2004 Rhif 3220 (Cy.276)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(2), 18(1), (26)(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo2 ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar faterion diogelwch bwyd3 ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

O ran y Rheoliadau hyn —

a

eu henw yw Rheoliadau Bwyd a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004;

b

deuant i rym ar 17 Rhagfyr 2004; ac

c

maent yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn —

  • mae i “awdurdod bwyd” yr un ystyr â “food authority” yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • ystyr “darpariaeth Gymunedol benodedig” (“specified Community provision”) yw darpariaeth yn Rheoliad 1829/2003 a bennir yng Ngholofn 1 ac a ddisgrifir yng Ngholofn 2 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990; ac

  • ystyr “Rheoliad 1829/2003” (“Regulation 1829/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig4.

2

Yn y Rheoliadau hyn —

a

mae unrhyw gyfeiriad at erthygl â Rhif yn gyfeiriad at yr erthygl sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn Rheoliad 1829/2003;

b

mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

c

mae unrhyw gyfeiriad at Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn

3

Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad 1829/2003.

Cyflwyno ceisiadau am awdurdodiad i farchnata cynhyrchion3

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yw'r awdurdod cenedlaethol cymwys at ddibenion Pennod II o Reoliad 1829/20035.

Gorfodi4

Mae pob awdurdod bwyd, o fewn ei ardal, i orfodi a gweithredu darpariaethau'r Rheoliadau hyn a darpariaethau Pennod II o Reoliad 1829/2003.

Tramgwyddau a Chosbau5

1

Mae unrhyw berson sydd yn mynd yn groes i'r ddarpariaeth Gymunedol benodedig y cyfeirir ati yn Rhan I o'r Atodlen neu'n methu â chydymffurfio â hi yn euog o dramgwydd ac yn agored —

a

ar gollfarn ddiannod i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na chwe mis neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; neu

b

ar gollfarn ar dditiad i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd neu ddirwy neu'r ddau.

2

Mae unrhyw berson sydd yn mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig y cyfeirir atynt yn Rhan II o'r Atodlen, neu'n methu â chydymffurfio â hi, yn euog o dramgwydd ac yn agored, ar gollfarn ddiannod, i garchariad nad yw'n fwy na chwe mis neu i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu i'r ddau.

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf6

1

Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn a Rheoliad 1829/2003 fel y maent yn gymwys at ddibenion y Ddeddf —

a

Adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);

b

Adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

c

Adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf honno;

ch

Adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yn ystod busnes);

d

Adran 30(8) (sy'n ymwned â thystiolaeth ddogfennol)

dd

Adran 33(1) (rhwystro, etc swyddogion);

e

Adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd);

f

Adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd);

ff

Adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e);

g

Adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

ng

Adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll); a

h

Adran 50 (cyflwyno dogfennau).

2

Mae adran 34 (terfyn amser i erlyniadau) yn gymwys i dramgwyddau o dan reoliad 5 fel y mae'n gymwys i dramgwyddau y gellir eu cosbi o dan adran 35(2) o'r Ddeddf.

Arolygu, cadw ac atafaelu bwyd sydd o dan amheuaeth7

1

Mae adran 8(3) o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel petai'n darllen fel a ganlyn —

3

Where any food which fails to comply with a specified Community provision within the meaning of the Genetically Modified Food (Wales) Regulations 2004 is part of a batch, lot or consignment of food of the same class or description, it is to be presumed for the purposes of section 9 as applied by those Regulations until the contrary is proved, that all of the food in that batch, lot or consignment fails to comply with that specified Community provision.

2

Mae adran 9 o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel petai'n darllen fel a ganlyn —

9

1

An authorised officer of a food authority may at all reasonable times inspect any food intended for human consumption which —

a

has been placed on the market; or

b

is in possession of, or has been deposited with or consigned to, any person for the purpose of placing it on the market;

and subsections (2) to (9) below apply where it appears to the authorised officer, taking account of all the information available to him, that the placing on the market of any food fails to comply with a specified Community provision.

2

The authorised officer may either —

a

give notice to the person in charge of the food that, until the notice is withdrawn, the food or any specified portion of it —

i

is not to be used for human consumption; and

ii

either is not to be removed or is not to be removed except to some place specified in the notice; or

b

seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace;

and any person who knowingly contravenes the requirements of a notice under paragraph (a) above is guilty of an offence.

3

Where the authorised officer exercises the powers conferred by subsection (2)(a) above, he or she is, as soon as is reasonably practicable and in any event within 21 days, to determine whether or not he or she is satisfied that the food complies with the specified Community provisions and —

a

if he or she is so satisfied is to forthwith withdraw the notice;

b

if he or she is not so satisfied, is to seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace.

4

Where an authorised officer exercises the powers conferred by subsection (2)(b) or (3)(b) above, he or she is to inform the person in charge of the food of his or her intention to have it dealt with by a justice of the peace and —

a

any person who under regulation 5 of the Genetically Modified Food (Wales) Regulations 2004 might be liable to a prosecution in respect of the food is, if he or she attends before the justice of the peace by whom the food falls to be dealt with, entitled to be heard and to call witnesses; and

b

that justice of the peace may, but need not, be a member of the court before which any person is charged with an offence in relation to that food.

5

If it appears to a justice of the peace, on the basis of such evidence as he or she considers appropriate in the circumstances, that any food falling to be dealt with by him or her under this section fails to comply with a specified Community provision then subject to subsection (6) below he or she is to condemn the food and order —

a

that food to be destroyed or to be so disposed of as to prevent it from being used for human consumption or animal feed; and

b

any expenses reasonably incurred in connection with the destruction or disposal to be defrayed by the operator.

6

In the case of a food referred to in Article 3.1 which is the subject of an authorisation granted under Regulation 1829/2003 and has been produced in accordance with any conditions relating to that authorisation but does not bear the appropriate labelling as required by Article 13 the justice of the peace may, at his or her discretion, order —

a

that the food be labelled properly as soon as is reasonably practicable and at the expense of the operator; and

b

the release of the food into the custody of the operator.

7

If a notice under subsection (2)(a) above is withdrawn, or the justice of the peace by whom any food falls to be dealt with under this section refuses to condemn it or to make an order for the proper labelling of the food, the food authority is to compensate the owner of the food for any depreciation in its value resulting from the action taken by the authorised officer.

8

Any disputed question as to the right to or the amount of any compensation payable under subsection (7) above is to be determined by arbitration.

9

In this section “specified Community provision” has the same meaning as in the Genetically Modified Food (Wales) Regulations 2004.

Dirymu8

Mae Rheoliadau Bwydydd a Addaswyd yn Enetig a Bwydydd Newydd (Labelu) (Cymru) 20006 drwy hyn wedi'u dirymu.

Diwygiadau canlyniadol9

1

Yn Rheoliadau Bwydydd Newydd a Chynhwysion Bwydydd Newydd 19977

a

yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “Regulation EC No. 258/97”, ar ôl y geiriau “novel foods and novel food ingredients” rhodder: “as amended by Regulation (EC) No. 1829/2003 of the European Parliament and of the Council on genetically modified food and feed”.

b

yn yr Atodlen, ar ôl eitem 6, rhodder y canlynol yn y golofn gyntaf: “6A. Article 8.1” ac yn yr ail golofn rhodder: “Requirement that labelling inform the final consumer of any characteristic or food property which renders a novel food or food ingredient no longer equivalent to an existing food or food ingredient.”.

2

Yn y Rheoliadau Bwyd (Darpariaethau sy'n ymwneud â Labelu) (Cymru 20048, mae rheoliad 8 drwy hyn wedi'i ddirymu.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19989).

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

YR ATODLENDARPARIAETHAU CYMUNEDOL PENODEDIG

Rheoliad 2 a 5

RHAN I

Y Ddarpariaeth yn Rheoliad 1829 /2003

Y Pwnc

Erthygl 4.2

Gwahardd rhoi bwyd ar y farchnad y cyfeirir ato yn Erthygl 3.1 onid oes awdurdodiad ar ei gyfer a'i fod yn bodloni amodau perthnasol yr awdurdodiad.

RHAN II

Y Ddarpariaeth yn Rheoliad 1829 /2003

Y Pwnc

Erthygl 8.6

Gofyniad bod cynhyrchion y mae'r Comisiwn wedi mabwysiadu mesur mewn perthynas â hwy o dan Erthygl 8.6 i'w cael eu tynnu oddi ar y farchnad.

Erthygl 9.1

Gofyniad bod yn rhaid i ddeiliad awdurdodiad a phartïon sy'n ymwneud â rhoi cynnyrch bwyd ar y farchnad gydymffurfio ag amodau neu gyfyngiadau a roddwyd ar awdurdodiad a chyda gofynion monitro ôl-farchnadol.

Erthygl 9.3

Gofyniad bod deiliad awdurdodiad yn hysbysu'r Comisiwn o unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd sy'n ymwneud â chynnyrch, a allai ddylanwadu ar werthuso diogelwch wrth ddefnyddio'r bwyd neu ar unrhyw waharddiad neu gyfyngiad ar y bwyd mewn trydedd wlad.

Erthygl 13

Gofyniad am ddangosiadau labelu penodol.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn darparu ar gyfer gorfodi a gweithredu rhai darpariaethau penodedig (sy'n ymwneud â bwyd) yn Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig (OJ Rhif L268, 18.10.2003, t.1). Mae Rheoliadau ar wahân yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi'r darpariaethau hynny yn Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid.

Yn benodol mae'r Rheoliadau hyn —

a

yn dynodi'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ffurfiol fel yr awdurdod cymwys cenedlaethol i dderbyn ceisiadau am awdurdodi'r organeddau newydd a addaswyd yn enetig i'w defnyddio ar gyfer bwyd, bwyd sy'n cynnwys organeddau a addaswyd yn enetig neu sydd wedi'i ffurfio ohonynt, neu fwyd a gynhyrchir o organeddau a addaswyd yn enetig neu sy'n cynwys cynhwysion a gynhyrchir o organeddau a addaswyd yn enetig (rheoliad 3);

b

yn darparu bod awdurdodau bwyd yn gorfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn a darpariaethau Pennod II o Reoliad (EC) Rhif 1829/2003 (rheoliad 4);

c

yn pennu cosbau am fethu â chydymffurfio â rhai darpariaethau penodedig yn Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003, unwaith y mae'r Rheoliadau mewn grym (rheoliad 5 a'r Atodlen);

ch

cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 gyda rhai addasiadau wrth eu cymhwyso at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliadau 6 a 7);

d

dirymu Rheoliadau Bwydydd a Addaswyd yn Enetig a Bwydydd Newydd (Labelu) (Cymru) 2000 (rheoliad 8);

dd

gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Bwydydd Newydd a Chynhwysion Bwydydd Newydd 1997 a Rheoliadau Bwyd (Darpariaethau sy'n Ymwneud â Labelu) (Cymru) 2003 (rheoliad 9).

Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi ar gyfer y rheoliadau hyn a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.