Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebu Electronig) (Cymru) (Rhif 2) 2004

Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2003

3.  Ar ôl rheoliad 9 (hysbysiad bod pob dogfen sydd ei hangen wedi cyrraedd), mewnosoder—

Defnyddio cyfathrebu electronig

9A.(1) Bydd paragraffau (2) i (6) o'r rheoliad hwn yn gymwys pan ddefnyddir cyfrwng cyfathrebu electronig gan berson at ddiben cyflawni unrhyw ofyniad sydd yn Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn i roi neu i anfon unrhyw ddatganiad, hysbysiad neu unrhyw ddogfen arall at unrhyw berson arall (“y derbyniwr”).

(2) Cymerir y bydd y gofyniad wedi'i gyflawni pan fydd y ddogfen a drosglwyddir drwy gyfrwng y cyfathrebu electronig—

(a)yn gallu cael ei gyrchu gan y derbyniwr;

(b)yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys; ac

(c)yn ddigon parhaol fel bod modd cyfeirio ati yn nes ymlaen.

(3) Ym mharagraff (2), ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys” yw bod yr wybodaeth a geir yn yr hysbysiad neu'r ddogfen ar gael i'r derbyniwr i raddau nad ydynt yn llai na phe bai wedi'i hanfon neu ei rhoi ar ffurf dogfen brintiedig.

(4) Os caiff y derbyniwr y cyfathrebiad electronig y tu hwnt i'w oriau busnes, cymerir ei fod wedi'i gael ar y diwrnod gwaith nesaf; ac, at y diben hwn, ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod nad ydyw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall.

(5) Caiff gofyniad bod yn rhaid i unrhyw hysbysiad neu ddogfen fod yn ysgrifenedig ei gyflawni os bydd y ddogfen honno'n cwrdd â'r meini prawf a geir ym mharagraff (2); ac mae “yn ysgrifenedig” ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.

(6) Pan fydd person yn apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 6 drwy gyfrwng cyfathrebu electronig, cymerir fod y person wedi cytuno—

(a)defnyddio'r cyfrwng cyfathrebu hynny at yr holl ddibenion sy'n ymwneud â'r apêl y mae modd eu cyflawni drwy gyfrwng electronig;

(b)mai cyfeiriad yr apelydd at ddibenion cyfathrebu felly yw'r cyfeiriad a ymgorfforwyd yn natganiad apelio yr apelydd neu'r cyfeiriad y mae'n rhesymol ei gysylltu fel arall â'r datganiad hwnnw;

(c)y bydd cytundeb tybiedig yr apelydd o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes iddo roi hysbysiad yn unol â rheoliad 12A ei fod yn dymuno dirymu y cytundeb..