xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 678 (Cy.66)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Rheoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurf Rhagnodedig) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

9 Mawrth 2004

Yn dod i rym

31 Mawrth 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 78(2)(d) a (3), 80(8) a (9), 84(2), 92(3) a (7) a 178(1) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002(1) ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurf Rhagnodedig) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i fangreoedd yng Nghymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002;

ystyr “landlord”, (“landlord”) mewn perthynas â mangre RTM, yw person sy'n landlord o dan brydles o'r cyfan neu unrhyw ran o'r fangre(3);

ystyr “mangre RTM” (“RTM premises”) yw mangre y mae cwmni RTM yn bwriadu caffael yr hawl i reoli mewn cysylltiad â hi(4);

ystyr “trydydd parti” (“third party”), mewn perthynas â mangre RTM, yw person sy'n barti i brydles o'r cyfan neu unrhyw ran o'r fangre heblaw yn landlord neu'n denant(5).

Cynnwys ychwanegol yr hysbysiad sy'n gwahodd cymryd rhan

3.—(1Rhaid i hysbysiad sy'n gwahodd cymryd rhan(6)) gynnwys (yn ychwanegol at y datganiadau a'r gwahoddiad y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) i (c) o is-adran (2) o adran 78 (hysbysiad yn gwahodd cymryd rhan) o Ddeddf 2002), y manylion a grybwyllir ym mharagraff (2).

(2Dyma'r manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) —

(a)Rhif cofrestredig y cwmni RTM(7), cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig ac enwau ei gyfarwyddwyr a'i ysgrifennydd;

(b)enwau'r landlord ac unrhyw drydydd parti;

(c)datganiad, yn ddarostyngedig i'r eithriadau a grybwyllir yn is-baragraff (d), os bydd y cwmni RTM yn caffael yr hawl i reoli, y bydd y cwmni'n gyfrifol am—

(i)cyflawni dyletswyddau'r landlord o dan y les; a

(ii)arfer ei bwerau o dan y les,

o ran gwasanaethau, trwsio, cynnal a chadw, gwelliannau, yswiriant a rheoli;

(ch)datganiad, yn ddarostyngedig i'r eithriad a grybwyllir yn is-baragraff (d)(ii), os bydd y cwmni RTM yn caffael yr hawl i reoli, y caiff y cwmni orfodi cyfamodau tenant na chafodd eu trosglwyddo(8));

(d)datganiad, os bydd y cwmni RTM yn caffael yr hawl i reoli, na fydd y cwmni'n gyfrifol am gyflawni dyletswyddau'r landlord nac arfer ei bwerau o dan y les—

(i)o ran mater sy'n ymwneud yn unig â rhan o'r fangre sy'n fflat neu'n uned arall nad yw'n ddarostyngedig i les a gaiff ei dal gan denant cymwys(9); neu

(ii)ynghylch ailfynediad neu fforffediad;

(dd)datganiad, os bydd y cwmni RTM yn caffael yr hawl i reoli, y bydd gan y cwmni swyddogaethau o dan y darpariaethau statudol y cyfeirir atynt yn Atodlen 7 i Ddeddf 2002;

(e)datganiad bod y cwmni RTM yn bwriadu neu, yn ôl y digwydd, nad yw'n bwriadu, penodi asiant rheoli o fewn ystyr adran 30B(8) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985(10); ac,

(i)os yw'n fwriad o'r fath ganddo, ddatganiad—

(aa)o enw a chyfeiriad yr asiant rheoli arfaethedig (os yw'n wybyddus); a

(bb)os yw'n wir, bod y person yn asiant rheoli i'r landlord; neu

(ii)os nad yw'n fwriad o'r fath ganddo, cymwysterau neu brofiad (os oes rhai) aelodau presennol y cwmni RTM mewn perthynas â rheoli eiddo preswyl;

(f)datganiad, os bydd y cwmni'n rhoi hysbysiad hawlio(11), y gall person sydd neu sydd wedi bod yn aelod o'r cwmni fod yn atebol am gostau a dynnwyd gan y landlord ac eraill o ganlyniad i'r hysbysiad;

(ff)datganiad, os nad yw'r sawl sy'n derbyn yr hysbysiad (yn gwahodd i gymryd rhan) yn llwyr ddeall ei ddiben neu ei oblygiadau, sy'n ei gynghori i geisio cymorth proffesiynol; ac

(g)yr wybodaeth a roddir yn y nodiadau i'r ffurf a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

Cynnwys ychwanegol hysbysiad hawlio

4.  Rhaid i hysbysiad hawlio(12)) gynnwys (yn ychwanegol at y manylion sy'n ofynnol gan is-adrannau (2) i (7) o adran 80 (cynnwys hysbysiad hawlio) o Ddeddf 2002)—

(a)datganiad bod y person —

(i)nad yw'n dadlau â hawl y cwmni RTM i gaffael yr hawl i reoli(13); a

(ii)sydd yn barti rheolwr o dan gontract rheoli(14) sy'n bodoli yn union cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hawlio o dan adran 80(6) o Ddeddf 2002,

yn gorfod, yn unol ag adran 92 (dyletswyddau i roi gwybod am gontractau) o Ddeddf 2002, roi hysbysiad mewn perthynas â'r contract i'r person sydd yn barti contractiwr(15) mewn perthynas â'r contract a'r cwmni RTM;

(b)datganiad bod landlordiaid o dan lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r fangre y mae'r hysbysiad hawlio yn berthnasol iddi â hawl i fod yn aelodau o'r cwmni RTM o'r dyddiad caffael(16));

(c)datganiad nad yw'r hysbysiad wedi'i annilysu gan unrhyw anghywirdeb yn unrhyw fanylion sy'n ofynnol gan adran 80(2) i (7) o Ddeddf 2002 neu'r rheoliad hwn, ond y caiff person sydd o'r farn bod unrhyw fanylion sydd yn yr hysbysiad hawlio yn anghywir—

(i)nodi'r manylion o dan sylw i'r cwmni RTM a roddodd yr hysbysiad; a

(ii)dangos pam yr ystyrir eu bod yn anghywir;

(ch)datganiad bod y sawl sy'n derbyn yr hysbysiad ond nad yw'n llwyr ddeall ei ddiben, yn cael ei gynghori i geisio cymorth proffesiynol; a

(d)yr wybodaeth a roddir yn y nodiadau i'r ffurf a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

Cynnwys ychwanegol gwrth-hysbysiad

5.  Rhaid i wrth-hysbysiad gynnwys (yn ychwanegol at y datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (a) neu (b) o is-adran (2) o adran 84 (gwrth-hysbysiadau) o Ddeddf 2002)—

(a)datganiad y caiff y cwmni RTM, os cafodd y cwmni un gwrth-hysbysiad neu fwy sy'n cynnwys datganiad fel y crybwyllir ym mharagraff (b) o is-adran (2) o adran 84 o Ddeddf 2002, gyflwyno cais i dribiwnlys prisio lesddaliad am benderfyniad bod gan y cwmni, ar y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad o hawliad, yr awdurdod i gaffael yr hawl i reoli'r fangre a bennir yn yr hysbysiad hawlio;

(b)datganiad na chaiff y cwmni RTM, os cafodd y cwmni un gwrth-hysbysiad neu fwy sy'n cynnwys datganiad fel yr un a grybwyllir ym mharagraff (b) o is-adran (2) o adran 84 o Ddeddf 2002, yr hawl i reoli'r fangre a bennir yn yr hysbysiad hawlio oni bai—

(i)y penderfynir yn derfynol(17) ar gais i dribiwnlys prisio lesddaliad bod yr awdurdod gan y cwmni i gaffael yr hawl i reoli'r fangre; neu

(ii)bod y person a roddodd y gwrth-hysbysiad, neu'r personau a roddodd y gwrth-hysbysiadau, yn cytuno'n ysgrifenedig fod gan y cwmni yr awdurdod hwnnw; ac

(c)yr wybodaeth a roddir yn y nodiadau i'r ffurf a nodir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.

Cynnwys ychwanegol hysbysiad contractiwr

6.  Rhaid i hysbysiad contractiwr(18) gynnwys (yn ychwanegol at y manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) i (d) o is-adran (3) o adran 92 (dyletswyddau i roi gwybod am gontractau) o Ddeddf 2002 ) —

(a)datganiad, pe bai'r person y rhoddir yr hysbysiad iddo yn dymuno darparu gwasanaethau i'r cwmni RTM y mae, fel y parti contractiwr, wedi ei ddarparu i'r parti rheolwr(19) o dan y contract y ceir manylion amdano yn yr hysbysiad, cynghorir ei fod yn cysylltu â'r cwmni RTM yn y cyfeiriad a roddir yn yr hysbysiad; a

(b)yr wybodaeth a roddir yn y nodiadau i'r ffurf a nodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn.

Cynnwys ychwanegol hysbysiad contract

7.  Rhaid i hysbysiad contract(20)) gynnwys (yn ychwanegol at y manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) o is-adran (7) o adran 92 o Ddeddf 2002)—

(a)cyfeiriad y person sy'n barti contractiwr, neu'n barti is-gontractiwr(21), o dan y contract y ceir manylion amdano yn yr hysbysiad;

(b)datganiad, pe bai'r cwmni RTM yn dymuno defnyddio'r gwasanaethau y mae'r parti contractiwr, neu barti is-gontractiwr, wedi ei ddarparu i'r parti rheolwr o dan y contract hwnnw, cynghorir ei fod yn cysylltu â'r parti contractiwr, neu barti is-gontractiwr, yn y cyfeiriad a roddwyd yn yr hysbysiad; a

(c)yr wybodaeth a roddir yn y nodiadau i'r ffurf a nodir yn Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn.

Ffurf yr hysbysiadau

8.—(1Rhaid i hysbysiadau sy'n gwahodd cymryd rhan fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn a phan roddir dyddiadau yn yr hysbysiadau rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau.

(2Rhaid i hysbysiadau hawlio fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn a phan roddir dyddiadau yn yr hysbysiadau rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau.

(3Rhaid i wrth-hysbysiadau fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn a phan roddir dyddiadau yn yr hysbysiadau rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau.

(4Rhaid i hysbysiadau contractiwr fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn a phan roddir dyddiadau yn yr hysbysiadau rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau.

(5Rhaid i hysbysiadau contract fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn a phan roddir dyddiadau yn yr hysbysiadau rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(22).

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Mawrth 2004

Rheoliadau 3(2)(g) ac 8(1)

ATODLEN 1FFURF HYSBYSIAD YN GWAHODD CYMRYD RHAN

DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002

Hysbysiad o wahoddiad i gymryd rhan yn yr hawl i reoli

ATODLEN

Rheoliadau 4(d) ac 8(2)

ATODLEN 2FFURF HYSBYSIAD HAWLIO

DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002

Hysbysiad Hawlio

ATODLEN

Rheoliadau 5(c) ac 8(3)

ATODLEN 3FFURF GWRTH-HYSBYSIAD

DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002

Gwrth-hysbysiad

Rheoliad 6(b) ac 8(4)

ATODLEN 4FFURF HYSBYSIAD CONTRACTIWR

DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002

Hysbysiad Contractiwr

ATODLEN

Rheoliad 7(c) ac 8(5)

ATODLEN 5FFURF HYSBYSIAD CONTRACT

DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002

Hysbysiad Contract

ATODLEN

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn atodol i Bennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesaddaliad 2002 (“y Ddeddf”). Mae'r Bennod honno'n darparu ar gyfer caffael ac arfer hawliau mewn perthynas â rheoli mangre y mae'r Bennod yn gymwys iddi gan gwmni a allai, yn unol â'r Bennod honno, gaffael ac arfer yr hawliau hynny (“cwmni RTM”).

Cyn y gall cwmni RTM gaffael yr hawl i reoli mangre, rhaid iddo roi hysbysiad (“hysbysiad yn gwahodd cymryd rhan”) i denantiaid y fflatiau hynny sydd yn y fangre sydd yn “denantiaid cymwys” (gweler adran 75 o'r Ddeddf) o'i fwriad i gaffael yr hawl. Rhaid i'r hysbysiad wahodd y rhai sy'n ei dderbyn i ddod yn aelodau o'r cwmni RTM. Mae Rheoliad 3, y mae Atodlen 1 o'r Rheoliadau hyn hefyd yn berthnasol iddo, yn rhagnodi gofynion, yn ychwanegol at y rhai a bennir yn adran 78 o'r Ddeddf, o ran cynnwys yr hysbysiad.

Cyn gynted ag y mae cwmni RTM wedi rhoi hysbysiad yn gwahodd cymryd rhan, caiff wneud hawliad i gaffael yr hawl i reoli. Mae'n ofynnol i'r hawliad gael ei wneud drwy hysbysiad (“hysbysiad hawlio”), a roddir i bob person —

(a)sy'n landlord o dan les o'r cyfan neu unrhyw ran o'r fangre y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi,

(b)sy'n barti i les o'r fath heblaw fel landlord neu denant, neu

(c)sy'n rheolwr a benodwyd o dan Ran 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 i weithredu mewn perthynas â'r fangre, neu unrhyw fangre sy'n cynnwys neu a gynhwysir yn y fangre.

Mae Rheoliad 4, y mae Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn hefyd yn berthnasol iddo, yn rhagnodi gofynion, yn ychwanegol at y rhai a bennir yn adran 80 o'r Ddeddf, o ran cynnwys yr hysbysiad.

Caiff person sy'n derbyn hysbysiad hawlio ymateb drwy roi gwrth-hysbysiad i'r cwmni RTM, y caiff hawliad y cwmni RTM naill ai ei addef neu ei wrthwynebu ynddo. Mae Rheoliad 5, y mae Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn hefyd yn berthnasol iddo, yn rhagnodi gofynion, yn ychwanegol at y rhai a bennir yn adran 84 o'r Ddeddf, o ran cynnwys yr hysbysiad.

Os yw person sydd â hawl i dderbyn hysbysiad hawlio hefyd yn barti i gontract y mae'r parti arall i'r contract yn cytuno i ddarparu gwasanaethau odano, neu wneud pethau eraill odano, mewn cysylltiad ag unrhyw fater ynghylch swyddogaeth a fydd yn swyddogaeth y cwmni RTM cyn gynted ag y bydd yn caffael yr hawl i reoli'r fangre, rhaid i'r person hwnnw hysbysu'r parti arall i'r contract (“hysbysiad contractiwr”) a'r cwmni RTM (“hysbysiad contract”). Mae Rheoliadau 6 a 7 (y mae Atodlenni 4 a 5 i'r Rheoliadau hyn yn berthnasol iddynt yn ôl eu trefn) yn rhagnodi gofynion, yn ychwanegol at y rhai a bennir yn adran 92 o'r Ddeddf, o ran cynnwys yr hysbysiadau contractiwr a'r hysbysiadau contract, yn ôl eu trefn.

Mae Rheoliad 8 yn rhagnodi ffurf y gwahoddiadau i gymryd rhan, yr hysbysiadau hawlio, y gwrth-hysbysiadau, yr hysbysiadau contractiwr a'r hysbysiadau contract.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Cyfarwyddiaeth Dai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathys, Caerdydd CF10 3NQ (Ffôn 029 2082 3025).

(1)

2002 p.15. Mae'r pwerau'n arferadwy gan yr awdurdod cenedlaethol priodol. Diffinnir “the appropriate national authority” yn adran 179(1) fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru a'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr. Gweler adran 178(3) mewn cysylltiad â'r pwer i wneud Rheoliadau

(2)

1993 p.38. Mae swyddogaethau'r Gweinidog o dan adran 26 o Ddeddf 1993 yn arferadwy yn gydredol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd ag unrhyw Weinidog y Goron sy'n eu harfer, yn rhinwedd y cofnod mewn perthynas â Deddf 1993 yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 22(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38).

(3)

O ran y diffinaid o “landlord” gweler adran 112, (3) a (5) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002. I gael diffiniad o “lease” gweler adran 112(2) o'r Ddeddf honno.

(4)

I gael y diffiniad o “RTM Company” gweler adrannau 71(1) a 73 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002. Gweler adran 72 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddlaid 2002 er mwyn y mangreoedd y mae'r hawl i reoli yn gymwys iddynt.

(5)

O ran y diffiniad o “tenant” gweler adran 112(2) a (3) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.

(6)

Gweler adran 78(2) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.

(7)

Gweler adran 705(1) o Ddeddf Cwmnïau 1985 (p.6). Amnewidiwyd adran 705 gan Ddeddf Cwmnïau 1989 (p.40), Atodlen 19, paragraff14.

(8)

Er mwyn “untransferred tenant covenants” (“cyfamodau tenant na chafodd eu trosglwyddo”) gweler adran 100(4) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.

(9)

O ran y mangre y mae Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Cyfunddaliad a Cyfraith Diwygio a Lesddaliad 2002 yn gymwys, gweler adran 72 (ac Atodlen 6). ). I gael diffiniad o “flat” (“fflat”) ac “unit” (“uned”) gweler adran 112(1). I gael diffiniad o “lease” (“les”) gweler adran 112(2). I gael diffiniad o “qualifying tenant” (“tenant cymwys”), gweler adrannau 75 a 112(4) a (5).

(10)

1985 p.70. Mewnosodwyd adran 30B gan Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p.31), adran 44.

(11)

I gael diffiniad o “claim notice” (“hysbysiad hawlio”) gweler adran 79(1) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.

(12)

Gweler adran 79(1) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.

(13)

O ran yr amgylchiadau lle nad oes dadl am yr hawl, gweler adran 90(3) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith a Lesddaliad 2002.

(14)

I gael y diffiniad o “manager party” gweler adran 91(2) a 4 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002. Er mwyn “management contract” gweler adran 91(2) o'r Ddeddf honno.

(15)

Er mwyn “contractor party” gweler adran 91(2)(b) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.

(16)

Gweler adrannau 74(1)(b) a 90 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002

(17)

Gweler adran 84(7) ac 8 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.

(18)

Gweler adran 92(1)(a) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.

(19)

I gael y diffiniad o “manager party” gweler adran 91(2)(a) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith a Lesddaliad 2002.

(20)

Gweler adran 92(1)(b) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.

(21)

Er mwyn “sub-contractor party” gweler adran 92(4) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.

(22)

1998 p.38.