- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi grym, ar 1 Ebrill 2004, i adrannau 63 a 70(1) a (3) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”) a pharagraffau 1, 6 a 9(5) o Atodlen 6 iddi mewn perthynas â Chymru,
Mae adran 63 o'r Ddeddf yn mewnosod adrannau 130A, 130B, 130C a 130D yn Neddf Priffyrdd 1980 (“Deddf 1980”). Cyflwynwyd y darpariaethau hyn er mwyn cryfhau'r darpariaethau presennol sy'n ymwneud â symud rhwystrau o hawliau tramwy. Lle bydd unrhyw berson yn credu bod awdurdod priffyrdd lleol (“yr awdurdod”) yn methu yn ei ddyletswydd o dan adran 130 o Ddeddf 1980 i atal, cyn belled â phosibl, hawl dramwy rhag cael ei chau neu ei rhwystro, mae adran 130A yn galluogi'r person hwnnw i gyflwyno hysbysiad i'r awdurdod yn gofyn iddo sicrhau bod y rhwystr yn cael ei symud. Lle nad yw'r person a gyflwynodd yr hysbysiad yn fodlon bod y rhwystr wedi'i symud, mae adran 130B yn galluogi'r person hwnnw i geisio gorchymyn llys ynadon er mwyn gorfodi'r awdurdod i fynd ati i sicrhau bod y rhwystr yn cael ei symud. Mae adrannau 130C a 130D yn darparu materion gweithdrefnol cysylltiedig.
Mae adran 70(1) o'r Ddeddf yn ymestyn pŵer awdurdod priffyrdd o dan adran 66(3) o Ddeddf 1980 i ddarparu a chynnal a chadw nodweddion diogelwch ar lwybrau troed trwy alluogi'r awdurdod i ddarparu a chynnal a chadw pyst a thrwy ymestyn y ffordd y mae'r adran yn cael ei chymhwyso i gynnwys llwybrau ceffylau.
Mae adran 70(3) o'r Ddeddf yn ymestyn pŵer awdurdod i ddefnyddio cerbydau ar droedffyrdd, llwybrau troed a llwybrau ceffylau trwy alluogi'r awdurdod i ddefnyddio cerbydau ac offer o'r fath at ddibenion atal neu symud rhwystrau, niwsans neu ymyriadau eraill.
Mae paragraffau 1, 6 a 9(5) o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff sydd â phŵer i gadarnhau (neu, yn achos paragraff 1, i gadarnhau neu wneud) gorchymyn creu, dileu neu wyro llwybr cyhoeddus i ystyried unrhyw ddarpariaeth berthnasol mewn cynllun gwella hawliau tramwy a baratowyd o dan adrannau 60 a 61 o'r Ddeddf lle mae'r gorchymyn arfaethedig yn effeithio ar dir a gynhwysir yn y cynllun. Cychwynnwyd adrannau 60 a 61 o'r Ddeddf ar 1 Tachwedd 2002 gan Orchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2615) (Cy.253) (C.82).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: