xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebu Electronig) (Cymru) (Rhif 2) 2004 a daw i rym ar 1 Ionawr 2005.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i dir yng Nghymru.

Diwygio rheoliadau sy'n ymwneud ag apelau cynllunio

2.  Diwygir Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003(1) yn unol ag Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.

Diwygio rheoliadau sy'n ymwneud â hysbysiadau gorfodi ac apelau

3.—(1Diwygir Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2003(2) yn unol ag Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn.

(2Diwygir Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003(3) yn unol ag Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4))

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Tachwedd 2004