Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 3142 (Cy.270)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Trefniadau Trosiannol) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

30 Tachwedd 2004

Yn dod i rym

1 Rhagfyr 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo o dan adran 13B(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1) a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 13 a 113(1) a (2) o'r Ddeddf honno ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Trefniadau Trosiannol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “yr ail flwyddyn drosiannol” (“second transitional year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2006;

ystyr “band prisio gwreiddiol” (“original valuation band”) yw'r band prisio sydd yn gymwys i annedd ar neu ar gyfer 31 Mawrth 2005;

ystyr “band prisio trosiannol” (“transitional valuation band”) yw band prisio sy'n gymwys i'r annedd yn ystod y cyfnod trosiannol yn unol â rheoliad 4;

ystyr “cyfnod trosiannol” (“transitional period”) yw'r cyfnod o 1 Ebrill 2005 hyd 31 Mawrth 2008;

ystyr “y drydedd flwyddyn drosiannol” (“third transitional year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2007;

ystyr “y flwyddyn drosiannol gyntaf” (“first transitional year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2005;

ystyr “nifer perthnasol y bandiau prisio y bydd annedd yn codi” (“relevant number of valuation band increases”) yw nifer y bandiau prisio'n uwch na'r band prisio gwreiddiol y bydd annedd wedi codi yn y rhestr brisio sy'n gymwys i'r annedd honno ar neu ar gyfer 1 Ebrill 2005;

ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gostyngiadau am Anableddau) 1992(3);

ystyr “Rheoliadau 1993” (“the 1993 Regulations”) yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Newid Rhestri ac Apelau) 1993(4).

Cymhwyster

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3), (4) a (5) mae bandiau prisio trosiannol sy'n gymwys i annedd i'w dynodi'n unol â rheoliad 4 ar gyfer y cyfnod trosiannol.

(2Dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y mae band prisio trosiannol i'w ddynodi mewn perthynas ag annedd:

(a)rhaid i'r annedd fod yn annedd oedd ar restr brisio ar neu ar gyfer 31 Mawrth 2005; a

(b)rhaid i'r annedd fod wedi codi nifer perthnasol o fandiau prisio, sef dau fand prisio neu fwy; ac

(c)bod y person sy'n atebol am dalu'r dreth gyngor ar yr annedd ar 31 Mawrth 2005 (neu, os oes mwy nag un person yn atebol, bod o leiaf un o'r personau hynny) hefyd yn atebol am dalu'r dreth gyngor ar yr annedd honno ar 1 Ebrill 2005 a'i fod yn atebol yn yr un modd ar ryw adeg neu adegau eraill yn ystod y cyfnod trosiannol.

(3Nid yw band prisio trosiannol i fod yn gymwys i annedd yn ystod unrhyw gyfnod pan fo'r annedd yn dod o fewn dosbarth o anheddau a ragnodwyd naill ai gan reoliad 4 (Dosbarth A) neu gan reoliad 5 (Dosbarth B) o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) 1998(5).

(4Os yw'r band prisio sy'n gymwys i annedd yn codi, fel canlyniad i newid y rhestr brisio yn ystod y cyfnod trosiannol, i fand sydd ddau neu fwy yn uwch na'r band prisio gwreiddiol yna, yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid ymdrin â'r annedd fel pe bai wedi codi nifer perthnasol o fandiau prisio, sef dau neu fwy.

(5Os yw annedd i'w thrin o dan baragraff (4) fel pe bai wedi codi nifer perthnasol o fandiau prisio, sef dau fand prisio neu fwy, dim ond o'r dyddiad y newidir y rhestr brisio yn unol â Rheoliadau 1993 neu y tybir y'i newidir felly y mae unrhyw fand prisio trosiannol a ddynodir mewn cysylltiad â'r annedd i fod yn gymwys:

(a)yn y flwyddyn drosiannol gyntaf, yn unol â rheoliad 4(3);

(b)yn yr ail flwyddyn drosiannol, yn unol â rheoliad 4(4);

(c)yn y drydedd flwyddyn drosiannol, yn unol â rheoliad 4(5).

Dynodi bandiau prisio trosiannol

4.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 3(5) a 6, mae'r band prisio trosiannol ar gyfer annedd yn ystod y cyfnod trosiannol i'w ddynodi'n unol â'r paragraffau canlynol ar gyfer pob un o flynyddoedd y cyfnod trosiannol neu ran o un o'r blynyddoedd hynny a dim ond mewn perthynas â pherson sy'n dod o fewn rheoliad 3(2)(c) y mae i'w ddynodi.

(2At ddibenion y flwyddyn drosiannol gyntaf dynodir y band prisio trosiannol sy'n gymwys i'r annedd:

(a)drwy ostwng nifer perthnasol y bandiau y bydd annedd yn codi ac a welir yng ngholofn (1) o'r Tabl yn yr Atodlen, a hynny gan y nifer cyfatebol o fandiau prisio a welir yng ngholofn (2) o'r Tabl hwnnw; a

(b)drwy godi'r band prisio gwreiddiol, a hynny nifer gostyngol y bandiau prisio y bydd annedd yn codi fel a ddynodir yn unol ag is-baragraff (a).

(3At ddibenion yr ail flwyddyn drosiannol dynodir y band prisio trosiannol sy'n gymwys i'r annedd:

(a)drwy ostwng nifer perthnasol y bandiau y bydd annedd yn codi ac a welir yng ngholofn (1) o'r Tabl yn yr Atodlen, a hynny gan y nifer cyfatebol o fandiau prisio a welir yng ngholofn (2) o'r Tabl hwnnw; a

(b)drwy godi'r band prisio gwreiddiol, a hynny nifer gostyngol y bandiau prisio y bydd annedd yn codi fel a ddynodir yn unol ag is-baragraff (a).

(4At ddibenion y drydedd flwyddyn drosiannol dynodir y band prisio trosiannol sy'n gymwys i'r annedd:

(a)drwy ostwng nifer perthnasol y bandiau y bydd annedd yn codi ac a welir yng ngholofn (1) o'r Tabl yn yr Atodlen, a hynny gan y nifer cyfatebol o fandiau prisio a welir yng ngholofn (2) o'r Tabl hwnnw; a

(b)drwy godi'r band prisio gwreiddiol, a hynny nifer gostyngol y bandiau prisio y bydd annedd yn codi fel a ddynodir yn unol ag is-baragraff (a).

Effaith dynodi bandiau prisio trosiannol

5.  Os yw band prisio trosiannol wedi'i ddynodi mewn cysylltiad ag annedd ar gyfer y cyfnod trosiannol neu unrhyw ran ohono, rhaid penderfynu ar atebolrwydd i dalu treth gyngor ar yr annedd honno a chyfrifo'r dreth gyngor fel pe bai cyfeiriadau yn Neddf 1992 at y band prisio a restrir ar gyfer yr annedd yn gyfeiriadau at y band prisio trosiannol y dynodir ei fod yn gymwys i'r annedd honno.

Cymhwyso Rheoliadau 1992 yn ystod y cyfnod trosiannol

6.  Mae paragraff (6)(a) o reoliad 4 (Cyfrifo'r swm sy'n daladwy) o Reoliadau 1992 i'w ddarllen fel pe bai'r cyfeiriad at reoliadau a wnaed o dan adran 13 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn cyfeirio at reoliadau a wnaed o dan adran 13B hefyd(6).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Tachwedd 2004

Rheoliad 4

YR ATODLEN

Tabl

Colofn (1)Colofn (2)Colofn (3)Colofn (4)
Nifer y bandiau prisio'n uwch na'r band prisio gwreiddiol y mae annedd yn codi ar 1 Ebrill 2005Yn y flwyddyn drosiannol gyntaf (2005/06) gostyngir nifer y bandiau prisio y y bydd annedd yn codi, fel a welir yng ngholofn (1), gan y nifer hwnYn yr ail flwyddyn drosiannol (2006/07) gostyngir nifer y bandiau prisio y bydd annedd yn codi, fel a welir yng ngholofn (1), gan y nifer hwnYn y drydedd flwyddyn drosiannol (2007/08) gostyngir nifer y bandiau prisio y bydd annedd yn codi, fel a welir yng ngholofn (1), gan y nifer hwn
8765
7654
6543
5432
4321
3210
2100

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Adran 13B (Trefniadau trosiannol) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i wneud rheoliadau sy'n gwneud darpariaeth at ddibenion hwyluso newidiadau yn rhwymedigaeth y dreth gyngor a achosir pan ddaw gorchymyn o dan adran 5 (Symiau gwahanol i anheddau mewn bandiau prisio gwahanol) i rym neu, mewn perthynas ag awdurdod bilio yng Nghymru, pan ddaw rhestr o dan adran 22B (Llunio a diweddaru rhestri newydd) o Ddeddf 1992 i rym. Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 13B ac maent yn gwneud trefniadau trosiannol ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2005 (sef y dyddiad y bydd rhestri adran 22B newydd yn dod i rym yng Nghymru) hyd 31 Mawrth 2008 (“y cyfnod trosiannol”).

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol bod band prisio (a elwir yn fand prisio trosiannol) yn cael ei ddynodi mewn cysylltiad ag annedd (heblaw annedd sy'n dod, am y tro, o fewn Dosbarth A neu B fel a ragnodir gan Reoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) 1998) ar gyfer y cyfnod trosiannol yn unol â rheoliad 4.

Yn rheoliad 3 gwelir o dan ba amgylchiadau y mae band prisio trosiannol i'w ddynodi yn unol â rheoliad 4. Dyma'r amgylchiadau:

(a)rhaid i'r annedd fod yn annedd oedd ar restr brisio ar 31 Mawrth 2005; a

(b)ar 1 Ebrill 2005 rhaid i'r annedd fod wedi codi i fand prisio sydd, o'i gymharu â'r band prisio perthnasol ar neu ar gyfer 31 Mawrth 2005 (“y band prisio gwreiddiol”), ddau fand neu fwy yn uwch; ac

(c)bod y person sy'n atebol am dalu'r dreth gyngor ar yr annedd ar 31 Mawrth 2005 (neu os oes mwy nag un person yn atebol, bod un o'r personau hynny) hefyd yn atebol mewn cysylltiad â'r annedd ar 1 Ebrill 2005 ac ar ryw adeg neu adegau eraill yn ystod y cyfnod trosiannol.

Os newidir y rhestr brisio yn ystod y cyfnod trosiannol fel bod y band prisio ar gyfer annedd yn codi i fand sydd ddau neu fwy yn uwch na'r band prisio gwreiddiol, mae rheoliad 3(4) yn darparu ei bod yn rhaid ymdrin â'r annedd honno fel pe bai'n bodloni'r amgylchiadau y cyfeirir atynt yn (b) uchod. Os yw annedd, o dan reoliad 3(4), i gael ei thrin fel pe bai wedi codi nifer perthnasol o fandiau prisio, sef dau fand neu fwy, mae rheoliad 3(5) yn darparu bod y band uwch i fod yn gymwys o'r dyddiad pryd y newidir y rhestr brisio neu y tybir y'i newidir yn unol â Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Newid Rhestri ac Apelau) 1993.

Yn rheoliad 4, sy'n ddarostyngedig i reoliadau 3(5) a 6, gwelir ar ba sail y dynodir band prisio trosiannol ar gyfer annedd ym mhob un o'r tair blynedd ariannol (neu ran o flwyddyn ariannol o'r fath) yn y cyfnod trosiannol. Dim ond yn achos person sy'n dod o fewn rheoliad 3(2)(c) y mae band prisio trosiannol i'w ddynodi. Mewn blwyddyn ariannol yn y cyfnod trosiannol mae nifer perthnasol y bandiau prisio y bydd annedd yn codi ac sy'n uwch na'r band prisio gwreiddiol, fel a welir yng ngholofn (1) o'r Atodlen, i'w ostwng gan y nifer cyfatebol o fandiau a welir yng ngholofn (2), (3) neu (4) ar gyfer y flwyddyn ariannol honno. Ychwanegir at y band prisio gwreiddiol nifer y bandiau prisio y bydd annedd yn codi ac sy'n deillio o gyfrifo o'r fath er mwyn canfod y band prisio trosiannol sy'n briodol ar gyfer pob blwyddyn ariannol (neu ran o flwyddyn ariannol) yn y cyfnod trosiannol.

Pan fo band prisio trosiannol yn gymwys i annedd, mae rheoliad 5 yn darparu ei fod i'w gymryd yn sail i benderfynu a chyfrifo atebolrwydd dros dalu'r dreth gyngor.

Mae rheoliad 6 yn darparu bod rheoliad 4(6) o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gostyngiadau am Anableddau) 1992 (“Rheoliadau 1992”) i'w ddarllen yn ystod y cyfnod trosiannol fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at reoliadau a wneir o dan adran 13B o Ddeddf 1992 (h.y. y Rheoliadau hyn). Felly, caiff swm y dreth gyngor sy'n daladwy fel y'i cyfrifir o dan reoliad 4 o Reoliadau 1992 ei addasu drwy gyfeirio at y trefniadau trosiannol a wneir gan y Rheoliadau hyn.

Mae'r Tabl yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn nodi yng ngholofn (1) nifer y bandiau y bydd annedd yn codi ar 1 Ebrill 2005 ac sy'n berthnasol at ddibenion rheoliad 4. Mae colofnau (2), (3) a (4) o'r Tabl yn nodi'n unol â hynny gan ba nifer cyfatebol o fandiau prisio y gostyngir nifer y bandiau y bydd annedd yn codi fel a welir yng ngholofn (1), a hynny yn y flwyddyn ariannol gyntaf, yr ail flwyddyn ariannol a'r drydedd yn y cyfnod trosiannol.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(4)

O.S. 1993/290 fel y'i diwygir gan O.S. 1994/1746, O.S. 1996/613, O.S. 1995/363, O.S. 2000/409 ac O.S. 2001/1439. Gwnaed diwygiadau eraill i'r O.S. hwn nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(5)

O.S. 1998/105 fel y'i diwygir gan O.S. 2004/452 (Cy. 43).

(6)

Mewnosodwyd adran 13B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 gan adran 79 (Trefniadau Trosiannol) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26).