2004 Rhif 678 (Cy.66)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Rheoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurf Rhagnodedig) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 78(2)(d) a (3), 80(8) a (9), 84(2), 92(3) a (7) a 178(1) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 20021 ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 19932 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurf Rhagnodedig) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2004.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i fangreoedd yng Nghymru yn unig.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002;

  • ystyr “landlord”, (“landlord”) mewn perthynas â mangre RTM, yw person sy'n landlord o dan brydles o'r cyfan neu unrhyw ran o'r fangre3;

  • ystyr “mangre RTM” (“RTM premises”) yw mangre y mae cwmni RTM yn bwriadu caffael yr hawl i reoli mewn cysylltiad â hi4;

  • ystyr “trydydd parti” (“third party”), mewn perthynas â mangre RTM, yw person sy'n barti i brydles o'r cyfan neu unrhyw ran o'r fangre heblaw yn landlord neu'n denant5.

Cynnwys ychwanegol yr hysbysiad sy'n gwahodd cymryd rhan3

1

Rhaid i hysbysiad sy'n gwahodd cymryd rhan6) gynnwys (yn ychwanegol at y datganiadau a'r gwahoddiad y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) i (c) o is-adran (2) o adran 78 (hysbysiad yn gwahodd cymryd rhan) o Ddeddf 2002), y manylion a grybwyllir ym mharagraff (2).

2

Dyma'r manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) —

a

Rhif cofrestredig y cwmni RTM7, cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig ac enwau ei gyfarwyddwyr a'i ysgrifennydd;

b

enwau'r landlord ac unrhyw drydydd parti;

c

datganiad, yn ddarostyngedig i'r eithriadau a grybwyllir yn is-baragraff (d), os bydd y cwmni RTM yn caffael yr hawl i reoli, y bydd y cwmni'n gyfrifol am—

i

cyflawni dyletswyddau'r landlord o dan y les; a

ii

arfer ei bwerau o dan y les,

o ran gwasanaethau, trwsio, cynnal a chadw, gwelliannau, yswiriant a rheoli;

ch

datganiad, yn ddarostyngedig i'r eithriad a grybwyllir yn is-baragraff (d)(ii), os bydd y cwmni RTM yn caffael yr hawl i reoli, y caiff y cwmni orfodi cyfamodau tenant na chafodd eu trosglwyddo8);

d

datganiad, os bydd y cwmni RTM yn caffael yr hawl i reoli, na fydd y cwmni'n gyfrifol am gyflawni dyletswyddau'r landlord nac arfer ei bwerau o dan y les—

i

o ran mater sy'n ymwneud yn unig â rhan o'r fangre sy'n fflat neu'n uned arall nad yw'n ddarostyngedig i les a gaiff ei dal gan denant cymwys9; neu

ii

ynghylch ailfynediad neu fforffediad;

dd

datganiad, os bydd y cwmni RTM yn caffael yr hawl i reoli, y bydd gan y cwmni swyddogaethau o dan y darpariaethau statudol y cyfeirir atynt yn Atodlen 7 i Ddeddf 2002;

e

datganiad bod y cwmni RTM yn bwriadu neu, yn ôl y digwydd, nad yw'n bwriadu, penodi asiant rheoli o fewn ystyr adran 30B(8) o Ddeddf Landlord a Thenant 198510; ac,

i

os yw'n fwriad o'r fath ganddo, ddatganiad—

aa

o enw a chyfeiriad yr asiant rheoli arfaethedig (os yw'n wybyddus); a

bb

os yw'n wir, bod y person yn asiant rheoli i'r landlord; neu

ii

os nad yw'n fwriad o'r fath ganddo, cymwysterau neu brofiad (os oes rhai) aelodau presennol y cwmni RTM mewn perthynas â rheoli eiddo preswyl;

f

datganiad, os bydd y cwmni'n rhoi hysbysiad hawlio11, y gall person sydd neu sydd wedi bod yn aelod o'r cwmni fod yn atebol am gostau a dynnwyd gan y landlord ac eraill o ganlyniad i'r hysbysiad;

ff

datganiad, os nad yw'r sawl sy'n derbyn yr hysbysiad (yn gwahodd i gymryd rhan) yn llwyr ddeall ei ddiben neu ei oblygiadau, sy'n ei gynghori i geisio cymorth proffesiynol; ac

g

yr wybodaeth a roddir yn y nodiadau i'r ffurf a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

Cynnwys ychwanegol hysbysiad hawlio4

Rhaid i hysbysiad hawlio12) gynnwys (yn ychwanegol at y manylion sy'n ofynnol gan is-adrannau (2) i (7) o adran 80 (cynnwys hysbysiad hawlio) o Ddeddf 2002)—

a

datganiad bod y person —

i

nad yw'n dadlau â hawl y cwmni RTM i gaffael yr hawl i reoli13; a

ii

sydd yn barti rheolwr o dan gontract rheoli14 sy'n bodoli yn union cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hawlio o dan adran 80(6) o Ddeddf 2002,

yn gorfod, yn unol ag adran 92 (dyletswyddau i roi gwybod am gontractau) o Ddeddf 2002, roi hysbysiad mewn perthynas â'r contract i'r person sydd yn barti contractiwr15 mewn perthynas â'r contract a'r cwmni RTM;

b

datganiad bod landlordiaid o dan lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r fangre y mae'r hysbysiad hawlio yn berthnasol iddi â hawl i fod yn aelodau o'r cwmni RTM o'r dyddiad caffael16);

c

datganiad nad yw'r hysbysiad wedi'i annilysu gan unrhyw anghywirdeb yn unrhyw fanylion sy'n ofynnol gan adran 80(2) i (7) o Ddeddf 2002 neu'r rheoliad hwn, ond y caiff person sydd o'r farn bod unrhyw fanylion sydd yn yr hysbysiad hawlio yn anghywir—

i

nodi'r manylion o dan sylw i'r cwmni RTM a roddodd yr hysbysiad; a

ii

dangos pam yr ystyrir eu bod yn anghywir;

ch

datganiad bod y sawl sy'n derbyn yr hysbysiad ond nad yw'n llwyr ddeall ei ddiben, yn cael ei gynghori i geisio cymorth proffesiynol; a

d

yr wybodaeth a roddir yn y nodiadau i'r ffurf a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

Cynnwys ychwanegol gwrth-hysbysiad5

Rhaid i wrth-hysbysiad gynnwys (yn ychwanegol at y datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (a) neu (b) o is-adran (2) o adran 84 (gwrth-hysbysiadau) o Ddeddf 2002)—

a

datganiad y caiff y cwmni RTM, os cafodd y cwmni un gwrth-hysbysiad neu fwy sy'n cynnwys datganiad fel y crybwyllir ym mharagraff (b) o is-adran (2) o adran 84 o Ddeddf 2002, gyflwyno cais i dribiwnlys prisio lesddaliad am benderfyniad bod gan y cwmni, ar y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad o hawliad, yr awdurdod i gaffael yr hawl i reoli'r fangre a bennir yn yr hysbysiad hawlio;

b

datganiad na chaiff y cwmni RTM, os cafodd y cwmni un gwrth-hysbysiad neu fwy sy'n cynnwys datganiad fel yr un a grybwyllir ym mharagraff (b) o is-adran (2) o adran 84 o Ddeddf 2002, yr hawl i reoli'r fangre a bennir yn yr hysbysiad hawlio oni bai—

i

y penderfynir yn derfynol17 ar gais i dribiwnlys prisio lesddaliad bod yr awdurdod gan y cwmni i gaffael yr hawl i reoli'r fangre; neu

ii

bod y person a roddodd y gwrth-hysbysiad, neu'r personau a roddodd y gwrth-hysbysiadau, yn cytuno'n ysgrifenedig fod gan y cwmni yr awdurdod hwnnw; ac

c

yr wybodaeth a roddir yn y nodiadau i'r ffurf a nodir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.

Cynnwys ychwanegol hysbysiad contractiwr6

Rhaid i hysbysiad contractiwr18 gynnwys (yn ychwanegol at y manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) i (d) o is-adran (3) o adran 92 (dyletswyddau i roi gwybod am gontractau) o Ddeddf 2002 ) —

a

datganiad, pe bai'r person y rhoddir yr hysbysiad iddo yn dymuno darparu gwasanaethau i'r cwmni RTM y mae, fel y parti contractiwr, wedi ei ddarparu i'r parti rheolwr19 o dan y contract y ceir manylion amdano yn yr hysbysiad, cynghorir ei fod yn cysylltu â'r cwmni RTM yn y cyfeiriad a roddir yn yr hysbysiad; a

b

yr wybodaeth a roddir yn y nodiadau i'r ffurf a nodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn.

Cynnwys ychwanegol hysbysiad contract7

Rhaid i hysbysiad contract20) gynnwys (yn ychwanegol at y manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) o is-adran (7) o adran 92 o Ddeddf 2002)—

a

cyfeiriad y person sy'n barti contractiwr, neu'n barti is-gontractiwr21, o dan y contract y ceir manylion amdano yn yr hysbysiad;

b

datganiad, pe bai'r cwmni RTM yn dymuno defnyddio'r gwasanaethau y mae'r parti contractiwr, neu barti is-gontractiwr, wedi ei ddarparu i'r parti rheolwr o dan y contract hwnnw, cynghorir ei fod yn cysylltu â'r parti contractiwr, neu barti is-gontractiwr, yn y cyfeiriad a roddwyd yn yr hysbysiad; a

c

yr wybodaeth a roddir yn y nodiadau i'r ffurf a nodir yn Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn.

Ffurf yr hysbysiadau8

1

Rhaid i hysbysiadau sy'n gwahodd cymryd rhan fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn a phan roddir dyddiadau yn yr hysbysiadau rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau.

2

Rhaid i hysbysiadau hawlio fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn a phan roddir dyddiadau yn yr hysbysiadau rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau.

3

Rhaid i wrth-hysbysiadau fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn a phan roddir dyddiadau yn yr hysbysiadau rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau.

4

Rhaid i hysbysiadau contractiwr fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn a phan roddir dyddiadau yn yr hysbysiadau rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau.

5

Rhaid i hysbysiadau contract fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn a phan roddir dyddiadau yn yr hysbysiadau rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199822.

John MarekDirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLEN 1FFURF HYSBYSIAD YN GWAHODD CYMRYD RHAN

Rheoliadau 3(2)(g) ac 8(1)

DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002

Hysbysiad o wahoddiad i gymryd rhan yn yr hawl i reoli

Image_r00000

Image_r00001

Image_r00002

Image_r00003

ATODLEN

Image_r00004

Image_r00005

Image_r00006

Image_r00007

Image_r00008

ATODLEN 2FFURF HYSBYSIAD HAWLIO

Rheoliadau 4(d) ac 8(2)

DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002

Hysbysiad Hawlio

Image_r00009

Image_r00010

Image_r00011

ATODLEN

Image_r00012

Image_r00013

ATODLEN 3FFURF GWRTH-HYSBYSIAD

Rheoliadau 5(c) ac 8(3)

DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002

Gwrth-hysbysiad

Image_r00014

Image_r00015

Image_r00016

Image_r00017

ATODLEN 4FFURF HYSBYSIAD CONTRACTIWR

Rheoliad 6(b) ac 8(4)

DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002

Hysbysiad Contractiwr

Image_r00018

Image_r00019

ATODLEN

Image_r00020

Image_r00021

ATODLEN 5FFURF HYSBYSIAD CONTRACT

Rheoliad 7(c) ac 8(5)

DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002

Hysbysiad Contract

Image_r00022

Image_r00023

ATODLEN

Image_r00024

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn atodol i Bennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesaddaliad 2002 (“y Ddeddf”). Mae'r Bennod honno'n darparu ar gyfer caffael ac arfer hawliau mewn perthynas â rheoli mangre y mae'r Bennod yn gymwys iddi gan gwmni a allai, yn unol â'r Bennod honno, gaffael ac arfer yr hawliau hynny (“cwmni RTM”).

Cyn y gall cwmni RTM gaffael yr hawl i reoli mangre, rhaid iddo roi hysbysiad (“hysbysiad yn gwahodd cymryd rhan”) i denantiaid y fflatiau hynny sydd yn y fangre sydd yn “denantiaid cymwys” (gweler adran 75 o'r Ddeddf) o'i fwriad i gaffael yr hawl. Rhaid i'r hysbysiad wahodd y rhai sy'n ei dderbyn i ddod yn aelodau o'r cwmni RTM. Mae Rheoliad 3, y mae Atodlen 1 o'r Rheoliadau hyn hefyd yn berthnasol iddo, yn rhagnodi gofynion, yn ychwanegol at y rhai a bennir yn adran 78 o'r Ddeddf, o ran cynnwys yr hysbysiad.

Cyn gynted ag y mae cwmni RTM wedi rhoi hysbysiad yn gwahodd cymryd rhan, caiff wneud hawliad i gaffael yr hawl i reoli. Mae'n ofynnol i'r hawliad gael ei wneud drwy hysbysiad (“hysbysiad hawlio”), a roddir i bob person —

a

sy'n landlord o dan les o'r cyfan neu unrhyw ran o'r fangre y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi,

b

sy'n barti i les o'r fath heblaw fel landlord neu denant, neu

c

sy'n rheolwr a benodwyd o dan Ran 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 i weithredu mewn perthynas â'r fangre, neu unrhyw fangre sy'n cynnwys neu a gynhwysir yn y fangre.

Mae Rheoliad 4, y mae Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn hefyd yn berthnasol iddo, yn rhagnodi gofynion, yn ychwanegol at y rhai a bennir yn adran 80 o'r Ddeddf, o ran cynnwys yr hysbysiad.

Caiff person sy'n derbyn hysbysiad hawlio ymateb drwy roi gwrth-hysbysiad i'r cwmni RTM, y caiff hawliad y cwmni RTM naill ai ei addef neu ei wrthwynebu ynddo. Mae Rheoliad 5, y mae Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn hefyd yn berthnasol iddo, yn rhagnodi gofynion, yn ychwanegol at y rhai a bennir yn adran 84 o'r Ddeddf, o ran cynnwys yr hysbysiad.

Os yw person sydd â hawl i dderbyn hysbysiad hawlio hefyd yn barti i gontract y mae'r parti arall i'r contract yn cytuno i ddarparu gwasanaethau odano, neu wneud pethau eraill odano, mewn cysylltiad ag unrhyw fater ynghylch swyddogaeth a fydd yn swyddogaeth y cwmni RTM cyn gynted ag y bydd yn caffael yr hawl i reoli'r fangre, rhaid i'r person hwnnw hysbysu'r parti arall i'r contract (“hysbysiad contractiwr”) a'r cwmni RTM (“hysbysiad contract”). Mae Rheoliadau 6 a 7 (y mae Atodlenni 4 a 5 i'r Rheoliadau hyn yn berthnasol iddynt yn ôl eu trefn) yn rhagnodi gofynion, yn ychwanegol at y rhai a bennir yn adran 92 o'r Ddeddf, o ran cynnwys yr hysbysiadau contractiwr a'r hysbysiadau contract, yn ôl eu trefn.

Mae Rheoliad 8 yn rhagnodi ffurf y gwahoddiadau i gymryd rhan, yr hysbysiadau hawlio, y gwrth-hysbysiadau, yr hysbysiadau contractiwr a'r hysbysiadau contract.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Cyfarwyddiaeth Dai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathys, Caerdydd CF10 3NQ (Ffôn 029 2082 3025).