xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Erthygl 3(1)
1. Ailrifer rheoliad 2 (dehongli) yn rheoliad 2(1) a, chyn y diffiniad o “hysbysiad gorfodi” a geir yno, mewnosoder y diffiniad a ganlyn—
“mae i “cyfathrebu electronig” a “cyfathrebiad electronig” yr ystyr sydd i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(1);”.
2. Yn rheoliad 4 (nodyn esboniadol i'w anfon gyda chopi o'r hysbysiad gorfodi), ar ddiwedd is-baragraff (a)(ii), mewnosoder—
“; neu, os defnyddir cyfrwng cyfathrebu electronig i anfon yr hysbysiad hwnnw at y Cynulliad Cenedlaethol, drwy anfon yr hysbysiad iddo ar adeg pan fyddai, yn ôl trefn arferol y trosglwyddo, fel arfer yn cyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn y dyddiad hwnnw”.
3. Ar ôl rheoliad 9 (hysbysiad bod pob dogfen sydd ei hangen wedi cyrraedd), mewnosoder—
9A.—(1) Bydd paragraffau (2) i (6) o'r rheoliad hwn yn gymwys pan ddefnyddir cyfrwng cyfathrebu electronig gan berson at ddiben cyflawni unrhyw ofyniad sydd yn Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn i roi neu i anfon unrhyw ddatganiad, hysbysiad neu unrhyw ddogfen arall at unrhyw berson arall (“y derbyniwr”).
(2) Cymerir y bydd y gofyniad wedi'i gyflawni pan fydd y ddogfen a drosglwyddir drwy gyfrwng y cyfathrebu electronig—
(a)yn gallu cael ei gyrchu gan y derbyniwr;
(b)yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys; ac
(c)yn ddigon parhaol fel bod modd cyfeirio ati yn nes ymlaen.
(3) Ym mharagraff (2), ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys” yw bod yr wybodaeth a geir yn yr hysbysiad neu'r ddogfen ar gael i'r derbyniwr i raddau nad ydynt yn llai na phe bai wedi'i hanfon neu ei rhoi ar ffurf dogfen brintiedig.
(4) Os caiff y derbyniwr y cyfathrebiad electronig y tu hwnt i'w oriau busnes, cymerir ei fod wedi'i gael ar y diwrnod gwaith nesaf; ac, at y diben hwn, ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod nad ydyw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall.
(5) Caiff gofyniad bod yn rhaid i unrhyw hysbysiad neu ddogfen fod yn ysgrifenedig ei gyflawni os bydd y ddogfen honno'n cwrdd â'r meini prawf a geir ym mharagraff (2); ac mae “yn ysgrifenedig” ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.
(6) Pan fydd person yn apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 6 drwy gyfrwng cyfathrebu electronig, cymerir fod y person wedi cytuno—
(a)defnyddio'r cyfrwng cyfathrebu hynny at yr holl ddibenion sy'n ymwneud â'r apêl y mae modd eu cyflawni drwy gyfrwng electronig;
(b)mai cyfeiriad yr apelydd at ddibenion cyfathrebu felly yw'r cyfeiriad a ymgorfforwyd yn natganiad apelio yr apelydd neu'r cyfeiriad y mae'n rhesymol ei gysylltu fel arall â'r datganiad hwnnw;
(c)y bydd cytundeb tybiedig yr apelydd o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes iddo roi hysbysiad yn unol â rheoliad 12A ei fod yn dymuno dirymu y cytundeb.”.
4. Yn lle rheoliad 12 (trosglwyddo dogfennau), rhodder—
12. Caniateir cyflwyno, anfon neu gyflenwi hysbysiadau neu ddogfennau y mae'n ofynnol neu yr awdurdodwyd eu cyflwyno, eu hanfon neu eu cyflenwi o dan y Rheoliadau hyn—
(a)drwy'r post; neu
(b)drwy ddefnyddio cyfrwng cyfathrebu electronig i gyflwyno, anfon neu gyflenwi'r hysbysiad neu'r ddogfen (yn ôl y digwydd) i berson yn y cyfeiriad post y caiff ef ei bennu at y diben hwnnw am y tro.”.
5. Ar ôl rheoliad 12, mewnosoder—
12A. Os na fydd person yn fodlon defnyddio cyfathrebu electronig mwyach at unrhyw ddiben o dan y Rheoliadau hyn y mae modd ei gyflawni'n electronig, rhaid i'r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig ei fod—
(a)yn tynnu yn ôl unrhyw gyfeiriad a hysbyswyd i'r Cynulliad Cenedlaethol neu i awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw; neu
(b)yn dirymu unrhyw gytundeb a wnaed gyda'r Cynulliad Cenedlaethol neu gydag awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw,
a bydd y tynnu yn ôl neu'r dirymu hwnnw yn derfynol, gan ddod yn effeithiol ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad gan y person ond heb fod yn llai na saith niwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.”.