Search Legislation

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebu Electronig) (Cymru) (Rhif 2) 2004

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Erthygl 3(2)

ATODLEN 3

Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003

1.  Ailrifer rheoliad 2 (dehongli) yn rheoliad 2(1) ac—

(a)ar ôl y diffiniad o “awdurdod cynllunio lleol” a geir yn y rheoliad hwnnw, mewnosoder y diffiniad a ganlyn—

  • mae i “cyfathrebu electronig” a “cyfathrebiad electronig” yr ystyr sydd i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(1);;

(b)yn y diffiniad o “holiadur” a geir yn y rheoliad hwnnw, ar ôl y geiriau “Rheoliadau hyn”, mewnosoder—

  • , ac, at y diben hwn, cymerir fod ffurflen wedi'i darparu pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i chyhoeddi ar wefan ac wedi hysbysu awdurdod cynllunio lleol—

    (a)

    ei fod wedi cyhoeddi'r ffurflen ar y wefan;

    (b)

    o gyfeiriad y wefan; ac

    (c)

    ymhle ar y wefan y gellir dod o hyd i'r ffurflen a sut y gellir ei chyrchu;.

2.  Ar ôl rheoliad 2(1), mewnosoder—

(2) Yn y Rheoliadau hyn, ac mewn perthynas â defnyddio cyfathrebu electronig at unrhyw ddiben yn y Rheoliadau hyn y mae modd ei gyflawni yn electronig,—

(a)bydd yr ymadrodd “cyfeiriad” yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebu o'r fath, ac eithrio pan fydd y Rheoliadau hyn yn gosod rhwymedigaeth ar unrhyw berson i roi enw a chyfeiriad i unrhyw berson arall, ni fydd y rhwymedigaeth wedi'i chyflawni oni roddir cyfeiriad post gan y person sydd o dan y rwymedigaeth;

(b)bydd cyfeiriadau at hysbysiadau, sylwadau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o'r fath bethau, yn cynnwys cyfeiriadau at y pethau hynny, neu at gopïau ohonynt, ar ffurf electronig.

(3) Bydd paragraffau (4) a (7) yn gymwys os defnyddir cyfrwng cyfathrebu electronig gan berson er mwyn cyflawni unrhyw ofyniad yn rheoliadau 4 i 8 o'r Rheoliadau hyn y dylai sylwadau neu ddogfennau eraill gael eu hanfon at neu eu cyflwyno i unrhyw berson arall (“y derbyniwr”).

(4) Cymerir y bydd y gofyniad wedi'i gyflawni pan fydd y ddogfen a drosglwyddir drwy gyfrwng cyfathrebu electronig—

(a)yn gallu cael ei chyrchu gan y derbyniwr;

(b)yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys; ac

(c)yn ddigon parhaol fel bod modd cyfeirio ati yn nes ymlaen.

(5) Ym mharagraff (4), ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys” yw bod yr wybodaeth a geir yn y ddogfen ar gael i'r derbyniwr i raddau nad ydynt yn llai na phe bai wedi'i hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.

(6) Os cafwyd y cyfathrebiad electronig gan y derbyniwr y tu hwnt i'w oriau busnes, cymerir ei fod wedi'i gael ar y diwrnod gwaith nesaf; ac, at y diben hwn, ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod nad ydyw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall.

(7) Bydd gofyniad yn y Rheoliadau hyn y dylai unrhyw hysbysiad neu ddogfen fod yn ysgrifenedig wedi'i gyflawni os bydd y ddogfen honno'n cwrdd â'r meini prawf a geir ym mharagraff (4); ac mae “yn ysgrifenedig” ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny (ac eithrio yn rheoliad 5)..

3.  Yn rheoliad 3 (cymhwyso'r Rheoliadau hyn), ar ôl paragraff (2), rhodder—

(2A) Pan fydd apelydd (neu, yn ôl y digwydd, yr apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol) yn rhoi gwybod felly i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy gyfrwng cyfathrebu electronig, cymerir bod yr apelydd wedi cytuno—

(a)defnyddio'r cyfathrebiadau hynny at holl ddibenion y Rheoliadau hyn, o ran yr apêl, a rheini'n gyfathrebiadau y mae modd eu cyflawni'n electronig;

(b)mai'r cyfeiriad a roddwyd gan yr apelydd at ddibenion cyfathrebu felly yw'r cyfeiriad a ymgorfforwyd yng ngohebiaeth y person hwnnw wrth hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol, neu'r cyfeiriad y mae'n rhesymol ei gysylltu fel arall â'r ohebiaeth honno; ac

(c)y bydd cytundeb tybiedig yr apelydd o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes iddo hysbysu ei fod yn dymuno dirymu ei gytundeb yn unol â rheoliad 11A,

ac ni fydd y cyfeiriadau a geir ym mharagraffau (1) a (2) o'r rheoliad hwn at benderfynu apêl ar sail sylwadau ysgrifenedig i'w cymryd fel pe baent yn eithrio defnyddio cyfathrebu electronig yn unol â'r paragraff hwn a rheoliad 2..

4.  Yn rheoliad 7 (sylwadau), ychwaneger ar y diwedd—

(9) Pan fydd parti y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn dewis defnyddio dull cyfathrebu electronig i gyflwyno, anfon, copïo neu anfon copi o unrhyw sylwadau, holiadur neu ddogfen arall, bydd y rheoliad hwn yn effeithiol yn ddarostyngedig i'r addasiadau a ganlyn—

(a)os yr apelydd yw'r parti sy'n dewis gwneud felly, yn lle'r geiriau “2 gopi o'r” ym mharagraff (3), rhodder y gair “y”, a dileer y geiriau “2 gopi o” ym mharagraff (7);

(b)os yr awdurdod cynllunio lleol yw'r parti sy'n dewis gwneud felly, yn lle'r geiriau “2 gopi o'i” ym mharagraff (4), rhodder “ei”, a dileer y geiriau “2 gopi o” ym mharagraff (7)..

5.  Yn lle rheoliad 11 (trosglwyddo dogfennau), rhodder—

Trosglwyddo dogfennau

11.  Caniateir cyflwyno, anfon neu gyflenwi hysbysiadau neu ddogfennau y mae'n ofynnol neu yr awdurdodwyd eu cyflwyno, eu hanfon neu eu cyflenwi o dan y Rheoliadau hyn—

(a)drwy'r post; neu

(b)drwy gyfrwng cyfathrebu electronig i gyflwyno, anfon neu gyflenwi'r hysbysiad neu'r ddogfen (yn ôl y digwydd) i berson yn y cyfeiriad y caiff ef ei bennu at y diben hwnnw am y tro..

6.  Ar ôl rheoliad 11, mewnosoder—

Tynnu'n ôl gydsyniad i ddefnyddio dull cyfathrebu electronig

11A.  Os na fydd person yn fodlon defnyddio cyfathrebu electronig mwyach at unrhyw ddiben o dan y Rheoliadau hyn y mae modd ei gyflawni'n electronig, rhaid i'r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig—

(a)yn tynnu yn ôl unrhyw gyfeiriad a hysbyswyd i'r Cynulliad Cenedlaethol neu i awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw; neu

(b)yn dirymu unrhyw gytundeb a wnaed gyda'r Cynulliad Cenedlaethol neu gydag awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw,

a bydd y tynnu yn ôl neu'r dirymu hwnnw yn derfynol, gan gymryd effaith ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad gan y person ond heb fod yn llai na saith niwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad..

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources