ATODLEN 1GOFYNION YMGYNGHORI AR GYFER CYTUNDEBAU HIR-DYMOR CYMWYS AC EITHRIO'R RHEINI Y MAE ANGEN RHOI HYSBYSIAD CYHOEDDUS OHONYNT
Dyletswydd wrth ymrwymo i gytundeb
8
1
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), os yw'r landlord yn ymrwymo i gytundeb y mae a wnelo â materion perthnasol, rhaid i'r landlord, o fewn 21 diwrnod i ymrwymo i'r cytundeb, drwy hysbysiad ysgrifenedig at bob tenant a chymdeithas tenantiaid gydnabyddedig (os o gwbl)—
a
datgan y rhesymau dros wneud y cytundeb hwnnw neu bennu ym mha le a pha bryd y gellir archwilio datganiad o'r rhesymau hynny; a
b
crynhoi sylwadau ac ymateb iddynt neu bennu'r lle a'r amser y gellir archwilio'r crynodeb a'r ymateb, os gwneir sylwadau y mae'n ofynnol i'r landlord eu hystyried (yn unol â pharagraff 7).
2
Nid yw gofynion is-baragraff (1) yn gymwys os yw person y gwnaed y cytundeb gydag ef yn berson a enwebwyd neu os yw wedi cyflwyno'r amcangyfrif isaf.
3
Bydd paragraff 2 yn gymwys i ddatganiad, crynodeb ac ymateb a fydd ar gael i'w harchwilio o dan y paragraff hwn fel y mae'n gymwys i ddisgrifiad o'r materion perthnasol a fydd ar gael i'w archwilio o dan y paragraff hwnnw.