Y gofynion ymgynghori: gwaith cymwys7

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (5), os yw gwaith cymwys (pa un ai wrth ei hun neu ynghyd â materion eraill) yn destun cytundeb hir-dymor cymwys y mae adran 20 yn gymwys iddo, y gofynion ymgynghori at ddibenion yr adran honno ac adran 20ZA, mewn cysylltiad â'r gwaith hwnnw, yw'r gofynion a bennir yn Atodlen 3.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mewn achos y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, y gofynion ymgynghori at ddibenion adran 20 ac adran 20ZA, mewn cysylltiad â gwaith cymwys y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw, yw'r rhai a bennir yn Atodlen 3.

3

Mae'r paragraff hwn yn gymwys—

a

os cyflawnir gwaith ar unrhyw adeg ar neu ar ôl y dyddiad sydd ddau fis ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, a hynny o dan gytundeb yr ymrwymir iddo, gan neu ar ran y landlord neu uwch-landlord, cyn y daw'r Rheoliadau hyn i rym; neu

b

os cyflawnir, unrhyw bryd ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, waith cymwys y rhoddwyd hysbysiad cyhoeddus ohono cyn y dyddiad hwnnw, a hynny o dan gytundeb sydd am gyfnod o fwy na deuddeng mis ac yr ymrwymir iddo, gan neu ar ran y landlord neu uwch-landlord.

4

Ac eithrio mewn achos y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, ac yn ddarostyngedig i baragraff (5), os nad yw gwaith cymwys yn destun cytundeb hir-dymor cymwys y mae adran 20 yn gymwys iddo, y gofynion ymgynghori at ddibenion yr adran honno ac adran 20ZA, mewn cysylltiad â'r gwaith hwnnw yw—

a

y rhai a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 4, mewn achos y mae'n ofynnol rhoi hysbysiad cyhoeddus o'r gwaith hwnnw;

b

y rhai a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen honno, mewn unrhyw achos arall.

5

Mewn perthynas â thenant RTB a gwaith cymwys penodol, nid oes dim ym mharagraff (1), (2) neu (4) sy'n ei gwneud yn ofynnol i landlord gydymffurfio ag unrhyw un o'r gofynion ymgynghori sy'n gymwys i'r cytundeb hwnnw ac sy'n codi cyn yr unfed dydd ar ddeg ar hugain o'r denantiaeth RTB.