xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 669 (Cy.62) (C.25)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbedion) (Cymru) 2004

Wedi'i wneud

9 Mawrth 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 181 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbedion) (Cymru) 2004.

(2Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “Deddf 1967” (“the 1967 Act”) yw Deddf Diwygio Cyfraith Prydlesi 1967(2);

ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Landlord a Thenant 1985(3);

ystyr “Deddf 1987” (“the 1987 Act”) yw Deddf Landlord a Thenant 1987(4));

ystyr “Deddf 1993” (“the 1993 Act”) yw Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993(5);

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Tai 1996(6));

ystyr “TPL” (“LVT”) yw tribiwnlys prisio lesddaliadau;

mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 ac Atodlenni iddi; ac

mae unrhyw gyfeiriad at ddiddymiad yn gyfeiriad at ddiddymiad a wneir gan adran 180 ac Atodlen 14.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 30 Mawrth 2004

2.  Daw darpariaethau canlynol i rym ar 30 Mawrth 2004 —

(a)adrannau 71 i 73, 75 i 77, 79, 81 i 83 , 85 i 91, 93 i 103, 105 i 109, 111 i 113, 159, 163, 173, Atodlenni 6 a 7;

(b)adrannau 74, 78, 80, 84, 92, 110, 174 ac Atodlen 12 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym; ac

(c)yn ddarostyngedig i'r arbedion yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn —

(i)adrannau 148, 149, 150, 155, 157 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 8 i 13 o Atodlen 10, 158, 175, 176 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 1 i 15 o Atodlen 13, Atodlen 9, paragraffau 8 i 13 o Atodlen 10, Atodlen 11 a pharagraffau 1 i 15 o Atodlen 13;

(ii)is-adrannau (1) i (5) o adran 172 ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â chymhwyso i'r Goron adrannau 152 i 154, 164 i 171, paragraffau 1 i 7 o Atodlen 10 a pharagraff 16 o Atodlen 13;

(iii)is-adran (6) o adran 172 ac eithrio i'r graddau y mae'r amnewidiadau a wnaed gan yr is-adran honno'n ymwneud ag adrannau 42A a 42B o Ddeddf 1987;

(iv)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 180 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Atodlen 14 a nodir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn;

(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (i) i (vi), adran 151 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym —

(i)mewn perthynas ag unrhyw achos y mae is-baragraff (ii), (iii), (iv) neu (vi) yn gymwys iddo, ni fydd unrhyw effaith i'r diwygiad a wnaed gan adran 151 a bydd Gorchymyn Taliadau Gwasanaeth (Amcangyfrifon ac Ymgynghori) 1988(7) yn parhau'n gymwys;

(ii)mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle mae'r gwaith sydd yn gymwys wedi dechrau cyn 31 Mawrth 2004;

(iii)mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle mae'r landlord wedi rhoi neu arddangos yr hysbysiad angenrheidiol o dan adran 20 o Deddf 1985, mewn perthynas â gwaith sydd yn gymwys, cyn 31 Mawrth 2004;

(iv)mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle, mewn perthynas â gwaith sydd yn gymwys y mae is-baragraff (v) yn gymwys iddo, mae'r landlord wedi rhoi hysbysiad yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd yn unol â Rheoliadau Contractau Gweithfeydd Cyhoeddus 1991(8), Rheoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 1993(9) neu Reoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 1995(10) cyn 31 Mawrth 2004;

(v)mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i waith sydd yn gymwys a wneir o dan gontract —

(a)y bwriedir ei wneud ar neu ar ôl 31 Mawrth 2004; ac

(b)sydd am gyfnod o ddeuddeg mis neu'n llai;

(vi)mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle, o dan gytundeb a wneir gan neu ar ran landlord neu uwch landlord, cyn 31 Mawrth 2004, mae gwaith sydd yn gymwys yn cael ei wneud ar unrhyw amser yn y cyfnod yn dechrau ar y dyddiad hwnnw ac yn dod i ben ddau fis ar ôl y dyddiad hwnnw.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11))

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Mawrth 2004

Erthygl 2(c)(iv)

ATODLEN 1DIDDYMIADAU

RHAN 1TRIBIWNLYSOEDD PRISIO PRYDLESI

Teitl byr a phennodHyd a lled y diddymiad
Deddf Diwygio Cyfraith Prydlesi 1967 (p. 88)Adran 21(1A) a (3) i (4A).
Deddf Tai 1980 (p. 51)

Yn adran 142—

  • is-adran (2), ac

  • yn is-adran (3), y geiriau o'r dechrau i “and”.

Yn Atodlen 22—

  • Rhan 1, ac yn Rhan 2, paragraff 8(4) i (6).

Deddf Landlord a Thenant, 1985 (p. 70)

Adrannau 31A i 31C.

Yn yr Atodlen, paragraff 8(5).

Deddf Landlord a Thenant 1987 (p.31)

Adran 23(2).

Adrannau 24A a 24B.

Yn adran 38, yn y nodyn ochr, y geiriau “by the court”.

Adran 52A

Yn adran 53(2), y geiriau “under section 52A(3) or”.

Deddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992 (p. 53)Yn Atodlen 3, paragraff 13.
Deddf Diwygio Cyfraith Prydlesi, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28)

Adran 75(4) a (5)

Yn adran 88—

  • yn is-adran (2)(b), y geiriau “constituted for the purposes of that Part of that Act”, a

  • is-adrannau (3) i (5) a (7).

Deddf Diwygio Cyfraith Prydlesi, Tai a Datblygu Trefol 1993

Yn adran 91—

  • yn is-adran (1), y geiriau o'r dechrau i “this section; and”,

  • is-adrannau (3) i (8),

  • is-adran (10), ac

  • yn is-adran (11), y geiriau o “and the reference” i'r diwedd.

Yn adran 94, yn is-adran (10), y geiriau o “and references in this subsection” i'r diwedd.

Yn adran 101(1), y diffiniad o “rent assessment committee”.

Deddf Tai 1996 (p. 52)

Adran 83(3).

Adran 86(4) a (5).

Adran 119.

Yn Atodlen 6, yn Rhan 4, paragraffau 7 ac 8.

RHAN 2DIDDYMIADAU ERAILL

Teitl byr a phennodHyd a lled y diddymiad
Deddf Landlord a Thenant 1985 (p. 70)

Adran 19(2A) i (3).

Yn adran 39, y cofnod sy'n cyfeirio at yr ymadrodd “flat”.

Yn yr Atodlen—

  • yn y pennawd cyn paragraff 2, y geiriau “Request for”,

  • yn y pennawd cyn paragraff 4, y geiriau “Request relating to”,

  • yn y pennawd cyn paragraff 5, y geiriau “on request”.

Deddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31)

Yn adran 29(2)(a), y geiriau “repair, maintenance, insurance or”.

Adran 56(2).

Yn Atodlen 2, paragraffau 3 a 7

Deddf Tai 1996 (p.52)

Adran 83(1).

Yn Atodlen 9, paragraff 2(3) a (7).

Erthygl 2(c)

ATODLEN 2ARBEDION

Landlordiad absennol — tai lesddaliad

1.  Ni chaiff y diwygiadau a wnaed gan adrannau 148 a 149 effaith mewn perthynas â chais am ryddfreinio a wneir o dan adran 27 o Ddeddf 1967 cyn 31 Mawrth 2004.

Diffiniad o daliadau gwasanaethau

2.  Ni fydd y diwygiad a wnaed gan baragraff 7 o Atodlen 9 yn gymwys i gostau a dynnir cyn 31 Mawrth 2004 mewn cysylltiad â materion y codir tâl gwasanaethau ar eu cyfer.

Ystyr “management” yn adran 24 o Ddeddf 1987

3.  Ni fydd y diwygiad a wnaed gan baragraff 8 o Atodlen 9 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 24 o Ddeddf 1987 cyn 31 Mawrth 2004.

Yr hawl i gaffael buddiant y landlord

4.  Ni fydd y diwygiad a wnaed gan baragraff 9 o Atodlen 9 a'r diddymiad yn adran 29 o Ddeddf 1987 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 29 o'r Ddeddf honno cyn 31 Mawrth 2004.

Hawl tenant i gael archwiliad rheoli

5.  Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan baragraff 10 o Atodlen 9 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 80 o Ddeddf 1993 cyn 31 Mawrth 2004.

Rhwymedigaeth i dalu taliadau gwasanaethau

6.  Ni fydd effaith i'r diwygiad a wnaed gan adran 155 a diddymiadau adran 19(2A) i (3) o Deddf 1985 ac o adran 83(1) o Ddeddf 1996 mewn perthynas ag —

(a)unrhyw gais a wneir i TPL o dan adran 19(2A) neu (2B) o Deddf 1985; neu

(b)unrhyw achos sy'n ymwneud â thaliad gwasanaethau a drosglwyddir i TPL gan lys sirol,

cyn 31 Mawrth 2004.

Yswiriant

7.  Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan baragraffau 8 i 13 o Atodlen 10 a'r diddymiadau canlyniadol yn yr Atodlen i Deddf 1985 yn gymwys i gais a wneir o dan yr Atodlen honno cyn 31 Mawrth 2004.

Taliadau gweinyddol: rhesymoldeb, galwadau ac atebolrwydd i dalu

8.  Ni fydd paragraffau 2 i 5 o Atodlen 11 yn gymwys i dâl gweinyddol a oedd yn daladwy cyn 31 Mawrth 2004.

Taliadau gweinyddol: penodi rheolwr

9.  Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan baragraff 8 o Atodlen 11 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 24 o Ddeddf 1987 cyn 31 Mawrth 2004.

Taliadau o dan gynlluniau rheoli ystadau

10.  Ni fydd Adran 159 yn gymwys i daliad o dan gynllun rheoli ystad a oedd yn daladwy cyn 31 Mawrth 2004.

Amrywio prydlesi: trosglwyddo awdurdodaeth

11.  Ni chaiff y diwygiadau a wnaed gan adran 163 effaith mewn perthynas â chais a wneir i'r llys o dan Ran 4 o Ddeddf 1897 cyn 31 Mawrth 2004.

Tir y Goron: amrywio prydlesi

12.  Ni fydd amrywiad unrhyw denantiaeth a wneir gan orchymyn neu yn unol â gorchymyn a wnaed cyn 31 Mawrth 2004 o dan adran 38 o Ddeddf 1987 yn cael ei drin fel un sy'n rhwymo'r Goron, fel rhagflaenydd yn y teitl o dan y denantiaeth, yn rhinwedd adran 39(1) o'r Ddeddf honno.

Tribiwnlysoedd prisio prydlesi

13.  Ni fydd effaith i Adran 175, y diwygiadau a wnaed gan adran 176 ac Atodlen 13 a'r diddymiadau yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn mewn perthynas ag —

(a)unrhyw gais a wneir i TPL; neu

(b)unrhyw achosion a drosglwyddir i TPL gan gyngor sir,

cyn 31 Mawrth 2004.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi grym i ddapariaethau amrywiol Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (“Deddf 2002”) mewn perthynas â Chymru.

Yn ddarostyngedig i'r arbedion yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn, daw'r darpariaethau a grybwyllir yn erthygl 2(a) i (c) i rym ar 30 Mawrth 2004. Maent yn cynnwys:

(a)hawl newydd i lesddeiliaid hir fflatiau gyd-reoli eu hadeilad yn ddarostyngedig i gydymffurfio â rhai rheolau cymhwyso (adrannau 71 i 113);

(b)newidiadau i'r diffiniad o daliadau gwasanaethau a'r hawl i herio'r taliadau hynny (adrannau 150 a 155);

(c)newidiadau i'r darpariaethau sy'n ymnweud â cheisiadau am wybodaeth yswiriant gan y landlord (adran 157);

(ch)yr hawl i herio taliadau eraill o dan brydlesi a thaliadau mewn perthynas â chynlluniau rheoli ystadau (adrannau 158 a 159);

(d)cymhwyso darpariaethau amrywiol landlord a thenant i dir y Goron (adran 172);

(dd)ymestyn awdurdodaeth tribiwnlysoedd prisio prydlesi a chydgrynhoi'r darpariaethau sy'n ymwneud â'u gweithdrefn (adrannau 163 a 173 i 176); ac

(e)diwygiadau a diddymiadau canlyniadol a wnaed gan Ddeddf 2002 mewn Deddfau eraill.

Yn ddarostyngedig i'r arbedion yn erthygl 2(d), daw adran 151 o Ddeddf 2002 i rym hefyd ar 30 Mawrth 2004. Mae'r adran hon yn darparu ar gyfer gofynion ymgynghori newydd mewn perthynas â thaliadau gwasanaethau.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru trwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
a.74 (yn rhannol)1 Ionawr 20032002/3012 (Cy.284)
a.78 (yn rhannol)
a.80 (yn rhannol)
a.84 (yn rhannol)
a.92 (yn rhannol)
a.110 (yn rhannol)
aa.114 i 120
a.122 (yn rhannol)
a.125
a.127 i 147
aa.151 i 153 (yn rhannol)
a.156 (yn rhannol)
a.160 i 162
a.164 (yn rhannol)
a.166 (yn rhannol)
a.167 (yn rhannol)
a.171 (yn rhannol)
a.174 (yn rhannol)
a.180 (yn rhannol)
Atodlen 12 (yn rhannol)
Atodlen 14 (yn rhannol)
(8)

O.S. 1991/2680, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Rheoliadau hyn.

(9)

O.S. 1993/3228, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Gorchymyn hwn.

(10)

O.S. 1995/201, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Gorchymyn hwn.

(11)

1998 p.38.