Rheoliadau Bwyd a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004

Rheoliad 2 a 5

YR ATODLENDARPARIAETHAU CYMUNEDOL PENODEDIG

RHAN I

Y Ddarpariaeth yn Rheoliad 1829 /2003Y Pwnc
Erthygl 4.2Gwahardd rhoi bwyd ar y farchnad y cyfeirir ato yn Erthygl 3.1 onid oes awdurdodiad ar ei gyfer a'i fod yn bodloni amodau perthnasol yr awdurdodiad.

RHAN II

Y Ddarpariaeth yn Rheoliad 1829 /2003Y Pwnc
Erthygl 8.6Gofyniad bod cynhyrchion y mae'r Comisiwn wedi mabwysiadu mesur mewn perthynas â hwy o dan Erthygl 8.6 i'w cael eu tynnu oddi ar y farchnad.
Erthygl 9.1Gofyniad bod yn rhaid i ddeiliad awdurdodiad a phartïon sy'n ymwneud â rhoi cynnyrch bwyd ar y farchnad gydymffurfio ag amodau neu gyfyngiadau a roddwyd ar awdurdodiad a chyda gofynion monitro ôl-farchnadol.
Erthygl 9.3Gofyniad bod deiliad awdurdodiad yn hysbysu'r Comisiwn o unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd sy'n ymwneud â chynnyrch, a allai ddylanwadu ar werthuso diogelwch wrth ddefnyddio'r bwyd neu ar unrhyw waharddiad neu gyfyngiad ar y bwyd mewn trydedd wlad.
Erthygl 13Gofyniad am ddangosiadau labelu penodol.