xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 550 (Cy.54)

PROFFESIYNAU GOFAL IECHYD A PHROFFESIYNAU CYSYLLTIEDIG, CYMRU

Gorchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2004

Wedi'i wneud

2 Mawrth 2004

Yn dod i rym

1 Ebrill 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 5(2) ac 8 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2004 a daw i rym ar 1 Ebrill 2004.

(2Yn Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —

ystyr “cofnodion” (“records”) yw unrhyw ddeunyddiau mewn pa bynnag ffurf neu gyfrwng sy'n cyfleu neu'n gallu cyfleu gwybodaeth ac y mae iddi strwythur wrth gyfeirio —

(a)

at unigolion neu at feini prawf sy'n ymwneud ag unigolion, yn y fath fodd fel bod gwybodaeth benodol sy'n ymwneud ag unigolyn penodol ar gael yn hwylus; neu

(b)

at unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau gan y Cynulliad, yn y fath fodd fel bod gwybodaeth benodol sy'n ymwneud ag eiddo, hawliau neu rwymedigaethau ar gael yn hwylus;

ystyr “cyflogai perthnasol” (“relevant employee”) yw person —

(a)

na therfynodd ei gontract cyflogaeth â'r Cynulliad cyn y dyddiad trosglwyddo (boed drwy i hysbysiad ddod i ben, amser wedi dirwyn i ben neu fel arall): a

(b)

a gafodd gynnig cyflogaeth gyda PIC ac sydd wedi derbyn y gyflogaeth cyn y dyddiad trosglwyddo;

ystyr “cynnwys” (“contents”) yw unrhyw item neu eiddo o ba ddisgrifiad bynnag —

(a)

sy'n eiddo'r Cynulliad yn union o flaen y dyddiad trosglwyddo; a

(b)

sy'n bresennol yn neu ar y tir a ddisgrifir yn yr Atodlen i hyn ar y dyddiad trosglwyddo;

ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

“ ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“operational date”) yw 1 Ebrill 2004;

ystyr “PIC” (“HPW”) yw Proffesiynau Iechyd Cymru(2);

dehonglir “tir” (“land”) yn unol ag Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978(3), ac eithrio y dehonglir bod unrhyw gyfeiriad at drosglwyddo tir yn rhinwedd y gorchymyn hwn yn cynnwys trosglwyddo unrhyw drwydded o dan gontract i ddefnyddio'r tir.

(3Dehonglir bod unrhyw ddarpariaeth yn y gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn cynnwys cyfeiriad at drosglwyddo unrhyw hawliau a rhwymedigaethau gan y Cynulliad sy'n bodoli mewn perthynas ag eiddo o'r fath yn union o flaen y dyddiad trosglwyddo.

(4Pan drosglwyddir eiddo, hawliau neu rwymedigaethau'r Cynulliad i PIC yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, ymdrinnir ag unrhyw beth a wnaed gan neu mewn perthynas â'r Cynulliad mewn cysylltiad ag eiddo, hawliau a rhwymedigaethau o'r fath fel pe bai wedi ei wneud gan neu mewn perthynas â PIC.

Trosglwyddo tir o'r Cynulliad i PIC

2.  Gydag effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen trosglwyddir y tir a ddisgrifir yn yr Atodlen i hyn o'r Cynulliad i PIC.

Trosglwyddo cynnwys etc o'r Cynulliad i PIC

3.  Gydag effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen trosglwyddir y cynnwys a bennir yn yr Atodlen i hyn, a phob eiddo, hawliau a rhwymedigaethau eraill a'r cofnodion sy'n berthnasol iddynt y mae gan y Cynulliad hawl iddynt neu y mae'n ddarostyngedig iddynt, wrth i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, o ran arfer swyddogaethau cyn y dyddiad hwnnw a freiniwyd yn PIC yn rhinwedd Gorchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Sefydlu, Aelodaeth, Cyfansoddiad a Swyddogaethau) 2004(4) o'r Cynulliad i PIC.

Trosglwyddo cyflogeion perthnasol i PIC

4.—(1Gydag effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, ymdrinnir â chontract cyflogaeth rhwng cyflogai perthnasol a'r Cynulliad fel pe bai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y cyflogai perthnasol a PIC.

(2Gydag effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, rhaid trosglwyddo cofnodion sy'n ymwneud â chyflogeion perthnasol o'r Cynulliad i PIC.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

2 Mawrth 2004

Erthyglau 2 a 3

YR ATODLENY tir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo

Tir ac adeiladau ar ail lawr Golate House Heol Eglwys Fair Caerdydd a gynhywsir mewn prydles ddyddiedig 9 Hydref 1997 ac a wnaed rhwng Dovey Estates Ltd (1) a Bwrdd Cenedlaethol Cymru dros Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru (2).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Sefydlir Proffesiynau Iechyd Cymru (“PIC”) gan Orchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Sefydlu, Aelodaeth, Cyfansoddiad a Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/551 (Cy.55)) at ddibenion ymgymryd â swyddogaethau ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r proffesiynau gofal iechyd a gweithwyr cymorth gofal iechyd.

O dan adran 5 (2) o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion galluogi neu gynorthwyo PIC i gyflawni swyddogaethau ar ran y Cynulliad, drwy orchymyn, drosglwyddo i PIC eiddo, hawliau a rhwymedigaethau a phersonau a gyflogir mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'r swyddogaethau hynny.

Mae'r gorchymyn hwn yn trosglwyddo'r tir a'r cynnwys sydd gan y Cynulliad ac a bennir yn yr Atodlen i PIC (erthyglau 2 a 3) a hefyd yn trosglwyddo staff penodol a gyflogir gan y Cynulliad i PIC (erthygl 4).

(2)

Sefydlwyd Proffesiynau Iechyd Cymru gan Orchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Sefydlu, Aelodaeth, Cyfansoddiad a Swyddogaethau) 2004 O.S. 2004/551 (Cy.55).