Search Legislation

Rheoliadau Gwrychoedd neu Berthi Uchel (Apelau) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwrychoedd neu Berthi Uchel (Apelau) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i apelau a wneir i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 71 o'r Ddeddf mewn perthynas â gwrychoedd neu berthi sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “apêl” (“appeal”) yw apêl o dan adran 71 o'r Ddeddf;

ystyr “dyddiad cychwyn” (“starting date”) mewn perthynas ag apêl, yw'r dyddiad y rhoddir hysbysiad ohono gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 10;

ystyr “ffurflen apêl” (“appeal form”) yw dogfen ar ffurf yr un a gyflenwir gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion rheithdrefn o dan y Rheoliadau hyn neu ddogfen sy'n cynnwys yr holl wybodaeth y mae'r ffurflen honno'n ei gwneud yn ofynnol;

ystyr “holiadur” (“questionnaire”) yw dogfen ar ffurf yr un a gyflenwir gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion rheithdrefn o dan y Rheoliadau hyn neu ddogfen sy'n cynnwys yr holl wybodaeth y mae'r ffurflen honno'n ei gwneud yn ofynnol;

ystyr “y partïon” (“the parties”) yw—

(a)

yr apelydd;

(b)

yr awdurdod perthnasol;

(c)

pob person arall sy'n achwynydd mewn perthynas â'r gŵyn y rhoddwyd hysbysiad adfer mewn cysylltiad â hi; ac

(ch)

pob perchennog neu feddiannydd y tir y mae'r gwrych neu'r berth uchel wedi'u lleoli arno;

ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw person a benodwyd o dan adran 72(3) o'r Ddeddf; ac

ystyr “terfynau amser perthnasol” (“relevant time limits”) yw'r terfynau amser a ragnodir yn y Rheoliadau hyn neu, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi arfer ei bŵer o dan reoliad 22, unrhyw derfyn amser diweddarach sydd wedi'i benderfynu o dan y rheoliad hwnnw.

Seiliau dros apelio yn erbyn dyroddi hysbysiadau adfer

3.—(1Gellir gwneud apêl o dan adran 71(1)(a) o'r Ddeddf yn erbyn dyroddi hysbysiad adfer gan yr awdurdod perthnasol ar y sail—

(a)nad yw uchder y gwrych neu'r berth uchel a bennir yn yr hysbysiad adfer yn effeithio'n andwyol ar y mwynhad rhesymol a gaiff yr achwynydd o'r eiddo domestig a bennir felly;

(b)na ddylid cymryd unrhyw gamau mewn perthynas â'r gwrych neu'r berth uchel a bennir yn yr hysbysiad adfer i wneud iawn am yr effaith andwyol ar y mwynhad rhesymol a gaiff yr achwynydd o'r eiddo domestig a bennir felly neu i atal ailadrodd yr effaith andwyol honno;

(c)bod y camau a bennir yn yr hysbysiad adfer yn fwy na'r hyn sydd ei angen i wneud iawn am effaith andwyol y gwrych neu'r berth uchel neu i atal ailadrodd yr effaith andwyol honno; neu

(ch)bod y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad adfer ar gyfer cymryd y camau a bennir felly yn llai na'r cyfnod y dylid yn rhesymol ei ganiatáu.

(2Gellir gwneud apêl o dan adran 71(1)(a) o'r Ddeddf gan achwynydd mewn perthynas â hysbysiad adfer a ddyroddwyd gan yr awdurdod perthnasol ar y sail bod y camau a bennir yn yr hysbysiad adfer yn annigonol i wneud iawn am effaith andwyol y gwrych neu'r berth uchel ar y mwynhad rhesymol a gaiff yr achwynydd o'r eiddo domestig a bennir felly neu i atal ailadrodd yr effaith andwyol.

Seiliau dros apelio yn erbyn tynnu'n ôl, hepgor neu lacio hysbysiad adfer

4.—(1Cyhyd ag y bodlonir yr amodau a bennir ym mharagraff (2), gellir gwneud apêl o dan adran 71(1)(b) neu (c) o'r Ddeddf yn erbyn tynnu'n ôl hysbysiad adfer, neu hepgor neu lacio ei ofynion, a hynny ar unrhyw un o'r seiliau a bennir ym mharagraff (3).

(2Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)nad yw'r awdurdod perthnasol wedi dyroddi hysbysiad adfer arall mewn perthynas â'r un gwrych neu berth uchel; a

(b)na chydsyniodd y person sy'n dymuno apelio â thynnu'n ôl yr hysbysiad adfer neu (yn ôl y digwydd) â hepgor neu lacio gofynion yr hysbysiad hwnnw.

(3Dyma'r seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) —

(a)na fu unrhyw newid sylweddol mewn amgylchiadau ers gwneud y gŵyn, y dyroddwyd yr hysbysiad adfer mewn cysylltiad â hi, sef newid a fyddai'n cyfiawnhau tynnu'n ôl yr hysbysiad adfer neu (yn ôl y digwydd) hepgor neu lacio ei ofynion;

(b)bod gofynion yr hysbysiad adfer, fel y maent wedi'u hepgor neu wedi'u llacio, yn annigonol i wneud iawn am effaith andwyol y gwrych neu'r berth uchel ar y mwynhad rhesymol a gaiff yr achwynydd o'r eiddo domestig a bennir yn yr hysbysiad adfer neu i atal ailadrodd yr effaith andwyol honno; neu

(c)yn achos apêl gan berchennog neu feddiannydd y tir cyfagos, bod gofynion yr hysbysiad adfer, fel y maent wedi'u hepgor neu wedi'u llacio, yn fwy na'r hyn sy'n angenrheidiol i wneud iawn am effaith andwyol y gwrych neu'r berth uchel ar y mwynhad rhesymol a gaiff yr achwynydd o'r eiddo domestig a bennir yn yr hysbysiad neu i atal ailadrodd yr effaith andwyol honno.

Seiliau dros apelio pan fo'r awdurdod perthnasol yn penderfynu na ddylai cwyn fynd yn ei blaen

5.  Gall apêl gan achwynydd o dan adran 71(3) o'r Ddeddf (pan na fydd yr awdurdod perthnasol yn penderfynu'r naill neu'r llall o'r materion a bennir yn adran 68(3) o'r Ddeddf, neu'r ddau ohonynt, o blaid yr achwynydd) gael ei gwneud ar y sail bod uchder y gwrych neu'r berth uchel a bennir yn y gŵyn yn effeithio'n andwyol ar y mwynhad rhesymol a gaiff yr achwynydd o'r eiddo domestig a bennir felly ac y dylid cymryd camau gyda'r bwriad o wneud iawn am effaith andwyol y gwrych neu'r berth uchel a bennir yn y gwyn ar y mwynhad rhesymol a gaiff yr achwynydd o'r eiddo domestig a bennir felly neu o atal ailadrodd yr effaith honno.

Penderfynu ar apelau gan y Cynulliad Cenedlaethol

6.—(1Wrth ystyried apêl, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu unrhyw berson a benodir ganddo o dan adran 72(3) o'r Ddeddf i wrando'r apêl a'i phenderfynu ar ei ran, hawl i ystyried unrhyw dystiolaeth neu unrhyw fater arall ni waeth a oedd y dystiolaeth honno neu'r mater arall hwnnw heb eu hystyried gan yr awdurdod perthnasol neu nad oedd modd iddo eu hystyried pan ddaeth i'r penderfyniad y mae'r apêl yn berthnasol iddo.

(2Rhaid i'r person sy'n gwneud yr apêl gadarnhau sail neu seiliau'r apêl ac, os yw'r person hwnnw yn methu gwneud hynny, rhaid i'r apêl gael ei gwrthod.

Penodi person penodedig a dirymu ei benodiad

7.—(1Rhaid i benodiad o dan adran 72(3) o'r Ddeddf fod yn ysgrifenedig a chaniateir iddo—

(a)ymwneud ag unrhyw apêl neu fater penodol a bennir yn y penodiad neu ag apelau neu faterion o ddisgrifiad a bennir felly;

(b)darparu bod unrhyw swyddogaeth y mae'n ymwneud â hi yn arferadwy gan y person penodedig naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig i gyflawni unrhyw amodau a bennir yn y penodiad; ac

(c)cael ei ddirymu ar unrhyw adeg gan yr awdurdod apelau, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person penodedig, mewn perthynas ag unrhyw apêl neu fater nad ydynt wedi'u penderfynu gan y person penodedig cyn yr amser hwnnw.

(2Mae gan berson penodedig, mewn perthynas ag unrhyw apêl neu fater y mae'r penodiad yn ymwneud â hwy, yr un pwerau a dyletswyddau â'r awdurdod apelau, ac eithrio unrhyw swyddogaeth o ran—

(a)gwneud rheoliadau;

(b)cynnal gwrandawiad; neu

(c)penodi person er mwyn—

(i)galluogi personau i fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir gan y person a benodir felly a chymryd rhan ynddo, neu

(ii)cyfeirio unrhyw gwestiwn neu fater at y person hwnnw.

(3Pan fo'r awdurdod apelau, o dan baragraff (1)(c), yn dirymu penodiad mewn perthynas ag unrhyw apêl neu fater, rhaid i'r awdurdod apelau, onid yw'n bwriadu penderfynu'r apêl neu'r mater ei hun, benodi person arall i benderfynu'r apêl neu'r mater yn ei le.

(4Pan gaiff penodiad newydd ei wneud, rhaid i'r broses o ystyried yr apêl neu'r mater, neu unrhyw wrandawiad mewn cysylltiad â'r penodiad, gael ei dechrau o'r newydd; ond, os dyna'r sefyllfa, nid oes hawl gan neb i wneud sylwadau newydd neu i addasu neu dynnu'n ôl unrhyw sylwadau a wnaed eisoes.

(5Rhaid i unrhyw beth sydd wedi'i wneud neu sydd heb ei wneud gan berson penodedig wrth iddo arfer, neu honni arfer, unrhyw swyddogaeth y mae'r penodiad yn ymwneud â hi neu mewn cysylltiad ag arfer neu honni arfer y swyddogaeth honno, gael ei drin i bob pwrpas fel rhywbeth sydd wedi'i wneud neu heb ei wneud gan yr awdurdod apelau, ac eithrio i'r graddau y mae'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw yn ymwneud—

(a)â chymaint o unrhyw gontract a wnaed rhwng yr awdurdod apelau a'r person penodedig ag sy'n ymwneud ag arfer y swyddogaeth; neu

(b)ag unrhyw achos troseddol sydd wedi'i ddwyn mewn perthynas ag unrhyw beth a gafodd ei wneud neu na chafodd ei wneud fel a grybwyllir yn y paragraff hwn.

Hysbysiad o Apêl

8.—(1Rhaid i berson sy'n dymuno apelio roi hysbysiad o'r apêl honno i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, fel y daw i law o fewn y cyfnod a bennir yn adran 71(4) o'r Ddeddf, y ffurflen apêl ynghyd â chopi o unrhyw ddogfennau ategol.

(2Rhaid i'r apelydd, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl hynny, anfon at yr awdurdod perthnasol gopi o'r ffurflen apêl ac unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

Gwybodaeth Gychwynnol

9.  Rhaid i'r awdurdod perthnasol, pan gaiff hysbysiad o apêl o dan reoliad 8, roi gwybod ar unwaith i'r Cynulliad Cenedlaethol a'r apelydd—

(a)beth yw enw a chyfeiriad pob person, ar wahân i'r apelydd, sy'n bartïon i'r apêl; a

(b)a yw'n dymuno bod yr apêl yn cael ei phenderfynu drwy gyfnewid sylwadau ysgrifenedig neu ar ôl cynnal gwrandawiad.

Dyddiad Cychwyn

10.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol —

(a)ar ôl iddo gael yr hysbysiad o apêl a roddwyd yn unol â rheoliad 8 a'r wybodaeth gychwynnol o dan reoliad 9, hysbysu'r partïon—

(i)o'r Rhif cyfeirnod a ddyrannwyd i'r apêl,

(ii)a yw'r apêl i gael ei phenderfynu drwy gyfnewid sylwadau ysgrifenedig neu, pan fo naill ai'r apelydd neu'r awdurdod perthnasol (neu'r ddau) wedi gofyn am hynny, ar ôl cynnal gwrandawiad, a

(iii)o'r cyfeiriad y mae gohebiaeth ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch yr apêl i'w hanfon iddo; a

(b)ar ôl iddo gael digon o wybodaeth i'w alluogi i ystyried yr apêl, hysbysu'r partïon o'r dyddiad cychwyn.

Hysbysiad i bersonau â buddiant

11.—(1Rhaid i'r awdurdod perthnasol roi hysbysiad o'r apêl o fewn 2 wythnos i'r dyddiad cychwyn i unrhyw bersonau, ac eithrio'r partïon, sydd wedi gwneud sylwadau i'r awdurdod perthnasol ynghylch y penderfyniad y mae'r apêl yn ymwneud ag ef.

(2Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1)—

(a)nodi enw'r apelydd a chyfeiriad y tir lle y mae'r gwrych neu'r berth uchel y mae'r apêl yn ymwneud â hwy wedi'u lleoli;

(b)nodi'r materion yr hysbyswyd y partïon ohonynt gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 10;

(c)disgrifio natur yr apêl a'r seiliau dros wneud yr apêl;

(ch)datgan y bydd copïau o unrhyw sylwadau sydd wedi'u gwneud gan unrhyw berson y crybwyllir ei enw ym mharagraff (1) o'r rheoliad hwn yn cael eu hanfon i'r Cynulliad Cenedlaethol ac at bob un o'r partïon;

(d)datgan y caniateir anfon sylwadau ysgrifenedig ychwanegol i'r Cynulliad Cenedlaethol fel y byddant yn dod i law o fewn 6 wythnos i'r dyddiad cychwyn, a phan fo sylwadau o'r fath yn cael eu hanfon, ei bod yn ofynnol anfon tri chopi ohonynt;

(dd)datgan y bydd unrhyw sylwadau o'r fath yn cael eu hystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd yn penderfynu ar yr apêl oni fydd unrhyw berson yn eu tynnu'n ôl o fewn 6 wythnos i'r dyddiad cychwyn; ac

(e)datgan y weithdrefn sydd i'w defnyddio i benderfynu ar yr apêl.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo eu cael, anfon copi o unrhyw sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd o dan baragraff (2)(d) at bob un o'r partïon.

Holiadur

12.—(1Rhaid i'r awdurdod perthnasol anfon y canlynol i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac anfon copi ohonynt at bob un o'r partïon eraill, fel y byddant yn dod i law yn y naill achos a'r llall o fewn 2 wythnos i'r dyddiad cychwyn —

(a)holiadur wedi'i gwblhau; a

(b)copi o bob un o'r dogfennau y cyfeirir atynt ynddo.

(2Rhaid i'r holiadur ddatgan y dyddiad y cafodd ei anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Cyfnewid tystiolaeth

13.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fydd apêl i fod i gael ei phenderfynu drwy sylwadau ysgrifenedig neu ar ôl cynnal gwrandawiad ac, yn ychwanegol, pan fydd apêl i fod i gael ei phenderfynu—

(a)drwy sylwadau ysgrifenedig, mae rheoliadau 14 a 19 i 22 yn gymwys;

(b)ar ôl cynnal gwrandawiad, mae rheoliadau 15 i 22 yn gymwys.

(2Os bydd unrhyw un o'r partïon yn dymuno cyflwyno unrhyw sylwadau yn ychwanegol at—

(a)yr hysbysiad o apêl ac unrhyw ddogfennau sy'n ategol iddo; neu

(b)yr holiadur ac unrhyw ddogfennau a gyflwynir gydag ef,

rhaid i'r parti hwnnw anfon tri chopi o'r sylwadau ychwanegol hynny i'r Cynulliad Cenedlaethol fel y byddant yn dod i law o fewn 6 wythnos i'r dyddiad cychwyn a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddynt ddod i law, anfon copi o unrhyw sylwadau ychwanegol at bob un o'r partïon eraill.

(3Os bydd unrhyw barti yn dymuno gwneud sylwadau ar unrhyw sylwadau gan unrhyw barti arall, neu ar unrhyw sylwadau a wnaed yn unol â rheoliad 11(2)(d), rhaid i'r parti hwnnw anfon tri chopi o'r rhain i'r Cynulliad Cenedlaethol, fel y byddant yn dod i law o fewn 9 wythnos i'r dyddiad cychwyn.

(4Caiff y Cynulliad Cenedlaethol anwybyddu unrhyw wybodaeth ychwanegol gan unrhyw un o'r partïon nad yw wedi'i chael o fewn 9 wythnos i'r dyddiad cychwyn oni wnaeth y Cynulliad Cenedlaethol ofyn am yr wybodaeth ychwanegol honno a bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cael yr wybodaeth honno y gofynnodd amdani o fewn y cyfnod a bennodd yn ysgrifenedig pan wnaeth y cais.

Apelau a benderfynir drwy gyfnewid sylwadau ysgrifenedig

14.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl diwedd unrhyw derfynau amser erbyn pryd y mae'n ofynnol neu y caniateir i unrhyw gam gael ei gymryd yn unol â'r Rheoliadau hyn, ac ar ôl rhoi i'r apelydd a'r awdurdod perthnasol hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny, fynd rhagddo i benderfynu ar yr apêl drwy gymryd i ystyriaeth ddim ond y sylwadau a'r dogfennau eraill hynny a gyflwynwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn y terfynau amser perthnasol.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol fynd rhagddo i benderfynu ar apêl, drwy gymryd i ystyriaeth ddim ond y sylwadau ysgrifenedig hynny a gafwyd o fewn y terfynau amser perthnasol.

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl hysbysu'r partïon o'i fwriad i wneud hynny, fynd rhagddo i benderfynu ar apêl, er nad oes unrhyw sylwadau ysgrifenedig wedi'u gwneud o fewn y terfynau amser perthnasol, os ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol fod ganddo ddigon o ddeunydd ger ei fron i'w alluogi i ddod i benderfyniad ar rinweddau'r achos.

Apelau a benderfynir ar ôl cynnal gwrandawiad

15.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud y canlynol—

(a)cyn gynted ag y bo'n ymarferol, hysbysu'r awdurdod perthnasol yn ysgrifenedig fod rhaid i'r awdurdod perthnasol hysbysu'r partïon, ac unrhyw berson arall y mae wedi'i hysbysu yn unol â rheoliad 11, o enw'r person penodedig a fydd yn cynnal y gwrandawiad;

(b)cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ar ôl unrhyw newid o ran pwy yw'r person penodedig, hysbysu'r awdurdod perthnasol yn ysgrifenedig fod rhaid i'r awdurdod perthnasol hysbysu'r personau hynny y mae ganddynt hawl i gael eu hysbysu yn unol ag is-baragraff (a) o'r newid hwnnw, ac eithrio os nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny cyn bod y gwrandawiad yn cael ei gynnal, ac os nad ydyw, rhaid cyhoeddi enw'r person penodedig a'r ffaith ei fod wedi'i benodi ar ddechrau'r gwrandawiad; ac

(c)oni chytunir ar gyfnod hysbysu llai gyda'r partïon, sicrhau bod yr awdurdod perthnasol yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig nad yw'n llai na 4 wythnos i'r personau a hysbysir yn unol ag is-baragraff (a) o'r dyddiad, yr amser a'r lle a drefnwyd ar gyfer y gwrandawiad.

(2Rhaid i bob hysbysiad o wrandawiad a roddir yn unol â pharagraff (1)(c) gynnwys—

(a)datganiad o ddyddiad, amser a lle'r gwrandawiad ac o'r pwerau sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i benderfynu'r apêl o dan sylw;

(b)disgrifiad ysgrifenedig o'r tir sy'n ddigonol i ddynodi ei leoliad a'i hyd a'i led;

(c)disgrifiad byr o bwnc yr apêl; ac

(ch)manylion ynghylch ble a phryd y gellir archwilio copïau o'r dogfennau sy'n berthnasol i'r apêl.

(3Er gwaethaf paragraff (1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'r dyddiad a bennwyd ar gyfer cynnal y gwrandawiad, p'un a yw'r dyddiad fel y'i hamrywiwyd o fewn y cyfnod sydd fel arall yn ofynnol gan y paragraff hwnnw neu beidio; ac mae paragraff (1)(c) yn gymwys i amrywiad ar ddyddiad fel yr oedd yn gymwys i'r dyddiad a bennwyd yn wreiddiol.

(4Caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'r amser neu'r lle a bennwyd ar gyfer cynnal y gwrandawiad a rhaid iddo roi'r rhybudd sy'n ymddangos yn rhesymol iddo am unrhyw amrywiad.

Hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiad a chymryd rhan ynddo

16.  Mae gan y partïon hawl i fod yn bresennol a chymryd rhan mewn gwrandawiad, a gall y person penodedig ganiatáu i unrhyw bersonau eraill wneud hynny (naill ai ar eu rhan eu hunain neu ar ran unrhyw berson arall).

Y weithdrefn mewn gwrandawiad

17.—(1Oni ddarperir fel arall yn y Rheoliadau hyn, caiff y person penodedig benderfynu'r weithdrefn mewn gwrandawiad.

(2Mae gwrandawiad i fod ar ffurf trafodaeth sy'n cael ei llywio gan y person penodedig ac ni ddylid caniatáu croesholi onid yw'r person penodedig yn credu ei fod yn angenrheidiol i sicrhau archwiliad priodol o'r pynciau sy'n berthnasol i'r apêl.

(3Ar ddechrau'r gwrandawiad, rhaid i'r person penodedig nodi'r pynciau y mae'n ymddangos i'r person penodedig mai hwy yw'r prif bynciau i'w hystyried yn y gwrandawiad ac unrhyw faterion y mae angen i'r person penodedig gael esboniad pellach arnynt gan unrhyw berson a chanddo hawl neu ganiatâd i gymryd rhan.

(4Nid oes dim ym mharagraff (3) i atal unrhyw berson sydd â hawl neu ganiatâd i gymryd rhan yn y gwrandawiad rhag cyfeirio at bynciau y mae'n barnu eu bod yn berthnasol ar gyfer ystyried yr apêl ond nad oeddent yn bynciau a nodwyd gan y person penodedig yn unol â'r paragraff hwnnw.

(5Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau sydd wedi'u cynnwys yn y rheoliad hwn, caiff person sydd â hawl i gymryd rhan mewn gwrandawiad, alw tystiolaeth ond, fel arall, bydd galw tystiolaeth yn dibynnu ar ddisgresiwn y person penodedig.

(6Caiff y person penodedig wrthod caniatáu i dystiolaeth lafar gael ei rhoi neu i unrhyw fater arall y mae'r person penodedig yn barnu ei fod yn amherthnasol neu'n ailadroddus, gael ei gyflwyno ond, os bydd y person penodedig yn gwrthod caniatáu i dystiolaeth lafar gael ei rhoi, caiff y person sy'n dymuno rhoi'r dystiolaeth gyflwyno unrhyw dystiolaeth neu fater arall yn ysgrifenedig i'r person penodedig cyn diwedd y gwrandawiad.

(7Caiff y person penodedig—

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n bresennol mewn gwrandawiad neu sy'n cymryd rhan ynddo ac sydd, ym marn y person penodedig, yn ymddwyn mewn modd aflonyddgar, ymadael; a

(b)gwrthod caniatáu i'r person hwnnw ddychwelyd neu ddim ond caniatáu i'r person hwnnw ddychwelyd o dan yr amodau a bennir gan y person penodedig,

ond caiff unrhyw berson o'r fath gyflwyno unrhyw dystiolaeth neu fater arall yn ysgrifenedig i'r person penodedig cyn diwedd y gwrandawiad.

(8Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson newid datganiad neu ychwanegu ato i'r graddau y bo hynny'n angenrheidiol at ddibenion y gwrandawiad, ond rhaid i'r person penodedig (drwy ohirio'r gwrandawiad os bydd angen) roi cyfle digonol i bob person arall sydd â hawl i gymryd rhan yn y gwrandawiad, ac sydd mewn gwirionedd yn cymryd rhan ynddo, ystyried unrhyw fater newydd neu ddogfen newydd.

(9Caiff y person penodedig fwrw ymlaen â gwrandawiad yn absenoldeb unrhyw berson a chanddo hawl neu ganiatâd i gymryd rhan ynddo.

(10Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw neu dystiolaeth ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen ysgrifenedig arall a ddaeth i law'r person penodedig oddi wrth unrhyw berson cyn dechrau'r gwrandawiad neu yn ystod y gwrandawiad ar yr amod bod y person penodedig yn eu datgelu yn y gwrandawiad.

(11Caiff y person penodedig o dro i dro ohirio gwrandawiad ac, os cyhoeddir dyddiad, amser a lle'r gwrandawiad gohiriedig yn y gwrandawiad cyn y gohiriad, ni fydd yn ofynnol cael unrhyw hysbysiad pellach.

Penderfyniad ar ôl cynnal gwrandawiad

18.—(1Caiff y person penodedig anwybyddu unrhyw sylwadau, tystiolaeth neu ddogfennau ysgrifenedig eraill sy'n dod i law ar ôl diwedd y gwrandawiad.

(2Os bydd y person penodedig, ar ôl diwedd y gwrandawiad, yn bwriadu cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu unrhyw fater newydd o ffaith (nad yw'n fater o bolisi'r Cynulliad Cenedlaethol) na chafodd ei godi yn y gwrandawiad ac y mae'r person penodedig yn credu ei fod yn berthnasol i'r penderfyniad, rhaid i'r person penodedig beidio â gwneud hynny heb yn gyntaf—

(a)hysbysu'r personau sydd â hawl i gymryd rhan yn y gwrandawiad (p'un a gwnaethant hynny neu beidio) o'r mater o dan sylw; a

(b)rhoi cyfle iddynt wneud sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am ailagor y gwrandawiad,

ar yr amod bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cael y sylwadau ysgrifenedig hynny neu'r cais am ailagor y gwrandawiad o fewn 3 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad.

(3Caiff person penodedig beri bod gwrandawiad yn cael ei ailagor a rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo ei wneud gan yr apelydd neu'r atebydd o dan yr amgylchiadau, ac o fewn y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (2); ac os bydd gwrandawiad yn cael ei ailagor—

(a)rhaid i'r person penodedig anfon at y personau sydd â hawl i gymryd rhan yn y gwrandawiad, ac a gymerodd rhan ynddo, ddatganiad ysgrifenedig o'r materion y gwahoddir tystiolaeth bellach amdanynt; a

(b)mae rheoliad 15(1)(c) yn gymwys fel pe bai'r cyfeiriadau at wrandawiad yn gyfeiriadau at wrandawiad a ailagorwyd.

Tynnu apêl yn ôl

19.—(1Caiff yr apelydd dynnu apêl yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael hysbysiad o dynnu apêl yn ôl, hysbysu'r awdurdod perthnasol o'r ffaith honno; a chyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael hysbysiad o'r fath, rhaid i'r awdurdod perthnasol roi gwybod i'r partïon ac unrhyw bersonau eraill a gyflwynodd sylwadau o dan reoliad 11.

Arolygu safleoedd

20.—(1Caiff y person penodedig arolygu'r tir ar unrhyw adeg heb rywun yn gwmni iddo a heb hysbysu'r apelydd na'r atebydd o'i fwriad i wneud hynny.

(2Yn ystod, neu ar ôl diwedd, gwrandawiad—

(a)caiff y person penodedig, ar ôl iddo gyhoeddi yn ystod y gwrandawiad y dyddiad a'r amser y bwriedir gwneud yr arolygiad, arolygu'r tir yng nghwmni'r partïon ac unrhyw berson arall y rhoddwyd caniatâd iddo fod yn bresennol a chymryd rhan yn y gwrandawiad; a

(b)rhaid i'r person penodedig wneud arolygiad o'r fath os gofynnir iddo ei wneud gan y partïon cyn neu yn ystod gwrandawiad.

(3Os yw apêl yn cael ei phenderfynu drwy sylwadau ysgrifenedig—

(a)caiff y person penodedig, ar ôl iddo roi rhybudd rhesymol mewn ysgrifen i'r partïon o'i fwriad i wneud hynny, arolygu'r tir yng nghwmni'r partïon ac unrhyw berson arall y mae'r arolygydd yn credu y byddai'n rhesymol ei wahodd; a

(b)rhaid i'r person penodedig wneud arolygiad o'r fath, os gofynnir iddo ei wneud gan y partïon, cyn iddo wneud penderfyniad.

(4Rhaid i apelydd gymryd y camau sy'n rhesymol o fewn pŵer yr apelydd er mwyn galluogi'r person penodedig i gael mynediad i'r tir sydd i'w arolygu.

(5Nid yw'n ofynnol i'r person penodedig ohirio arolygiad o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff (2) neu (3) os na fydd unrhyw berson a grybwyllir yn y paragraffau hynny yn bresennol ar yr amser penodedig.

Hysbysu o benderfyniad ar apêl

21.—(1Rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol neu, yn ôl y digwydd, o benderfyniad y person penodedig, a'r rhesymau dros y penderfyniad, i'r personau canlynol —

(a)y partïon;

(b)unrhyw berson sydd, ar ôl cymryd rhan yn y gwrandawiad, wedi gofyn am gael ei hysbysu o'r penderfyniad; ac

(c)unrhyw berson arall y rhoddwyd hysbysiad iddo yn unol â rheoliad 11 ac sydd wedi gofyn am gael ei hysbysu o'r penderfyniad.

(2Caiff unrhyw berson a chanddo hawl i gael ei hysbysu o'r penderfyniad o dan baragraff (1) wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ysgrifenedig, am gael cyfle i fwrw golwg dros unrhyw ddogfennau a restrir yn yr hysbysiad a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi'r cyfle hwnnw i'r person hwnnw.

(3Rhaid i unrhyw berson sy'n gwneud cais o dan baragraff (2) sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gael o fewn 6 wythnos i ddyddiad y penderfyniad ar yr apêl.

(4Mae'r penderfyniad yr hysbysir y partïon ohono o dan baragraff (1) yn rhwymo'r partïon.

Caniatáu mwy o amser

22.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu bod terfynau amser sy'n ddiweddarach na'r rhai a ragnodir yn y Rheoliadau i fod yn gymwys a rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o unrhyw benderfyniad o'r fath i bob un o'r partïon.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Rhagfyr 2004

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources