- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
1. Daw'r briffordd newydd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym.
2. Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd.
3. Bydd y darn o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog bras ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd, a chaiff ei ddosbarthu fel ffordd ddosbarthiadol, o'r dyddiad y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hysbysu Cyngor Sir Powys fod gefnffordd newydd ar agor i draffig trwodd.
4. Yn y Gorchymyn hwn :—
(1) Mae pob mesur o bellter wedi'i fesur ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;
(2) ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd Llundain — Abergwaun (A40);
ystyr “y gefnffordd newydd” (“the new trunk road”) yw'r briffordd a grybwyllir yn Erthygl 1 o'r Gorchymyn hwn;
ystyr “y plan a adneuwyd” (“the deposited plan”) yw'r plan a rifwyd HA10/2 NAFW 4 ac a farciwyd Gorchymyn Cefnffordd Llundain — Abergwaun (A40) (Gwelliant Heol Draw) 2004 a lofnodwyd drwy awdurdod y Gweinidog dros Ddatbygu Economaidd a Thrafnidiaeth a'i adneuo yn Uned Storio ac Adfer Cofnodion (RSRU) Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd.
5. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 19 Chwefror 2004 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Llundain — Abergwaun (A40) (Gwelliant Heol Draw) 2004.
Llofnodwyd ar ran y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth
S C SHOULER
Pennaeth yr Is-adran Gweinyddu Ffyrdd
Llywodraeth Cynulliad Cymru
15 Ionawr 2004
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: