- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn darparu ar gyfer gorfodi a gweithredu rhai darpariaethau penodedig (sy'n ymwneud â bwyd) yn Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig (OJ Rhif L268, 18.10.2003, t.1). Mae Rheoliadau ar wahân yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi'r darpariaethau hynny yn Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid.
Yn benodol mae'r Rheoliadau hyn —
(a)yn dynodi'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ffurfiol fel yr awdurdod cymwys cenedlaethol i dderbyn ceisiadau am awdurdodi'r organeddau newydd a addaswyd yn enetig i'w defnyddio ar gyfer bwyd, bwyd sy'n cynnwys organeddau a addaswyd yn enetig neu sydd wedi'i ffurfio ohonynt, neu fwyd a gynhyrchir o organeddau a addaswyd yn enetig neu sy'n cynwys cynhwysion a gynhyrchir o organeddau a addaswyd yn enetig (rheoliad 3);
(b)yn darparu bod awdurdodau bwyd yn gorfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn a darpariaethau Pennod II o Reoliad (EC) Rhif 1829/2003 (rheoliad 4);
(c)yn pennu cosbau am fethu â chydymffurfio â rhai darpariaethau penodedig yn Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003, unwaith y mae'r Rheoliadau mewn grym (rheoliad 5 a'r Atodlen);
(ch)cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 gyda rhai addasiadau wrth eu cymhwyso at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliadau 6 a 7);
(d)dirymu Rheoliadau Bwydydd a Addaswyd yn Enetig a Bwydydd Newydd (Labelu) (Cymru) 2000 (rheoliad 8);
(dd)gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Bwydydd Newydd a Chynhwysion Bwydydd Newydd 1997 a Rheoliadau Bwyd (Darpariaethau sy'n Ymwneud â Labelu) (Cymru) 2003 (rheoliad 9).
Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi ar gyfer y rheoliadau hyn a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: