Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Trefniadau Gweithrediaeth a Threfniadau Amgen) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 9 Rhagfyr 2004.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru ac felly mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at awdurdod lleol yn gyfeiriadau at awdurdod lleol yng Nghymru2.

3

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000; ac

  • ystyr “trefniadau amgen” (“alternative arrangements”) yw'r trefniadau a bennir yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 20013.

Cynigion2

1

Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth (“trefniadau gweithrediaeth presennol”), yn rhinwedd penderfyniad o dan adran 29(1) o Ddeddf 2000 (gweithredu trefniadau gweithrediaeth a chyhoeddusrwydd ar eu cyfer), p'un a ydynt yn cael eu cymhwyso gan reoliad 9(1) neu beidio, lunio cynigion ar gyfer gweithredu trefniadau gweithrediaeth (“trefniadau gweithrediaeth gwahanol”) sy'n wahanol i'r trefniadau gweithrediaeth presennol naill ai:

a

mewn modd sy'n golygu disodli gweithrediaeth ar ei ffurf bresennol â gweithrediaeth ar ffurf wahanol4; neu

b

mewn modd nad yw'n dod o fewn is-baragraff (a).

2

Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth presennol lunio cynigion ar gyfer gweithredu trefniadau amgen yn eu lle5.

3

Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen (“trefniadau amgen presennol”), yn rhinwedd penderfyniad o dan adran 33(2) o Ddeddf 2000 (gweithredu trefniadau amgen), p'un a ydynt yn cael eu cymhwyso gan reoliad 9(2) neu beidio, lunio cynigion ar gyfer gweithredu trefniadau amgen (“trefniadau amgen gwahanol”) sy'n wahanol i'r trefniadau amgen presennol mewn unrhyw ffordd.

4

Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen presennol lunio cynigion ar gyfer gweithredu trefniadau gweithrediaeth yn eu lle.

Llunio cynigion3

1

Cyn llunio cynigion o dan reoliad 2(1)(a), (2) neu (4), rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i ymgynghori â'r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol ac â phersonau eraill sydd â buddiant yn yr ardal honno.

2

Rhaid i gynigion a lunnir o dan reoliad 2(1)(a), (2) neu (4) gynnwys —

a

unrhyw fanylion am y trefniadau arfaethedig y mae'r Cynulliad yn cyfarwyddo y dylid eu rhoi;

b

amserlen ynglyn â rhoi'r cynigion ar waith; ac

c

manylion am unrhyw drefniadau trosiannol sy'n angenrheidiol ar gyfer rhoi'r cynigion ar waith.

3

Wrth lunio cynigion o dan reoliad 2(1)(a) neu (4), rhaid i awdurdod lleol benderfynu —

a

beth fydd ffurf y weithrediaeth; a

b

i ba raddau y mae'r swyddogaethau a bennir mewn rheoliadau o dan adran 13(3)(b) o Ddeddf 2000 (swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth) i fod yn gyfrifoldeb y weithrediaeth6.

4

Wrth lunio cynigion o dan reoliad 2(2) neu 2(3), rhaid i awdurdod lleol benderfynu i ba raddau y mae ei swyddogaethau i'w dirprwyo i Fwrdd yr awdurdod7.

5

Wrth lunio cynigion o dan reoliad 2, rhaid i awdurdod lleol ystyried i ba raddau y byddai'r cynigion, o'u rhoi ar waith, yn debyg o fod o gymorth i sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd y mae swyddogaethau'r awdurdod yn cael eu harfer, gan dalu sylw i gyfuniad o ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

Cyfarwyddiadau4

Rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Cynulliad at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Gofyniad i gynnal refferendwm5

1

Os bydd awdurdod lleol yn llunio cynigion o dan reoliad 2 a fyddai, petaent wedi'u gwneud o dan adran 25 o Ddeddf 2000 (Cynigion), yn ei gwneud yn ofynnol i refferendwm gael ei gynnal, mae darpariaethau adran 27(1)(a) o Ddeddf 2000 (Refferendwm yn achos cynigion sy'n cynnwys maer etholedig) i fod yn gymwys i'r cynigion hynny.

2

Os yw'n ofynnol i awdurdod lleol gynnal refferendwm yn rhinwedd paragraff (1), rhaid iddo lunio amlinelliad o'r cynigion hefyd (“cynigion amlinellol wrth gefn”) y mae rhaid iddynt gynnwys crynodeb o drefniadau gweithrediaeth presennol yr awdurdod lleol neu ei drefniadau amgen presennol, yn ôl y digwydd.

3

Ni chaiff awdurdod lleol gynnal refferendwm o'r fath cyn y diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—

a

dyddiad cymeradwyaeth ysgrifenedig gan y Cynulliad o'r cynigion y mae'r refferendwm i fod i ymnwneud â hwy; a

b

y dyddiad sy'n ddeufis ar ôl y dyddiad y mae copi o'r cynigion, y datganiad a'r cynigion amlinellol wrth gefn yn cael eu hanfon i'r Cynulliad yn unol â rheoliad 6.

Gwybodaeth sydd i'w hanfon i'r Cynulliad6

1

Os yw cynigion yn cael eu llunio o dan reoliad 2(1)(a), (2) neu (4), rhaid i'r awdurdod lleol anfon i'r Cynulliad —

a

copi o'r cynigion; a

b

datganiad sy'n disgrifio—

i

y camau a gymerodd yr awdurdod i ymgynghori â'r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod, ac â phersonau eraill â buddiant ynddi;

ii

canlyniad yr ymgynghoriad hwnnw ac i ba raddau y mae'r canlyniad hwnnw wedi'i adlewyrchu yn y cynigion; a

iii

y rhesymau pam y mae'r awdurdod yn credu y byddai ei gynigion, os caent eu gweithredu, yn debyg o sicrhau y byddai penderfyniadau'r awdurdod yn cael eu gwneud mewn ffordd effeithlon, dryloyw ac atebol.

2

Os yw'n ofynnol i awdurdod lleol gynnal refferendwm yn rhinwedd rheoliad 5, rhaid iddo anfon i'r Cynulliad hefyd, ynghyd â'r dogfennau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1), gopi o'r cynigion amlinellol wrth gefn, a luniwyd o dan reoliad 5(2).

Cynigion nad yw'n ofynnol cynnal refferendwm arnynt7

1

Os yw awdurdod lleol —

a

yn llunio cynigion o dan reoliad 2(1)(a) neu (4) ac nad yw'n ofynnol cynnal refferendwm ar gyfer y cynigion hynny; neu

b

yn llunio cynigion o dan reoliad 2(2),

rhaid i'r awdurdod, yn ddarostyngedig i baragraff (2), roi'r cynigion ar waith yn unol â'r amserlen a gynhwysir yn y cynigion.

2

Rhaid i awdurdod lleol, y mae paragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi cynigion ar waith, beidio â gwneud hynny heb gymeradwyaeth ysgrifenedig y Cynulliad.

Cynigion y mae'n ofynnol cynnal refferendwm arnynt8

1

Os canlyniad refferendwm a gynhaliwyd yn rhinwedd rheoliad 5 yw gwrthod y cynigion a oedd yn destun y refferendwm, rhaid i'r awdurdod lleol —

a

peidio â rhoi'r cynigion hynny ar waith; a

b

os yw'r awdurdod lleol yn gweithredu —

i

trefniadau gweithrediaeth presennol (fel y maent wedi'u crynhoi yn ei gynigion amlinellol wrth gefn), parhau i weithredu'r trefniadau presennol hynny hyd nes yr awdurdodir ef i weithredu trefniadau gweithrediaeth gwahanol neu y gwneir yn ofynnol iddo eu gweithredu neu yr awdurdodir ef i weithredu trefniadau amgen yn lle ei drefniadau gweithrediaeth presennol8;

ii

trefniadau amgen presennol (fel y maent wedi'u crynhoi yn ei gynigion amlinellol wrth gefn), rhaid iddo barhau i weithredu'r trefniadau presennol hynny hyd nes yr awdurdodir ef i weithredu trefniadau amgen gwahanol neu hyd nes yr awdurdodir ef i weithredu trefniadau gweithrediaeth yn lle ei drefniadau amgen presennol neu y gwneir yn ofynnol iddo eu gweithredu9.

2

Os canlyniad refferendwm a gynhaliwyd yn rhinwedd rheoliad 5 yw cymeradwyo'r cynigion a oedd yn destun y refferendwm, rhaid i'r awdurdod lleol roi'r cynigion hynny ar waith yn unol â'r amserlen a gynhwysir yn y cynigion.

Y gofynion ar gyfer penderfyniad9

1

Mae is-adran (1) o adran 29 o Ddeddf 2000 (gweithredu trefniadau gweithrediaeth a chyhoeddusrwydd ar eu cyfer) i fod yn gymwys i weithredu trefniadau gweithrediaeth gwahanol yn yr un modd ag y mae'n gymwys i weithredu trefniadau gweithrediaeth yn wreiddiol neu yn lle'r trefniadau amgen presennol.

2

Mae is-adran (2) o adran 33 o Ddeddf 2000 (gweithredu trefniadau amgen) i fod yn gymwys i weithredu trefniadau amgen gwahanol fel y mae'n gymwys i weithredu trefniadau amgen yn wreiddiol neu yn lle'r trefniadau gweithrediaeth presennol.

Cyhoeddusrwydd ar gyfer trefniadau10

1

Os yw awdurdod wedi penderfynu gweithredu —

a

trefniadau gweithrediaeth gwahanol; neu

b

trefniadau amgen gwahanol,

rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl pasio penderfyniad o'r fath, sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau hynny ar gael yn ei brif swyddfa i aelodau o'r cyhoedd fwrw golwg drostynt ar bob awr resymol.

2

Os yw awdurdod wedi penderfynu —

a

gweithredu trefniadau gweithrediaeth gwahanol sy'n cynnwys disodli gweithrediaeth ag un ar ffurf wahanol;

b

gweithredu trefniadau amgen yn lle'r trefniadau gweithrediaeth presennol; neu

c

gweithredu trefniadau gweithrediaeth yn lle'r trefniadau amgen presennol,

rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl pasio penderfyniad o'r fath, gyhoeddi mewn un neu ragor o bapurau newydd sy'n cylchredeg yn ei ardal hysbysiad sy'n cydymffurfio â darpariaethau paragarff (3).

3

Rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) —

a

datgan bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu gweithredu'r trefniadau;

b

datgan y dyddiad y mae'r awdurdod lleol i ddechrau gweithredu'r trefniadau hynny;

c

disgrifio prif nodweddion y trefniadau hynny;

ch

datgan bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau hynny ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod lleol i aelodau o'r cyhoedd fwrw golwg drostynt ar unrhyw adeg a bennir yn yr hysbysiad; a

d

pennu cyfeiriad prif swyddfa'r awdurdod lleol.

4

Os bydd cynigion yr awdurdod lleol wedi'u gwrthod mewn refferendwm yr oedd yn ofynnol ei gynnal yn rhinwedd rheoliad 5(1), rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cynnal y refferendwm, mewn un neu ragor o bapurau newydd sy'n cylchredeg yn ei ardal hysbysiad sydd —

a

yn crynhoi cynigion yr awdurdod lleol a oedd yn destun y refferendwm;

b

yn datgan bod refferendwm ar gynigion yr awdurdod lleol wedi gwrthod y cynigion hynny;

c

yn nodi cynigion amlinellol wrth gefn yr awdurdod lleol; ac

ch

yn datgan y bydd y trefniadau gweithrediaeth presennol neu'r trefniadau amgen presennol, yn ôl y digwydd, (fel y maent wedi'u crynhoi yng nghynigion amlinellol wrth gefn yr awdurdod lleol) yn parhau i weithredu.

Ymgynghori cyn y dyddiad cychwyn11

1

Mae paragraff (2) yn gymwys —

a

os yw'n ofynnol bod ymgynghoriad yn cael ei gynnal o dan un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn; a

b

os, o fewn y cyfnod o chwe mis sy'n dod i ben ar y diwrnod y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym, y bydd ymgynghoriad wedi'i gynnal a hwnnw'n un a fyddai wedi bodloni gofynion y ddarpariaeth honno i unrhyw raddau pe bai wedi bod mewn grym.

2

Rhaid cymryd bod y gofynion hynny wedi'u bodloni i'r graddau hynny.

Dirymu12

Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Gweithredu Trefniadau Gweithredol neu Amgen Gwahanol) (Cymru) 200210 drwy hyn wedi'u dirymu.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199811

John MarekDirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol