Erthygl 2
ATODLEN 1
Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003
1. Ailrifer rheoliad 2 (dehongli) yn rheoliad 2(1) ac, yn y diffiniad a geir ynddo o “holiadur”, ar ôl y geiriau “Rheoliadau hyn”, mewnosoder—
“, ac, at y diben hwn, cymerir fod ffurflen wedi'i darparu pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i chyhoeddi ar wefan ac wedi hysbysu'r awdurdod cynllunio lleol—
(a)ei fod wedi cyhoeddi'r ffurflen ar y wefan;
(b)o gyfeiriad y wefan; ac
(c)ymhle ar y wefan y gellir dod o hyd i'r ffurflen a sut y gellir ei chyrchu.”.
2. Ar ôl rheoliad 2(1), ychwaneger—
“(2) Yn y Rheoliadau hyn, ac mewn perthynas â defnyddio cyfathrebu electronig at unrhyw ddiben yn y Rheoliadau hyn y mae modd ei gyflawni yn electronig,—
(a)bydd yr ymadrodd “cyfeiriad” yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebu o'r fath, ac eithrio pan fydd y Rheoliadau hyn yn gosod rhwymedigaeth ar unrhyw berson i roi enw a chyfeiriad i unrhyw berson arall, ni fydd y rhwymedigaeth wedi'i chyflawni oni roddir cyfeiriad post gan y person sydd o dan y rwymedigaeth;
(b)bydd cyfeiriadau at hysbysiadau, sylwadau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o'r fath bethau, yn cynnwys cyfeiriadau at y pethau hynny, neu at gopïau ohonynt, ar ffurf electronig.
(3) Bydd paragraffau (4) i (7) yn gymwys pan fydd person yn defnyddio cyfrwng cyfathrebu electronig er mwyn cyflawni unrhyw ofyniad sydd yn y Rheoliadau hyn i roi neu i anfon unrhyw ddatganiad, hysbysiad neu ddogfen arall at unrhyw berson arall (“y derbyniwr”).
(4) Cymerir y bydd y gofyniad wedi'i gyflawni pan fydd yr hysbysiad neu ddogfen arall a drosglwyddir drwy gyfrwng cyfathrebu electronig—
(a)yn gallu cael ei gyrchu neu ei chyrchu gan y derbyniwr,
(b)yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys; ac
(c)yn ddigon parhaol fel bod modd cyfeirio ato neu ati yn nes ymlaen.
(5) Ym mharagraff (4), ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys” yw bod yr wybodaeth a geir yn yr hysbysiad neu'r ddogfen arall ar gael i'r derbyniwr i raddau nad ydynt yn llai na phe bai wedi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.
(6) Os cafwyd y cyfathrebiad electronig gan y derbyniwr y tu hwnt i oriau busnes y derbyniwr, cymerir ei fod wedi'i gael ar y diwrnod gwaith nesaf; ac, at y diben hwn, ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod nad ydyw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall.
(7) Bydd gofyniad yn y Rheoliadau hyn y dylai unrhyw ddogfen fod yn ysgrifenedig wedi'i gyflawni os bydd y ddogfen honno'n cwrdd â'r meini prawf a geir ym mharagraff (4); ac mae “yn ysgrifenedig” ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.”.
3. Yn rheoliad 3 (cymhwyso'r Rheoliadau), ychwaneger ar ôl paragraff (2)—
“(2A) Pan fydd apelydd (neu, yn ôl y digwydd, yr apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol) yn rhoi gwybod felly i'r Cynulliad Cenedlaethol gan ddefnyddio cyfrwng cyfathrebu electronig, cymerir bod yr apelydd wedi cytuno—
(a)defnyddio cyfathrebiadau tebyg at holl ddibenion y Rheoliadau hyn o ran yr apêl a'r rheini'n gyfathrebiadau y mae modd eu cyflawni'n electronig;
(b)mai cyfeiriad yr apelydd at ddibenion cyfathrebu felly yw'r cyfeiriad a ymgorfforwyd yng ngohebiaeth yr apelydd wrth hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r cyfeiriad y mae'n rhesymol ei gysylltu fel arall â'r ohebiaeth honno; ac
(c)y bydd cytundeb tybiedig yr apelydd o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes iddo hysbysu ei fod yn dymuno dirymu ei gytundeb yn unol â rheoliad 12A,
ac ni fydd y cyfeiriadau a geir ym mharagraffau (1) a (2) o'r rheoliad hwn at benderfynu apêl ar sail sylwadau ysgrifenedig i'w cymryd fel pe baent yn eithrio defnyddio cyfryngau cyfathrebu electronig, yn unol â'r paragraff hwn a rheoliad 2.”.
4. Yn rheoliad 7 (sylwadau), ychwaneger ar y diwedd—
“(9) Pan fydd parti y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn dewis defnyddio cyfrwng cyfathrebu electronig i gyflwyno, anfon, copïo neu anfon copi o unrhyw sylwadau, holiadur neu ddogfen arall, bydd y rheoliad hwn yn effeithiol yn ddarostyngedig i'r addasiadau a ganlyn—
(a)os yr awdurdod cynllunio lleol yw'r parti sy'n dewis gwneud hynny, yn lle'r geiriau “2 gopi o'r” ym mharagraff (3), rhodder y gair “y”, a dileer y geiriau “2 gopi o” ym mharagraff (7);
(b)os yr apelydd yw'r parti sy'n dewis gwneud hynny, yn lle'r geiriau “2 gopi o'r” ym mharagraff (4), rhodder y gair “y”, a dileer y geiriau “2 gopi o” ym mharagraff (7).”.
5. Yn lle rheoliad 12 (trosglwyddo dogfennau), rhodder—
“12. Caniateir anfon neu gyflenwi hysbysiadau neu ddogfennau y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir eu hanfon neu eu cyflenwi o dan y Rheoliadau hyn—
(a)drwy'r post; neu
(b)drwy gyfrwng cyfathrebu electronig i drosglwyddo'r hysbysiad neu'r ddogfen (yn ôl y digwydd) at berson yn y cyfeiriad y caiff y person hwnnw ei bennu at y diben hwn am y tro.”.
6. Ar ôl rheoliad 12, mewnosoder—
“Tynnu'n ôl gydsyniad i ddefnyddio cyfryngau cyfathrebu electronig
12A. Os na fydd person yn fodlon derbyn defnyddio cyfathrebu electronig mwyach at unrhyw ddiben o dan y Rheoliadau hyn y mae modd ei gyflawni'n electronig, rhaid i'r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig—
(a)yn tynnu yn ôl unrhyw gyfeiriad a hysbyswyd i'r Cynulliad Cenedlaethol neu i'r awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw; neu
(b)yn dirymu unrhyw gytundeb a wnaed gyda'r Cynulliad Cenedlaethol neu gydag awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw,
a bydd y tynnu yn ôl neu'r dirymu hwnnw yn derfynol, gan ddod yn effeithiol ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad gan y person ond heb fod yn llai na saith niwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.”.
Erthygl 3(1)
ATODLEN 2
Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2003
1. Ailrifer rheoliad 2 (dehongli) yn rheoliad 2(1) a, chyn y diffiniad o “hysbysiad gorfodi” a geir yno, mewnosoder y diffiniad a ganlyn—
“mae i “cyfathrebu electronig” a “cyfathrebiad electronig” yr ystyr sydd i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(1);”.
2. Yn rheoliad 4 (nodyn esboniadol i'w anfon gyda chopi o'r hysbysiad gorfodi), ar ddiwedd is-baragraff (a)(ii), mewnosoder—
“; neu, os defnyddir cyfrwng cyfathrebu electronig i anfon yr hysbysiad hwnnw at y Cynulliad Cenedlaethol, drwy anfon yr hysbysiad iddo ar adeg pan fyddai, yn ôl trefn arferol y trosglwyddo, fel arfer yn cyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn y dyddiad hwnnw”.
3. Ar ôl rheoliad 9 (hysbysiad bod pob dogfen sydd ei hangen wedi cyrraedd), mewnosoder—
“Defnyddio cyfathrebu electronig
9A.—(1) Bydd paragraffau (2) i (6) o'r rheoliad hwn yn gymwys pan ddefnyddir cyfrwng cyfathrebu electronig gan berson at ddiben cyflawni unrhyw ofyniad sydd yn Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn i roi neu i anfon unrhyw ddatganiad, hysbysiad neu unrhyw ddogfen arall at unrhyw berson arall (“y derbyniwr”).
(2) Cymerir y bydd y gofyniad wedi'i gyflawni pan fydd y ddogfen a drosglwyddir drwy gyfrwng y cyfathrebu electronig—
(a)yn gallu cael ei gyrchu gan y derbyniwr;
(b)yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys; ac
(c)yn ddigon parhaol fel bod modd cyfeirio ati yn nes ymlaen.
(3) Ym mharagraff (2), ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys” yw bod yr wybodaeth a geir yn yr hysbysiad neu'r ddogfen ar gael i'r derbyniwr i raddau nad ydynt yn llai na phe bai wedi'i hanfon neu ei rhoi ar ffurf dogfen brintiedig.
(4) Os caiff y derbyniwr y cyfathrebiad electronig y tu hwnt i'w oriau busnes, cymerir ei fod wedi'i gael ar y diwrnod gwaith nesaf; ac, at y diben hwn, ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod nad ydyw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall.
(5) Caiff gofyniad bod yn rhaid i unrhyw hysbysiad neu ddogfen fod yn ysgrifenedig ei gyflawni os bydd y ddogfen honno'n cwrdd â'r meini prawf a geir ym mharagraff (2); ac mae “yn ysgrifenedig” ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.
(6) Pan fydd person yn apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 6 drwy gyfrwng cyfathrebu electronig, cymerir fod y person wedi cytuno—
(a)defnyddio'r cyfrwng cyfathrebu hynny at yr holl ddibenion sy'n ymwneud â'r apêl y mae modd eu cyflawni drwy gyfrwng electronig;
(b)mai cyfeiriad yr apelydd at ddibenion cyfathrebu felly yw'r cyfeiriad a ymgorfforwyd yn natganiad apelio yr apelydd neu'r cyfeiriad y mae'n rhesymol ei gysylltu fel arall â'r datganiad hwnnw;
(c)y bydd cytundeb tybiedig yr apelydd o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes iddo roi hysbysiad yn unol â rheoliad 12A ei fod yn dymuno dirymu y cytundeb.”.
4. Yn lle rheoliad 12 (trosglwyddo dogfennau), rhodder—
“Trosglwyddo dogfennau
12. Caniateir cyflwyno, anfon neu gyflenwi hysbysiadau neu ddogfennau y mae'n ofynnol neu yr awdurdodwyd eu cyflwyno, eu hanfon neu eu cyflenwi o dan y Rheoliadau hyn—
(a)drwy'r post; neu
(b)drwy ddefnyddio cyfrwng cyfathrebu electronig i gyflwyno, anfon neu gyflenwi'r hysbysiad neu'r ddogfen (yn ôl y digwydd) i berson yn y cyfeiriad post y caiff ef ei bennu at y diben hwnnw am y tro.”.
5. Ar ôl rheoliad 12, mewnosoder—
“Tynnu'n ôl gydsyniad i ddefnyddio cyfrwng cyfathrebu electronig
12A. Os na fydd person yn fodlon defnyddio cyfathrebu electronig mwyach at unrhyw ddiben o dan y Rheoliadau hyn y mae modd ei gyflawni'n electronig, rhaid i'r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig ei fod—
(a)yn tynnu yn ôl unrhyw gyfeiriad a hysbyswyd i'r Cynulliad Cenedlaethol neu i awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw; neu
(b)yn dirymu unrhyw gytundeb a wnaed gyda'r Cynulliad Cenedlaethol neu gydag awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw,
a bydd y tynnu yn ôl neu'r dirymu hwnnw yn derfynol, gan ddod yn effeithiol ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad gan y person ond heb fod yn llai na saith niwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.”.
Erthygl 3(2)
ATODLEN 3
Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003
1. Ailrifer rheoliad 2 (dehongli) yn rheoliad 2(1) ac—
(a)ar ôl y diffiniad o “awdurdod cynllunio lleol” a geir yn y rheoliad hwnnw, mewnosoder y diffiniad a ganlyn—
“mae i “cyfathrebu electronig” a “cyfathrebiad electronig” yr ystyr sydd i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(2);”;
(b)yn y diffiniad o “holiadur” a geir yn y rheoliad hwnnw, ar ôl y geiriau “Rheoliadau hyn”, mewnosoder—
“, ac, at y diben hwn, cymerir fod ffurflen wedi'i darparu pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i chyhoeddi ar wefan ac wedi hysbysu awdurdod cynllunio lleol—
(a)ei fod wedi cyhoeddi'r ffurflen ar y wefan;
(b)o gyfeiriad y wefan; ac
(c)ymhle ar y wefan y gellir dod o hyd i'r ffurflen a sut y gellir ei chyrchu;”.
2. Ar ôl rheoliad 2(1), mewnosoder—
“(2) Yn y Rheoliadau hyn, ac mewn perthynas â defnyddio cyfathrebu electronig at unrhyw ddiben yn y Rheoliadau hyn y mae modd ei gyflawni yn electronig,—
(a)bydd yr ymadrodd “cyfeiriad” yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebu o'r fath, ac eithrio pan fydd y Rheoliadau hyn yn gosod rhwymedigaeth ar unrhyw berson i roi enw a chyfeiriad i unrhyw berson arall, ni fydd y rhwymedigaeth wedi'i chyflawni oni roddir cyfeiriad post gan y person sydd o dan y rwymedigaeth;
(b)bydd cyfeiriadau at hysbysiadau, sylwadau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o'r fath bethau, yn cynnwys cyfeiriadau at y pethau hynny, neu at gopïau ohonynt, ar ffurf electronig.
(3) Bydd paragraffau (4) a (7) yn gymwys os defnyddir cyfrwng cyfathrebu electronig gan berson er mwyn cyflawni unrhyw ofyniad yn rheoliadau 4 i 8 o'r Rheoliadau hyn y dylai sylwadau neu ddogfennau eraill gael eu hanfon at neu eu cyflwyno i unrhyw berson arall (“y derbyniwr”).
(4) Cymerir y bydd y gofyniad wedi'i gyflawni pan fydd y ddogfen a drosglwyddir drwy gyfrwng cyfathrebu electronig—
(a)yn gallu cael ei chyrchu gan y derbyniwr;
(b)yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys; ac
(c)yn ddigon parhaol fel bod modd cyfeirio ati yn nes ymlaen.
(5) Ym mharagraff (4), ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys” yw bod yr wybodaeth a geir yn y ddogfen ar gael i'r derbyniwr i raddau nad ydynt yn llai na phe bai wedi'i hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.
(6) Os cafwyd y cyfathrebiad electronig gan y derbyniwr y tu hwnt i'w oriau busnes, cymerir ei fod wedi'i gael ar y diwrnod gwaith nesaf; ac, at y diben hwn, ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod nad ydyw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall.
(7) Bydd gofyniad yn y Rheoliadau hyn y dylai unrhyw hysbysiad neu ddogfen fod yn ysgrifenedig wedi'i gyflawni os bydd y ddogfen honno'n cwrdd â'r meini prawf a geir ym mharagraff (4); ac mae “yn ysgrifenedig” ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny (ac eithrio yn rheoliad 5).”.
3. Yn rheoliad 3 (cymhwyso'r Rheoliadau hyn), ar ôl paragraff (2), rhodder—
“(2A) Pan fydd apelydd (neu, yn ôl y digwydd, yr apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol) yn rhoi gwybod felly i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy gyfrwng cyfathrebu electronig, cymerir bod yr apelydd wedi cytuno—
(a)defnyddio'r cyfathrebiadau hynny at holl ddibenion y Rheoliadau hyn, o ran yr apêl, a rheini'n gyfathrebiadau y mae modd eu cyflawni'n electronig;
(b)mai'r cyfeiriad a roddwyd gan yr apelydd at ddibenion cyfathrebu felly yw'r cyfeiriad a ymgorfforwyd yng ngohebiaeth y person hwnnw wrth hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol, neu'r cyfeiriad y mae'n rhesymol ei gysylltu fel arall â'r ohebiaeth honno; ac
(c)y bydd cytundeb tybiedig yr apelydd o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes iddo hysbysu ei fod yn dymuno dirymu ei gytundeb yn unol â rheoliad 11A,
ac ni fydd y cyfeiriadau a geir ym mharagraffau (1) a (2) o'r rheoliad hwn at benderfynu apêl ar sail sylwadau ysgrifenedig i'w cymryd fel pe baent yn eithrio defnyddio cyfathrebu electronig yn unol â'r paragraff hwn a rheoliad 2.”.
4. Yn rheoliad 7 (sylwadau), ychwaneger ar y diwedd—
“(9) Pan fydd parti y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn dewis defnyddio dull cyfathrebu electronig i gyflwyno, anfon, copïo neu anfon copi o unrhyw sylwadau, holiadur neu ddogfen arall, bydd y rheoliad hwn yn effeithiol yn ddarostyngedig i'r addasiadau a ganlyn—
(a)os yr apelydd yw'r parti sy'n dewis gwneud felly, yn lle'r geiriau “2 gopi o'r” ym mharagraff (3), rhodder y gair “y”, a dileer y geiriau “2 gopi o” ym mharagraff (7);
(b)os yr awdurdod cynllunio lleol yw'r parti sy'n dewis gwneud felly, yn lle'r geiriau “2 gopi o'i” ym mharagraff (4), rhodder “ei”, a dileer y geiriau “2 gopi o” ym mharagraff (7).”.
5. Yn lle rheoliad 11 (trosglwyddo dogfennau), rhodder—
“Trosglwyddo dogfennau
11. Caniateir cyflwyno, anfon neu gyflenwi hysbysiadau neu ddogfennau y mae'n ofynnol neu yr awdurdodwyd eu cyflwyno, eu hanfon neu eu cyflenwi o dan y Rheoliadau hyn—
(a)drwy'r post; neu
(b)drwy gyfrwng cyfathrebu electronig i gyflwyno, anfon neu gyflenwi'r hysbysiad neu'r ddogfen (yn ôl y digwydd) i berson yn y cyfeiriad y caiff ef ei bennu at y diben hwnnw am y tro.”.
6. Ar ôl rheoliad 11, mewnosoder—
“Tynnu'n ôl gydsyniad i ddefnyddio dull cyfathrebu electronig
11A. Os na fydd person yn fodlon defnyddio cyfathrebu electronig mwyach at unrhyw ddiben o dan y Rheoliadau hyn y mae modd ei gyflawni'n electronig, rhaid i'r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig—
(a)yn tynnu yn ôl unrhyw gyfeiriad a hysbyswyd i'r Cynulliad Cenedlaethol neu i awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw; neu
(b)yn dirymu unrhyw gytundeb a wnaed gyda'r Cynulliad Cenedlaethol neu gydag awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw,
a bydd y tynnu yn ôl neu'r dirymu hwnnw yn derfynol, gan gymryd effaith ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad gan y person ond heb fod yn llai na saith niwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.”.