Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Trefniadau Gweithrediaeth a Threfniadau Amgen) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Trefniadau Gweithrediaeth a Threfniadau Amgen) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 9 Rhagfyr 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru ac felly mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at awdurdod lleol yn gyfeiriadau at awdurdod lleol yng Nghymru(1).

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000; ac

ystyr “trefniadau amgen” (“alternative arrangements”) yw'r trefniadau a bennir yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001(2).

Cynigion

2.—(1Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth (“trefniadau gweithrediaeth presennol”), yn rhinwedd penderfyniad o dan adran 29(1) o Ddeddf 2000 (gweithredu trefniadau gweithrediaeth a chyhoeddusrwydd ar eu cyfer), p'un a ydynt yn cael eu cymhwyso gan reoliad 9(1) neu beidio, lunio cynigion ar gyfer gweithredu trefniadau gweithrediaeth (“trefniadau gweithrediaeth gwahanol”) sy'n wahanol i'r trefniadau gweithrediaeth presennol naill ai:

(a)mewn modd sy'n golygu disodli gweithrediaeth ar ei ffurf bresennol â gweithrediaeth ar ffurf wahanol(3); neu

(b)mewn modd nad yw'n dod o fewn is-baragraff (a).

(2Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth presennol lunio cynigion ar gyfer gweithredu trefniadau amgen yn eu lle(4).

(3Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen (“trefniadau amgen presennol”), yn rhinwedd penderfyniad o dan adran 33(2) o Ddeddf 2000 (gweithredu trefniadau amgen), p'un a ydynt yn cael eu cymhwyso gan reoliad 9(2) neu beidio, lunio cynigion ar gyfer gweithredu trefniadau amgen (“trefniadau amgen gwahanol”) sy'n wahanol i'r trefniadau amgen presennol mewn unrhyw ffordd.

(4Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen presennol lunio cynigion ar gyfer gweithredu trefniadau gweithrediaeth yn eu lle.

Llunio cynigion

3.—(1Cyn llunio cynigion o dan reoliad 2(1)(a), (2) neu (4), rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i ymgynghori â'r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol ac â phersonau eraill sydd â buddiant yn yr ardal honno.

(2Rhaid i gynigion a lunnir o dan reoliad 2(1)(a), (2) neu (4) gynnwys —

(a)unrhyw fanylion am y trefniadau arfaethedig y mae'r Cynulliad yn cyfarwyddo y dylid eu rhoi;

(b)amserlen ynglyn â rhoi'r cynigion ar waith; ac

(c)manylion am unrhyw drefniadau trosiannol sy'n angenrheidiol ar gyfer rhoi'r cynigion ar waith.

(3Wrth lunio cynigion o dan reoliad 2(1)(a) neu (4), rhaid i awdurdod lleol benderfynu —

(a)beth fydd ffurf y weithrediaeth; a

(b)i ba raddau y mae'r swyddogaethau a bennir mewn rheoliadau o dan adran 13(3)(b) o Ddeddf 2000 (swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth) i fod yn gyfrifoldeb y weithrediaeth(5).

(4Wrth lunio cynigion o dan reoliad 2(2) neu 2(3), rhaid i awdurdod lleol benderfynu i ba raddau y mae ei swyddogaethau i'w dirprwyo i Fwrdd yr awdurdod(6).

(5Wrth lunio cynigion o dan reoliad 2, rhaid i awdurdod lleol ystyried i ba raddau y byddai'r cynigion, o'u rhoi ar waith, yn debyg o fod o gymorth i sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd y mae swyddogaethau'r awdurdod yn cael eu harfer, gan dalu sylw i gyfuniad o ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

Cyfarwyddiadau

4.  Rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Cynulliad at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Gofyniad i gynnal refferendwm

5.—(1Os bydd awdurdod lleol yn llunio cynigion o dan reoliad 2 a fyddai, petaent wedi'u gwneud o dan adran 25 o Ddeddf 2000 (Cynigion), yn ei gwneud yn ofynnol i refferendwm gael ei gynnal, mae darpariaethau adran 27(1)(a) o Ddeddf 2000 (Refferendwm yn achos cynigion sy'n cynnwys maer etholedig) i fod yn gymwys i'r cynigion hynny.

(2Os yw'n ofynnol i awdurdod lleol gynnal refferendwm yn rhinwedd paragraff (1), rhaid iddo lunio amlinelliad o'r cynigion hefyd (“cynigion amlinellol wrth gefn”) y mae rhaid iddynt gynnwys crynodeb o drefniadau gweithrediaeth presennol yr awdurdod lleol neu ei drefniadau amgen presennol, yn ôl y digwydd.

(3Ni chaiff awdurdod lleol gynnal refferendwm o'r fath cyn y diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—

(a)dyddiad cymeradwyaeth ysgrifenedig gan y Cynulliad o'r cynigion y mae'r refferendwm i fod i ymnwneud â hwy; a

(b)y dyddiad sy'n ddeufis ar ôl y dyddiad y mae copi o'r cynigion, y datganiad a'r cynigion amlinellol wrth gefn yn cael eu hanfon i'r Cynulliad yn unol â rheoliad 6.

Gwybodaeth sydd i'w hanfon i'r Cynulliad

6.—(1Os yw cynigion yn cael eu llunio o dan reoliad 2(1)(a), (2) neu (4), rhaid i'r awdurdod lleol anfon i'r Cynulliad —

(a)copi o'r cynigion; a

(b)datganiad sy'n disgrifio—

(i)y camau a gymerodd yr awdurdod i ymgynghori â'r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod, ac â phersonau eraill â buddiant ynddi;

(ii)canlyniad yr ymgynghoriad hwnnw ac i ba raddau y mae'r canlyniad hwnnw wedi'i adlewyrchu yn y cynigion; a

(iii)y rhesymau pam y mae'r awdurdod yn credu y byddai ei gynigion, os caent eu gweithredu, yn debyg o sicrhau y byddai penderfyniadau'r awdurdod yn cael eu gwneud mewn ffordd effeithlon, dryloyw ac atebol.

(2Os yw'n ofynnol i awdurdod lleol gynnal refferendwm yn rhinwedd rheoliad 5, rhaid iddo anfon i'r Cynulliad hefyd, ynghyd â'r dogfennau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1), gopi o'r cynigion amlinellol wrth gefn, a luniwyd o dan reoliad 5(2).

Cynigion nad yw'n ofynnol cynnal refferendwm arnynt

7.—(1Os yw awdurdod lleol —

(a)yn llunio cynigion o dan reoliad 2(1)(a) neu (4) ac nad yw'n ofynnol cynnal refferendwm ar gyfer y cynigion hynny; neu

(b)yn llunio cynigion o dan reoliad 2(2),

rhaid i'r awdurdod, yn ddarostyngedig i baragraff (2), roi'r cynigion ar waith yn unol â'r amserlen a gynhwysir yn y cynigion.

(2Rhaid i awdurdod lleol, y mae paragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi cynigion ar waith, beidio â gwneud hynny heb gymeradwyaeth ysgrifenedig y Cynulliad.

Cynigion y mae'n ofynnol cynnal refferendwm arnynt

8.—(1Os canlyniad refferendwm a gynhaliwyd yn rhinwedd rheoliad 5 yw gwrthod y cynigion a oedd yn destun y refferendwm, rhaid i'r awdurdod lleol —

(a)peidio â rhoi'r cynigion hynny ar waith; a

(b)os yw'r awdurdod lleol yn gweithredu —

(i)trefniadau gweithrediaeth presennol (fel y maent wedi'u crynhoi yn ei gynigion amlinellol wrth gefn), parhau i weithredu'r trefniadau presennol hynny hyd nes yr awdurdodir ef i weithredu trefniadau gweithrediaeth gwahanol neu y gwneir yn ofynnol iddo eu gweithredu neu yr awdurdodir ef i weithredu trefniadau amgen yn lle ei drefniadau gweithrediaeth presennol(7);

(ii)trefniadau amgen presennol (fel y maent wedi'u crynhoi yn ei gynigion amlinellol wrth gefn), rhaid iddo barhau i weithredu'r trefniadau presennol hynny hyd nes yr awdurdodir ef i weithredu trefniadau amgen gwahanol neu hyd nes yr awdurdodir ef i weithredu trefniadau gweithrediaeth yn lle ei drefniadau amgen presennol neu y gwneir yn ofynnol iddo eu gweithredu(8).

(2Os canlyniad refferendwm a gynhaliwyd yn rhinwedd rheoliad 5 yw cymeradwyo'r cynigion a oedd yn destun y refferendwm, rhaid i'r awdurdod lleol roi'r cynigion hynny ar waith yn unol â'r amserlen a gynhwysir yn y cynigion.

Y gofynion ar gyfer penderfyniad

9.—(1Mae is-adran (1) o adran 29 o Ddeddf 2000 (gweithredu trefniadau gweithrediaeth a chyhoeddusrwydd ar eu cyfer) i fod yn gymwys i weithredu trefniadau gweithrediaeth gwahanol yn yr un modd ag y mae'n gymwys i weithredu trefniadau gweithrediaeth yn wreiddiol neu yn lle'r trefniadau amgen presennol.

(2Mae is-adran (2) o adran 33 o Ddeddf 2000 (gweithredu trefniadau amgen) i fod yn gymwys i weithredu trefniadau amgen gwahanol fel y mae'n gymwys i weithredu trefniadau amgen yn wreiddiol neu yn lle'r trefniadau gweithrediaeth presennol.

Cyhoeddusrwydd ar gyfer trefniadau

10.—(1Os yw awdurdod wedi penderfynu gweithredu —

(a)trefniadau gweithrediaeth gwahanol; neu

(b)trefniadau amgen gwahanol,

rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl pasio penderfyniad o'r fath, sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau hynny ar gael yn ei brif swyddfa i aelodau o'r cyhoedd fwrw golwg drostynt ar bob awr resymol.

(2Os yw awdurdod wedi penderfynu —

(a)gweithredu trefniadau gweithrediaeth gwahanol sy'n cynnwys disodli gweithrediaeth ag un ar ffurf wahanol;

(b)gweithredu trefniadau amgen yn lle'r trefniadau gweithrediaeth presennol; neu

(c)gweithredu trefniadau gweithrediaeth yn lle'r trefniadau amgen presennol,

rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl pasio penderfyniad o'r fath, gyhoeddi mewn un neu ragor o bapurau newydd sy'n cylchredeg yn ei ardal hysbysiad sy'n cydymffurfio â darpariaethau paragarff (3).

(3Rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) —

(a)datgan bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu gweithredu'r trefniadau;

(b)datgan y dyddiad y mae'r awdurdod lleol i ddechrau gweithredu'r trefniadau hynny;

(c)disgrifio prif nodweddion y trefniadau hynny;

(ch)datgan bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau hynny ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod lleol i aelodau o'r cyhoedd fwrw golwg drostynt ar unrhyw adeg a bennir yn yr hysbysiad; a

(d)pennu cyfeiriad prif swyddfa'r awdurdod lleol.

(4Os bydd cynigion yr awdurdod lleol wedi'u gwrthod mewn refferendwm yr oedd yn ofynnol ei gynnal yn rhinwedd rheoliad 5(1), rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cynnal y refferendwm, mewn un neu ragor o bapurau newydd sy'n cylchredeg yn ei ardal hysbysiad sydd —

(a)yn crynhoi cynigion yr awdurdod lleol a oedd yn destun y refferendwm;

(b)yn datgan bod refferendwm ar gynigion yr awdurdod lleol wedi gwrthod y cynigion hynny;

(c)yn nodi cynigion amlinellol wrth gefn yr awdurdod lleol; ac

(ch)yn datgan y bydd y trefniadau gweithrediaeth presennol neu'r trefniadau amgen presennol, yn ôl y digwydd, (fel y maent wedi'u crynhoi yng nghynigion amlinellol wrth gefn yr awdurdod lleol) yn parhau i weithredu.

Ymgynghori cyn y dyddiad cychwyn

11.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys —

(a)os yw'n ofynnol bod ymgynghoriad yn cael ei gynnal o dan un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn; a

(b)os, o fewn y cyfnod o chwe mis sy'n dod i ben ar y diwrnod y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym, y bydd ymgynghoriad wedi'i gynnal a hwnnw'n un a fyddai wedi bodloni gofynion y ddarpariaeth honno i unrhyw raddau pe bai wedi bod mewn grym.

(2Rhaid cymryd bod y gofynion hynny wedi'u bodloni i'r graddau hynny.

Dirymu

12.  Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Gweithredu Trefniadau Gweithredol neu Amgen Gwahanol) (Cymru) 2002(9) drwy hyn wedi'u dirymu.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Tachwedd 2004

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources