyso neu anghymhwyso o ran etholiad i awdurdod lleol neu aelodaeth ohono —
(i)at y diwrnod pleidleisio, diwrnod y bleidlais neu'i dyddiad neu'r dyddiad a osodwyd ar gyfer y bleidlais, yn dal i fod yn effeithiol o ran y refferendwm hwnnw, fel cyfeiriad at ddyddiad y refferendwm; a
(ii)at gau'r bleidlais, yn dal i fod yn effeithiol, o ran y refferendwm hwnnw, fel cyfeiriad at 10p.m. ar ddiwrnod y refferendwm.
(2) Os bydd penderfyniad dan baragraff (1) yn effeithiol, bydd darpariaethau (fel y'u cymhwysir gan reoliad 8) Deddf 1983, ac eithrio adran 31, Deddf 1985, Deddf yr Etholiadau, Deddf CB 2000, Rheoliadau'r Etholiadau, ac eithrio rheoliadau 55, 62 a 79, a Rheolau'r Prif Ardaloedd yn gymwys, o ran y refferendwm; ond bydd y darpariaethau a nodir yng ngholofn (1) o Atodlen 4 yn gymwys gyda'r newidiadau pellach a nodir ar eu cyfer yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno (yn ogystal â'r newidiadau sy'n effeithiol yn rhinwedd rheoliad 8).
(3) Ni fydd y swyddogaeth o wneud penderfyniad o dan baragraff (1) yn ddyletswydd gweithredydd awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth(3).
O ran y rhai sydd â'r hawl i bleidleisio mewn refferendwm gweler adran 45(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Gweler rheoliad 5(2), y diffiniad o'r “gofrestr berthnasol” yn rheoliad 6(1), a pharagraffau (2) a (4) o reoliad 13.
Gweler adran 13(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: